![]() |
|
|||
� | � | |||
Mwynglawdd � |
Hanes ac Archaeoleg Yr enw lleol ar y mwynglawdd yw Gwaith Poole, a darganfuwyd y wyth�en o fwynau gyntaf tua 1742, yn ystod teyrnasiad George III. Ni wyddom enwau'r mwnchwilwyr cyntaf ond byddai ganddynt Drwydded Fwyngloddio neu 'Nodyn Tac' yn eu meddiant wedi ei roi iddynt gan Asiant Stad Gogerddan ar ran Syr Lewis Pryse, 'Arglwydd y Mwynau'.
William Poole (y cofir ei enw yn 'Gwaith Poole') oedd yn dal y drwydded i fwyngloddio yn Llywernog rhwng 1807 a 1810. Dyma'r cyfnod rhwng brwydrau Trafalgar a Waterloo, a chyfnod mwyaf helbulus Rhyfeloedd Napoleon. Bu Gwaith Poole yn llwyddiant ysgubol, a chyflogai 60 o fwynwyr a gwnaeth elw sylweddol oherwydd pris uchel y mwyn plwm (�19 y dunnell). Yn y pen draw cyrhaeddodd y brif siafft, a suddwyd yn fertigol o'r wyneb rhwng 1810 a 1873, ddyfnder o 132m (432ft neu 72 gwrhyd). Rhwng 1824 a 1834, rhoddwyd Mwynglawdd Llywernog ar brydles (ynghyd � sawl mwynglawdd arall yn yr ardal) i 'Anturwyr Mwyngloddio' o Gernyw, sef teulu Williams, Scorrier House, Gwennap, ger Redruth yng Nghernyw. Dyma gychwyn perthynas hir rhwng ardaloedd mwyngloddio sir Aberteifi a Chernyw a oedd i barhau hyd y 1900au. Daeth mwynwyr Cernyw �'u diwylliant gwerin eu hunain i fynyddoedd Pumlumon. Galwent reolwyr y mwyngloddiau yn 'Gapteiniaid', a'r cyfrifydd yn 'Byrser'. Mesurid dyfnder y siafftiau mewn gwrydau (6tr neu 1.85m) ac yr oeddent yn Fethodistiaid Wesleaidd a gododd lawer o gapeli yn y pentrefi mwyngloddio. Roedd gan sawl pentref derasau o dai o'r enw 'Cornish Row' ac roedd eu cyfenwau yn dra gwahanol i Jonesiaid a Dafisiaid yr ardal; Tyack a Tregoning, Paul a Trevethan, Eddy a Bray, Kitto a Nancarrow - rhai yn unig yw'r rhain o'r enwau rhyfedd a ddaeth o dde-orllewin Lloegr. Yn Llywernog, bu anturwyr mwyngloddio yn mynd a dod wrth i'r siafft ddyfnhau. Daeth Robert Dunkin o Lanelli, smeltiwr plwm ym 1840, Joseph Holdsworth o swydd Gaerlyr ym 1852 ac yna gyfres o gwmn�au mwyngloddio, a lansiwyd ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, fel Cwmni Mwyngloddio Llywernog, 1868. Wrth i'r gwaith suddo'n ddyfnach, daeth y wyth�en yn fwyfwy anghynhyrchiol a chynyddodd costau pwmpio i ganlyn hynny. Ym 1869, yn ogystal �'r olwyn ddwr 40tr o ddiamedr, gosododd y cwmni injan ager 16 marchnerth i helpu'r pympiau pan nad oedd digon o gyflenwad dwr ar yr wyneb. Yn ystod 1973, dihunwyd yr hen fwynglawdd o'i gwsg a dechreuodd ar gyfnod newydd fel amgueddfa fwyngloddio. Fe'i datblygwyd yn breifat gan hanesydd mwyngloddio ifanc, Peter Lloyd Harvey, a'i dad, y diweddar Dr Stephen Harvey o Brifysgol Caerlyr. Bellach, 27 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r Amgueddfa yn dal i esblygu a thraddodiadau'r hen ardal fwyngloddio yn parhau'n fyw i genedlaethau'r dyfodol. |
|||
|