Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Ogof�u Arddangos Cenedlaethol - Dan yr Ogof

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Cyflwyniad

Siambr y Bont yn Nan yr OgofMae Canolfan Ogof�u Arddangos Cenedlaethol Cymru yng nghanol harddwch digymar Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yno ceir golwg ryfeddol ar ffenomena naturiol ffurfiant ogof�u. Mae ogof�u Dan yr Ogof wedi eu gwneud o galchfaen carbonifferaidd, a ffurfiwyd tua 315 miliwn o flynyddoedd yn �l. Gan fod craciau ac agennau yn y graig, bu modd i ddwr lifo trwyddi, gan doddi�r calchfaen a chreu�r ogof�u a welwn ni heddiw.

Mae tair ogof i�w harchwilio: Ogof Arddangos Dan yr Ogof; Ogof yr Eglwys Gadeiriol ac Ogof yr Esgyrn. Mae�r tair yn dangos enghreifftiau nodedig o ffurfiant ogof�u. Yn ogof Dan yr Ogof, stalagtitau a stalagmitau yw�r ffurfiau mwyaf cyffredin, ond mae nodwedd brin hefyd, sef helegtitau, sy�n tyfu i�r ochr, yn wahanol i�r stalagtitau a�r stalagmitau, y mae�r naill yn tyfu i lawr a�r lleill i fyny. Mae enghreifftiau da yn yr ogof hon o garreg ddylif ac o lenni.

Triceratops ym Mharc y DeinosoriaidGwelir ffurfiant anarferol yn Ogof yr Esgyrn, lle mae�r stalagtitau ar ffurf cnapau enfawr, wedi eu gorchuddio � gwaddod gwyn. Rhoddwyd yr enw �Lloerlaeth� i�r deunydd hwn gan mor ryfedd yw - mae�n debyg i iogwrt trwchus! Ffurf arall ar galchit yw mewn gwirionedd, lle mae llawer o ddwr, ac weithiau o laid, wedi ei gau am y crisialau.

Yng Nghanolfan Ogof�u Arddangos Cymru hefyd mae Parc y Dinosoriaid lle mae 50 model o ddinosoriaid maint-llawn, fferm ddilys o Oes yr Haearn, Canolfan Ceffylau Gwedd, Cylch Cerrig y Mileniwm, ac Amgueddfa.


Hanes ac Archaeoleg >>