![]() |
|
|||
Mwynglawdd
|
Daeareg a Mwneiddiad Mae Canolbarth Cymru yn ardal fawr o greigiau gwaddod o'r cyfnod Ordofigaidd Isaf i'r Silwraidd Canol. Yn Llywernog creigiau Silwraidd Isaf a geir, sy'n eu gwneud ychydig yn iau na 430 miliwn o flynyddoedd oed! Mae'r creigiau'n amrywio o lechfaen a si�l i leidfeini a grutiau. Fe'u gwaddodwyd dan ddwr mewn basn-m�r enfawr a orweddai ar ymyl ddeheuol y cefnfor mawr y mae daearegwyr yn ei alw'n Iapetus, yr oedd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gorwedd gyferbyn ar ei lannau! Ar ddiwedd y Cyfnod Silwraidd, bu gwrthdrawiad rhwng dwy ochr gyferbyn cefnfor Iapetus. Dros filiynau o flynyddoedd gwasgwyd hen wely'r m�r a'i wthio ar i fyny i greu cadwyn o fynyddoedd. Mynyddoedd Cambriaidd Canolbarth Cymru yw olion erydedig y gadwyn hon o fynyddoedd. Ac felly, pan gerddwch trwy'r twneli dan y ddaear yn Llywernog, rydych yn mynd i mewn i wely m�r sydd dros 400 miliwn o flynyddoedd oed!
Yn y Canolbarth, denodd plwm, ac yn arbennig arian, lawer o ddiddordeb yn yr 17eg ganrif ac roedd bathdy yn Aberystwyth a wn�i ddarnau arian o arian lleol. Yn ddiweddarach, yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu cynnydd digyffelyb mewn gweithgarwch mwyngloddio gyda dwsinau o weithfeydd. Erbyn hynny yr oedd sinc hefyd yn bwysig ac ailweithiwyd mwynau sinc a oedd wedi eu taflu o'r neilltu cyn hynny. Mae'r ardal hefyd wedi cynhyrchu peth copr ynghyd � barytau a sylffidau haearn - a g�i eu gwerthu i wneud asid sylffwrig. Daeth mwyngloddio i ben yn y diwedd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac ers hynny bu Natur wrthi'n hawlio'r safleoedd yn �l. Ond mae rhai olion rhagorol yn dal i oroesi - ac yn Llywernog, adferwyd un o'r casgliadau gorau o adeiladau mwyngloddio yn unrhyw fan yn yr ardal mewn prosiect sydd wedi tyfu'n gyson ers iddo ddechrau yn Ionawr 1974, pan ddaeth y timau cyntaf i'r safle i ddechrau ar eu gwaith. Roedd mwynglawdd Llywernog yn cynnwys dau brif grwp o weithfeydd. Ar adegau buont yn gweithio ar wah�n ac ar adegau ar y cyd. Ar ochr ddeheuol prif ffordd yr A44, ac yn agos ati, mae'r grwp o weithfeydd a elwir yn waith Powell, ac i'r gogledd o'r A44 mae olion helaethach gwaith Poole, sef Mwynglawdd ac Amgueddfa Arian-Plwm Llywernog bellach. Un siafft sydd yng ngwaith Poole, sef Siafft yr Injan, a thrwy hon y c�i'r mwynau a'r creigiau gwastraff eu tynnu a'r dwr ei bwmpio. Fe'i suddwyd i ddyfnder o 72 gwrhyd, sydd dros 400 troedfedd yn rhwydd. Er bod hynny'n swnio'n ddwfn, mae'n llai dwfn o lawer na dyfnder terfynol rhai o fwyngloddiau Cernyw (3000 troedfedd a rhagor). At ei gilydd yr oedd mwyngloddiau Canolbarth Cymru yn bur fas, gyda'r siafftiau dyfnaf yn tynnu am 1050 troedfedd o ddyfnder. Yn y mwynglawdd roedd dwy brif wyth�en. Mae gwythiennau mwyn yn rhai serth eu hinclein (fertigol yn aml) a gallant gynnwys mwynau gwerthfawr neu beidio. Gellir gweld safle un wyth�en yn glir wrth fynd ar y daith danddaearol yn ystod eich ymweliad. Yr ogof fertigol, agennog a dorrwyd allan o'r graig y byddwch yn cerdded trwyddi yw'r ardal lle cafwyd bod un o'r gwythiennau yn cynnwys mwyn ac a gloddiwyd ymaith. Ponciau yw'r enw