![]() |
|
|||
� | � | |||
Gwaith Copr � |
Hanes ac Archaeoleg
Cafodd y mwynglawdd sawl perchennog gwahanol ond bu Henry McKeller yn berchennog arno o 1839 hyd ei farw ym 1862, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cloddiwyd rhwng 2,000 a 3,000 tunnell o fwyn. Unwaith eto bu newid perchenogaeth hyd nes y caeodd y mwynglawdd am y tro olaf ym 1903. Symudwyd yr holl offer a'r peiriannau i fwynglawdd arall yn y Glasdir ger Dolgellau. Am y rhan fwyaf o hanes mwynglawdd Sygyn byddai'r mwyngloddwyr yn gwneud tyllau � morthwyl a chyn ac yna'n eu llenwi � phowdr gwn ac yn ei danio. Wrth iddynt symud y mwyn a'r graig wastraff gadawent golofnau o graig i gynnal y to a morthwylio pegiau metel i'r waliau i ategu siliau pren neu loriau i sefyll arnynt. Byddai cerrig gwastraff o'r gwaith uwch hwn yn cael eu pentyrru ar y pren fel bod y llawr yn codi gyda'r mwyngloddiwr.
Am gyfnod byr ym 1958 adfywiodd Sygyn eto pan gafodd ei droi'n bentref Tsieineaidd ar gyfer ffilmio The Inn of the Sixth Happiness gydag Ingrid Bergman, Curt Jurgens a Robert Donat. Ym 1983 ailagorwyd yr agorfa ddofn a dechreuodd gwaith adfer yn hydref 1985 cyn yr agoriad ym 1986. Symudwyd cannoedd o dunelli o rwbel � llaw o'r hen weithfeydd, codwyd y to fel ei bod yn haws mynd i mewn, gwnaed gwelliannau i'r llwybrau ac i'r traeniad a chodwyd grisiau. Ym 1988 derbyniodd mwynglawdd Copr Sygyn Wobr Tywysog Cymru ac i nodi'r achlysur, cyflwynwyd bar o gopr, wedi ei buro o fwyn copr Sygyn, i'r Tywysog. Mae'r mwynglawdd hefyd wedi derbyn Gwobr Come to Britain Bwrdd Croeso Prydain. |
|||
|