![]() |
|
|||
Mwynglawdd
|
Cyflwyniad Mae'r llwybr treftadaeth arobryn yn cynnwys taith dan ddaear, olwynion dwr sy'n gweithio, peiriannau a thramffyrdd a chwt golchi lle gallwch weithio ar ddeunydd o'r mwynglawdd a chwilio am fwynau. 'Llwybr y Mwynwyr' yw'r enw ar y llwybr hunan-dywys sy'n cysylltu nodweddion naturiol y Mwynglawdd a rhai o waith dyn. Dim ond wyth gris sydd i'r daith dan ddaear dywysedig ac felly gall pawb fynd y tu hwnt i 'Ardal y Daeargrynfeydd' i'r Affwys Mawr lle y datgelir Chwedl y Capten. Mae'n atyniad difyr ym mhob tywydd gydag arddangosfeydd lliwgar dan do a'r casgliad gorau o arteffactau mwyngloddio arian-plwm yng Nghymru. |
|||
|