No Kyc Online Casinos 2025Non Gamstop CasinosNon Gamstop Casinos UKBest Casino Not On GamstopNon Gamstop CasinosUK Non Gamstop Casinos
Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
� �

Pwll Mawr
(Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru)

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

�

Hanes ac Archaeoleg

Ar ymyl ddwyreiniol Maes Glo De Cymru y saif y Pwll Mawr, lle mae glo yn brigo i�r wyneb ar ochrau�r bryniau. Cafwyd hyd i fwyn haearn a charreg galch yma hefyd ac felly naturiol oedd sefydlu gwaith haearn ym Mlaenafon. Ym 1789 y gwnaed hynny ac mae�r olion bellach ar agor i ymwelwyr a rhoddwyd statws Safle Treftadaeth Byd i Flaenafon.

Golygfa ar draws y lofa pan oedd yn ei hanterth yn y 1920auAm lawer blwyddyn c�i glo a haearn eu cludo i�r arfordir ar ffordd a chamlas, ond ym 1852 daeth y rheilffordd o Gasnewydd i Flaenafon a daeth cynnydd chwim yn y cynhyrchu. I ddechrau torrwyd lefelydd neu ddrifftiau i ochrau�r bryniau, gan ddilyn yr haenau glo brig. Un o�r rhain oedd Llethr y Pwll [y Mine Slope], sy�n dyddio o oddeutu 1840 ac a ymgorfforwyd yn ddiweddarach yn y Pwll Mawr pan suddwyd hwnnw i�w ddyfnder presennol ym 1880. Ailddarganfuwyd cloddfa ddrifft arall, Llethr Dodd [Dodd's Slope], ym 1989 ac mae ei mynedfa bellach yn rhan o�r atyniadau ar wyneb y Pwll Mawr.

Saif y Pwll Mawr ar safle pwll cynharach, Pwll Kearsley, y suddwyd siafft o 39 metr iddo ym 1860. Daeth y Pwll Mawr i fodolaeth pan ddyfnhawyd y siafft i 89 metr. Cafodd ei enw oherwydd maint ei siafft eliptig. Roedd yn 5.5m wrth 4.6m a dyma�r gyntaf yn yr ardal a oedd yn ddigon llydan i weindio dwy ddram o lo ochr yn ochr. Cyn hir roedd y lofa yn cynhyrchu mwy na 100,000 tunnell o lo o ardal o ryw 12 milltir sgw�r. Wrth i�r gwaith ymestyn allan o�r siafft, ymgorfforodd y pwll weithfeydd eraill fel Llethr y Pwll a Lefel yr Efail, sef yr �ail ffordd ma�s� o�r pwll erbyn hyn. Gweithiwyd naw haen wahanol o lo ar ryw adeg neu�i gilydd yn ystod oes y Pwll Mawr ac roedd y glo a gynhyrchai yn �lo ager� o�r radd flaenaf, glo y daeth De Cymru yn enwog amdano ledled y byd. Wrth i amser fynd rhagddo darfu haenau neu daethant yn amhroffidiol ac fe�u caewyd. Yr haen olaf, y Garw, oedd yr haen olaf i�w gweithio yn y Pwll Mawr. Roedd yn lo golosg rhagorol, ond 71cm oedd ei drwch mwyaf ac roedd yn galed iawn ac felly�n anodd ei drin.

Mae’r gawell a fu unwaith yn cario’r glowyr bellach yn mynd ag ymwelwyr dan y ddaearFel ym mhob glofa arall yn Ne Cymru, torrai�r glowyr y glo �u dwylo ac ni ddaeth peiriannau i wneud y gwaith yn y Pwll Mawr hyd 1908 pan osodwyd cludydd mecanyddol. Roedd Pwll Mawr yn un o�r glofeydd cyntaf yn y De i gael trydan, ac erbyn 1910 roedd y wyntyll awyru, y pympiau a�r system halio dan y ddaear i gyd yn cael eu gyrru gan drydan. Daliwyd i ddefnyddio injan ager i yrru�r g�r weindio hyd 1953. Daeth y cyntaf o welliannau gwladoli�r diwydiant wedi�r Rhyfel i�r Pwll Mawr ddiwedd y 1950au ar ffurf aradr, sef torrwr a llwythwr mecanyddol a g�i ei dynnu hyd yr wyneb � chadwyn. Dyma�r unig system addas ar gyfer Haen Garw a ch�i�r glo ei gario i�r wyneb ar hyd drifft newydd a agorwyd ganol y 70au. Cadwyd y briff siafft ar gyfer cynnal a chadw yn unig ac �i�r glowyr i mewn ac allan trwy�r ddrifft newydd.

Hyd 1939 teithiai�r glowyr yn �l ac ymlaen i�r gwaith yn eu dillad gwaith, ond y flwyddyn honno agorwyd y baddonau pen-pwll. Wedi hynny roedd gan y glowyr ddau locer - un ar gyfer dillad gl�n ac un ar gyfer dillad gwaith, gyda�r cawodydd yn y canol. Bellach mae arddangosfa a chaffi trwyddedig yn yr hen faddonau.

Cyrhaeddodd cynhyrchu glo uchafbwynt yn ne Cymru ym 1913 a phan oedd brysuraf cyflogai�r Pwll Mawr 1,300 o ddynion. Yna daeth dirywiad araf gyda�r cyfnod gwaethaf yn ystod dirwasgiad yr ugeiniau a�r tridegau pan oedd diweithdra yn 57% ym Mlaenafon. Bu cynnydd mewn gwaith eto gyda dechrau�r Ail Ryfel Byd wrth i lo ddod yn hanfodol, ond pan ddaeth heddwch bu gostyngiad eto mewn galw ac erbyn 1966 y Pwll Mawr oedd yr unig bwll dwfn ar �l yn ardal Blaenafon. Ym 1980, pan gaeodd y pwll, dim ond 250 oedd yn gweithio yno. Yna, yn Ebrill 1983 ailagorodd y Pwll Mawr yn ganolfan i ymwelwyr.


Daeareg >>