![]() |
|
|||
Ogof�u Arddangos Cenedlaethol - Dan yr Ogof
|
Hanes ac Archaeoleg Yr oedd yn 1912 pan archwiliodd y brodyr Morgan yr ogof�u gyntaf, a�u disgynyddion nhw sy�n rhedeg Canolfan Ogof�u Arddangos Cymru heddiw. Aeth y ddau frawd, Ashwell a Jeff, i mewn i Ogof Arddangos Dan yr Ogof trwy lwybr bychan. Mae cip i�w weld ar y llwybr y tu mewn i�r twnnel byr cloddedig sydd bellach yn cysylltu pen y twneli sych �r byd y tu allan. Cwrwgl oedd yn cario�r brodyr i mewn i�r ogof�u, ar draws y llyn bychan a elwir heddiw yn Bwll y Cwrwgl. Canhwyllau a lampau olew oedd yn goleuo eu taith a buont yn torri saethau yn y tywod neu�r llaid er mwyn cofnodi eu taith trwy�r ogof�u. Pan gyrhaeddodd y brodyr Siambr y Bont o�r diwedd gwelsant fod yna dri llyn i�w croesi mewn gwirionedd, nid un. Am 25 mlynedd ni wnaed dim rhagor. Ar �l rhagor o archwilio yn y 1930au a�r 1960au darganfuwyd dros 10 milltir o dwneli. Dim ond ogofawyr profiadol sy�n gallu mynd trwyddynt, a�r farn yw bod llawer rhagor i�w ddarganfod.
Mae Ogof yr Esgyrn yn dangos gwahanol olygfeydd o �fywyd ogof�. Ond golygfa o�r archaeolegwyr yn gweithio yn yr ogof yw�r gyntaf, yn dadorchuddio tystiolaeth o fywyd blaenorol yr ogof. Fe�u dangosir yn defnyddio offer syrfeio, cyfarpar lluniadu a ffotograffig, rhidyllau a gridiau. Dangosir hefyd yn Ogof yr Esgyrn ddwy olygfa o seremoni gladdu ac un o deulu o�r Oes Efydd yn dilyn eu gwaith bob dydd. Ond nid bodau dynol oedd yr unig rai i ddefnyddio�r ogof�u. Yn Ogof yr Esgyrn ceir enghreifftiau o bedwar anifail a fu�n defnyddio�r ogof�u fel ffau yn ystod Oes yr I�, sef Arth Ogof, Teigr Ysgithrog, yr Udfil a�r Blaidd.
Ymhellach i mewn yn yr ogof, yn y pyllau bach, dangosir rhai o�r anifeiliaid a fyddai�n byw mewn ogof�u. Yma, gallwch weld modelau, ddwywaith eu gwir faint, o dri o�r anifeiliaid mwyaf a geid mewn ogof�u yn Ewrop. Protews yw�r cyntaf - salamandr a geir yn naturiol mewn ogof�u yn Nwyrain Ewrop yn unig. Mae�r ail yn Salamandr o Dde Ewrop, ac yn perthyn o bell i�r Protews. Mewn rhai ogof�u ym Mhrydain, fel y dangosir yn y drydedd enghraifft, mae�n bosibl cael hyd i bysgod sydd bron yn gwbl wyn. Brithyll yw�r rhain fel arfer, sydd wedi colli eu pigment trwy fyw mewn ogof�u. Os bydd y pysgod yn dychwelyd i fyw y tu allan i�r ogof, mae�r marciau a welir ar frithyll arferol yn dychwelyd. |
|||
|