�
O'r
bryniau glas i'r traethau melyn, o glogwyni serth ar lan y m�r
i foelni garw Eryri, mae golygfeydd Cymru'n gyfareddol. O dan
yr wyneb y mae'r creigiau a roddodd si�p a nerth diwydiannol
i Gymru. Yn wir, ychydig o leoedd tebyg sydd yn y byd � threftadaeth
ddaearegol mor gyfoethog. Dros 700 miliwn o flynyddoedd gosodwyd
creigiau i lawr, eu plygu a'u troi, eu herydu a'u chwistrellu
� lafa folcanig a dyfroedd llawn o fwynau. Cafodd cerrig meddal
eu caledu i ffurfio llechi a throwyd corsydd trofannol yn lo. |
|
 |
 |
Mae
cysylltiad annatod rhwng ein hanes a manteisio ar yr adnoddau
hyn dan y ddaear. O'r Oes Efydd hyd heddiw bu cloddio yn y ddaear
i ddwyn allan fwynau gwerthfawr, glo a llechi. Mae masnach fyd-eang
yng nghyfoeth y mwynau gwerthfawr wedi dod � llewyrch a bri
rhyngwladol i Gymru. |
|
Mae
treftadaeth ddaearegol a diwydiannol Cymru wedi rhoi inni amgueddfa
awyr agored anferth sy'n disgwyl inni anturio iddi. Mae'r daith
hon o gwmpas y 12 safle pwysicaf dan y ddaear yng Nghymru yn
mynd � chi i galon ein gorffennol daearegol a diwydiannol. Os
ydych am wybod rhagor am greigiau a mwynau, neu weld sut oedd
mwyngloddwyr yn eu tynnu o'r dyfnderoedd, neu os nad ydych ond
am anturio dan y ddaear, dyma'r llwybr i chi. |
|
 |
�
�
|