Ogof�u Arddangos Cenedlaethol - Dan yr Ogof





|
Daeareg
Mae
ogof�u Dan yr Ogof wedi eu gwneud o galchfaen carbonifferaidd a ffurfiwyd
rhyw 315 miliwn o flynyddoedd yn �l, pan oedd yr ardal lle mae Canolfan
Ogof�u Arddangos Cenedlaethol Cymru yn awr yn gorwedd i�r de o�r cyfandir
ac wedi ei gorchuddio � m�r trofannol cynnes. Trigai cwrelau, pysgod cregyn
a llu o greaduriaid bychain yn y dyfroedd hyn. Wedi iddynt farw, suddai
eu cregyn a�u sgerbydau i waelod y m�r. Dyma ffynhonnell calsiwm carbonad,
deunydd crai creigiau carreg galch. Dros filiynau o flynyddoedd, claddwyd
y tywod a�r lleidiau calsiwm carbonad hyn yn ddwfn a�u trawsnewid yn gerrig
calch. Symudwyd cyfandiroedd a chodwyd cadwynau mynyddoedd a�u herydu.
O ganlyniad mae Dan yr Ogof erbyn heddiw yn llain dymherus hemisffer y
gogledd, filoedd o filltiroedd o�r lle y tarddodd ei garreg galch.
Tua phum miliwn o
flynyddoedd yn �l, yn ystod ac yn dilyn datblygiad yr Alpau, roedd Dan
yr Ogof yng nghanol cyfnod gweddol ddigynnwrf. Gellid adnabod rhai o nodweddion
y tirlun fel y mae heddiw. Roedd lefel y m�r tua 200 metr yn uwch nag
y mae heddiw. Ac felly roedd gwelyau�r afonydd yn uwch hefyd. Roedd ogof�u
yn ffurfio ar y lefelau hyn.
Yna,
tua dwy filiwn o flynyddoedd yn �l, dechreuodd Oes yr I�. Cafodd peth
wmbredd o ddwr ei gloi yn y tir gan gapiau i� pegynnol a rhewlifiannau
yn yr ardaloedd mynyddig. Oherwydd hynny, roedd llai o ddwr yn y m�r ac
aeth lefelau�r moroedd i lawr. Ymatebodd yr afonydd trwy dorri i mewn
i�w gwelyau a ffurfio ceunentydd a rhaeadrau. Torrodd yr afonydd tanddaearol
yn yr ogof�u lwybrau newydd is a gadael y lefelau uwch. Dyna yw Ogof yr
Eglwys Gadeiriol - lefel uwch a adawyd. Ffurfiwyd ogof arddangos Dan yr
Ogof yn un o�r lefelau is hyn ac mae�r afon yn dal i dorri ei ffordd i
lawr i ffurfio llwybrau ogof hyd yn oed yn is.
Tua 800 mil o flynyddoedd
yn �l oerodd yr hinsawdd yn ddirfawr a chafwyd eira trwm a meysydd i�
ar dir uchel a rhewlifoedd yn y dyffrynnoedd. Rhwng y cyfnodau oer cafwyd
cyfnodau cynhesach, ac yn un o�r rheiny yr ydym yn byw yn awr. Roedd yr
effeithiau ar ogof�u yn ystod y cyfnodau cynhesach yn aml yn bur ddramatig,
oherwydd pan doddai�r i�, byddai�r llifogydd yn llenwi llawer ohonynt
� malurion rhewlifol. Daeth yr i� a diflannu eto ac yn y cyfnodau o ddadmer
ffurfiwyd stalagtitau a stalagmitau. Mae ffurfiannau�r ogof�u yn dal i
ddatblygu heddiw wrth i law asidig doddi�r calchfaen ac yna ei ddyddodi
yn stalagtitau a stalagmitau yn yr ogof�u.
|