Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Pwll Mawr
(Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru)

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Cyflwyniad

Cyn lowyr yn tywys ymwelwyr ar hyd llwybr dan y ddaearRoedd y Pwll Mawr yn gweithio fel pwll glo hyd nes y caeodd ym 1980. Yna, ym 1983 daeth yn amgueddfa i ddiwydiant glo De Cymru ac ar Chwefror 1af 2001 daeth yn rhan o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru fel Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru. Bellach, saif yn uchel ar foelydd rhedynnog gogledd Gwent yn derbyn ymwelwyr i mewn yn hytrach nag anfon glo allan.

Uchafbwynt yr ymweliad yw�r daith awr o hyd dan y ddaear, dan arweiniad cyn lowyr, sy�n mynd � chi i lawr yn y gawell i gerdded ar hyd y llwybrau tanddaearol, trwy ddrysau aer, stablau a pheiriandai a godwyd gan genedlaethau o lowyr. Ar yr wyneb cewch edrych ar adeiladau�r lofa - y peiriandy weindio, gweithdy�r gof a�r baddonau pen-pwll lle cewch ddysgu rhagor am hanes y glo a�r gwaith o�i dynnu o berfeddion y ddaear.


Hanes ac Archaeoleg >>