ar gloddiadau agennog o'r fath ac ar waliau'r bonc hon gwelir olion y mwneiddiad. Mae'r gwythiennau ym mwynglawdd Llywernog yn ffawtiau daearegol a fwneiddiwyd - yn llythrennol, craciau yng nghramen y Ddaear y mae hylifau mwneiddio wedi mynd trwyddynt. Gall hylifau mwneiddio amrywio'n fawr ond at ei gilydd dyfroedd hallt a phoeth ydynt sy'n gyforiog o fetelau tawdd a sylweddau eraill a orfodir i fyny trwy gramen y Ddaear dan wasgedd. Pan gyrhaeddant amgylchedd cemegol a ffisegol ffafriol, ac mae gostyngiad mewn gwasgedd a thymheredd yn rhan bwysig o'r amgylchedd hwnnw, ni all y metelau tawdd aros mewn toddiant a gwaddodant yn fwynau metel a mwynau eraill. Amcangyfrifwyd, trwy gyfrwng cyfuniad o ymchwil daearegol, mwynegol a geocemegol, i wythiennau Llywernog gael eu ffurfio rhwng y cyfnodau Carbonifferaidd cynnar a Phermaidd. Fel yn llawer o fwyngloddiau'r Canolbarth, ceir tystiolaeth bod y ffawtiau sy'n cynnwys y gwythiennau mwynau yn weithredol dro ar �l tro, fel bod hyrddiau newydd o hylif mwneiddio yn dod i fyny ac yn dyddodi haenau newydd o fwynau at y rhai oedd yno eisoes. Mae'n deg dweud y byddai pob digwyddiad o'r fath yn weladwy ar yr wyneb oherwydd y byddai daeargrynfeydd nerthol wedi digwydd yr un pryd �'r symud yn y ffawtiau.
Cofnodwyd rhai mwynau eraill yn Llywernog, yn arbennig yn ystod y gwaith a wnaed i agor y rhan o'r mwynglawdd sydd dan y ddaear. Cafwyd y sylffid haearn, marcasit, mewn mannau. Mae'n felynwyn ac yn fetelaidd ei olwg pan fydd newydd ei dorri, ond buan y mae'n hindreulio ac mae'n braenu mewn aer llaith. Roedd llawer o farcasit yn y gwythiennau a weithiwyd yn Ystumtuen, i'r de o'r gweithiau yn Llywernog, ac ar un adeg c�i cynnyrch y braenu ar farcasit, sef ocr-melyn, ei gasglu yno i'w ddefnyddio fel pigment. Mae ocr melynaur copr, calcopyrit, sylffid o haearn a chopr, hefyd i'w gael yn Llywernog, ond nid digon at ddibenion masnachol. Yn olaf, cafwyd y mwyn prin iawn, wlmanit, sylffid o nicel ac antimoni, fel gronynnau metelaidd tra disglair, ond dim ond nifer fechan o sbesimenau y gwyddys amdanynt. Ceir aur yn Llywernog, ond dim ond mewn 'meintiau academaidd' - llai na chwarter rhan ym mhob miliwn - neu ffracsiwn o un gram i bob tunnell o fwyn. Mae lefelau aur yn isel, fel hyn, ledled y Canolbarth. Mae ardaloedd mwyngloddiau aur Cymru i'r gogledd, yn llain aur Dolgellau, ac i'r de, yn Nolau Cothi. Ynghyd �'r mwynau metel ceir mwynau gwastraff neu fwynau gang. Cwarts (silica) yw'r mwyaf cyffredin ohonynt, a gellir ei weld dan y ddaear. Mae'n ffurfio crwst o grisialau bychain, di-liw, � ffurf pyramid. Ceir calchit, calsiwm carbonad, hefyd mewn mannau. C�i'r mwynau naill ai eu didoli o'r gang � llaw, neu, lle roeddent yn gymysg, c�i holl gynnwys y wyth�en ei falu a'i wahanu. Cynhyrchydd cymedrol ar blwm , arian a sinc oedd Llywernog. Er 1845 mae'r grwp o weithfeydd a weithiai dan yr enw hwn wedi cynhyrchu 3813 tunnell o galena, 560 tunnell o sffalerit a 4260 owns o arian, yn �l yr ystadegau swyddogol. Ond dim ond mewn rhai blynyddoedd y llenwyd y cofnodion arian ac amcangyfrifwyd bod y galena a gynhyrchwyd mewn gwirionedd yn cynnwys bron 15000 owns o arian! |
|||
|