![]() |
|
|||
� | � | |||
Gwaith Copr � |
Daeareg a Mwneiddiad Dan ddaear, mae modd gweld yr agen-gloddiadau a ffrwydrwyd o'r graig, lle cloddiwyd y gwythiennau a oedd yn cynnwys digon o fwyn-copr i'r gwaith fod yn werth chweil. Yr enw ar agen-gloddiadau o'r fath yw ponciau. Roedd yr Wyddfa a'r ardal o'i chwmpas yn bwysig yn y 18fed a'r 19eg ganrif am fwyngloddio. Mae'r gwythiennau mwyn yn gyffredin a chaent eu gweithio yn bennaf am eu copr ond hefyd yn lleol am blwm ac, yn ardal Bethesda, am arsenig. Cymedrol o faint oedd y mwyngloddiau at ei gilydd ac roedd y tirwedd mynyddig yn gwneud y gwaith yn anodd, yn enwedig ar yr Wyddfa ei hun lle ceir mwyngloddiau bron 2000 troedfedd (610m) uwchben lefel y m�r. Mae'n brofiad sobreiddiol cerdded i fyny i Lyndu ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog yn yr hydref a cheisio dychmygu gorfod gweithio yno bob dydd, ym mhob tywydd a heb y dillad diddos sydd ar gael y dyddiau hyn! Rhaid bod chwarelwyr copr Eryri yn ddynion glew a gwydn.
Wrth droed y creigiau folcanig y mae llifoedd-lafa y mae eu hymddangosiad yn dangos iddynt echdorri o waelod y m�r. Dilynwyd y gweithgarwch cynnar hwn gan echdoriad enfawr a ddydododd y creigiau yn Sygyn, a elwir yn Ffurfiant Twff Rhyolitig Isaf. Cynhyrchodd yr echdoriad gyfanswm anhygoel o greigiau - amcangyfrifir ei fod cymaint � 60km3 - o'r enw tyffau llif-lludw, a ffurfir pan fydd cymylau gwynias o ludw yn ffrwydro allan o losgfynydd ac yn llifo'n gyflym i lawr ei lethrau. Bu ffrwydradau tebyg mewn cyfnodau diweddar, fel yn Mount St Helens, ym 1980, ac yn fwy diweddar ym Montserrat. Ond rhyw f�n ddigwyddiadau oedd y rhain o gymharu �'r hyn a ddigwyddodd o gwmpas yr Wyddfa yn y Cyfnod Ordofigaidd! Parhaodd y gweithgarwch folcanig wedi'r cyfnod hwn, ond ni fu erioed lawn mor ddwys, ac yn y pen draw dychwelodd yr ardal i'w chyflwr morol tawel blaenorol. Dim ond yn ddiweddar, ym 1985, y deallodd aelodau o d�m mapio Arolwg Daearegol Prydain yn union pryd y ffurfiwyd y gwythiennau copr. Yn ystod cyfnod trai y gweithgarwch folcanig, bu darfudo ar ddwr m�r, a oedd wedi treiddio i wreiddiau'r llosgfynydd. Darfudwyd yr hylifau poeth (hydrothermol) hyn o ganlyniad i wres y magma tawdd, ac fe'u gwthiwyd trwy'r pentwr enfawr o greigiau echdoredig. Oherwydd eu bod yn ddyfroedd heli poeth, gallent yn rhwydd doddi copr a metelau eraill o'r laf�u a'r lludw folcanig. Ymhen amser, treiddiasant i mewn i'r system ffawtiau a oedd wedi rheoli sut yr oedd y llosgfynydd wedi datblygu yn y lle cyntaf. Yma, gwaddodwyd y mwynau copr a'r mwynau eraill, tua 2 gilometr o dan yr wyneb, yn �l yr amcangyfrif. Dau sylffid a geir yn bennaf ymhlith y mwynau yn Sygyn. Mae pyrit, sylffid haearn, yn gyffredin iawn, ond c�i ei daflu ymaith fel gwastraff. Mae'n felynwyn disglair ac yn drwm a chaled. Sylffid haearn-copr yw calcopyrit, sef y mwyn copr. Mae hwnnw hefyd yn felyn, ond yn lliw euraid llawer cyfoethocach. Mae'n drwm fel pyrit ond yn feddalach, ac yn aml mae'n datblygu afliwiad lliwgar o ganlyniad i effaith y tywydd.
Ynghyd �'r mwynau copr yn Sygyn ceir mwynau gwastraff neu fwynau "gang". Maent yn cynnwys cwarts, carreg galed, ysgyrllyd, o liw gwyn llaethog. Yn aml ceir mwyn caenog o liw gwyrdd pwl gyda'r cwarts. Clorit yw hwn, mwyn silicad cymhleth yn cynnwys haearn a magnesiwm ymhlith elfennau eraill. Yn fwy diweddar, mewn termau daearegol, mae effaith y tywydd wedi newid rhai o'r gwythiennau sy'n agos at yr wyneb. Yn ymyl y llwybr troed i Lyndu, ger pen y bryn, mae pentyrrau o dwff pinc a melyn canedig yn nodi lle bu peth m�n brofi am fwynau haearn. Ffurfiwyd y rhain gan drwytholchi dwfn ar y tyffau ar hyd llinellau ffawtiau, gan adael ar �l ddim ond y creigiau canedig a chodennau o ocsidau haearn. Mae proses debyg yn digwydd heddiw, dan ddaear yng nghloddfa Sygyn. Mae dwr sy'n diferu i lawr trwy'r creigiau yn codi haearn ar ei ffordd a, phan ddifera trwy do'r gloddfa, yn ei ddyddodi ar ffurf stalactitau brown, hir. Pan fo mwynau copr yn agos, bydd y stalactitau hyn weithiau yn rhai copr sylffad ac yn lliw glas bendigedig. |
|||
|