Gwaith Copr
Sygyn





�
|
Cyflwyniad
Mae olion mwyngloddio
yn frith yn Eryri lle'r oedd y dyffrynnoedd dyfnion a'r brigiadau creigiog
yn annog cloddio am fwynau a lle'r oedd digon o bwer i yrru'r peiriannau
prosesu trwy gyfrwng olwynion dwr. Yma gwelir olion siafftiau lu, twneli,
olwynion dwr ac adfeilion adeiladau. Dyddiwyd rhai o'r gweithfeydd i gyfnod
y Rhufeiniaid ond yn yr 16eg ganrif a'r cyfnodau a ddilynodd y mae gwreiddiau
llawer o'r lleill.
Mae
mwynglawdd Sygyn filltir o bentref Beddgelert yng nghwm bendigedig Gwynant
yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Rhed y mwyngloddiau i fyny ochr y
mynydd uwchben Llyn Dinas, i Lyndu, ac oddi yno ceir golygfa fendigedig
ar draws i ochr ddeheuol yr Wyddfa. Mae'n nodweddiadol o fwynglawdd metelog
ac fe'i hadnewyddwyd a'i ddiogelu fel bod ymwelwyr yn gallu chwilio'r
gweithfeydd dan ddaear yn gwbl ddiogel. Bellach mae arweinwyr yn tywys
ymwelwyr trwy'r hen weithfeydd i weld gwythiennau o fwyn copr a siambrau
mawr yn cynnwys stalactitau a stalagmitau gwych yn lliwiau cyfoethog yr
ocsid haearn a gludwyd gan y dwr a dreiddia trwy'r creigiau. Mae sylwebaeth
ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg ac mae goleuadau arbennig
yn cyfrannu at y cipolwg realistig a geir o'r gorffennol. Mae'r llwybr
yn codi bron 45 metr trwy gyfrwng grisiau, twneli troellog ac ogof�u lliwgar
i ddod i'r wyneb yn lefel Victoria lle ceir golygfa a fydd yn mynd �'ch
gwynt o Ddyffryn Gwynant a'r 'Wyddfa a'i chriw'. Mae llwybrau hyfryd ac
arnynt arwyddion clir ar hyd ochr yr afon i fyny at y llyn, Llyn Dinas,
ac i lawr i Feddgelert.
|