![]() |
|
|||
Y Mynydd Gwefru
|
Cyflwyniad
Yn y Ganolfan, mae�r adeiladau aml-lawr yn cynnwys amrywiaeth difyr iawn o arddangosiadau rhyngweithiol, modelau a gwrthrychau. Yma gwelwch hanes a datblygiad trydan-dwr a sut y caiff pwer ei fwydo i mewn i�r Grid Cenedlaethol. Mae arddangosfa o wyddor naturiol yn cyflwyno hanes naturiol Eryri ac yn egluro�n fras sut y ffurfiodd Oes yr I� y tirwedd yn fryniau a dyffrynnoedd, sef y rhai sydd yma heddiw. Ar �l sioe sain a llun, mae�r daith dan ddaear yn mynd � chi ar fws o�r Mynydd Gwefru i ganol pwerdy Dinorwig. Ar �l gyrru trwy�r labyrinth o dwneli byddwch yn dod allan mewn sawl lle i weld y generaduron a darganfod sut y gallant newid o ddim cynnyrch i bwer llawn mewn eiliadau. Mae�r system storfa bwmp sy�n cynhyrchu trydan yn Ninorwig yn dibynnu ar gwymp dwr i droi�r twrbinau. Mewn geiriau syml, mae dwr dan wasgedd uchel yn mynd i mewn i�r system o ffynhonnell uchel (Marchlyn Mawr), yn troi�r twrbinau ac yn mynd allan dan wasgedd isel i�r gronfa gadw (Llyn Peris). Mae�r holl system eneradu wedi ei chladdu yn nyfnderoedd mynydd Elidir mewn ogof ddigon mawr i gynnwys Eglwys Gadeiriol St Paul. Tyllwyd neu ffrwydrwyd dros 16 cilometr o dwneli i galon y mynydd a thyllwyd rhagor o dwneli i Marchlyn Mawr a Llyn Peris. Er mwyn cynnwys yr holl ddwr sydd ei angen i weithio�r twrbinau roedd rhaid gwneud y ddau lyn yn fwy. Codwyd argae ym Marchlyn Mawr, gwaith a gymerodd bedair blynedd, fel y gallai�r llyn gynnwys hyd at 7 miliwn metr ciwbig (1,540 miliwn o alwyni) o ddwr. Pan fydd y system yn gweithio�n llawn bydd lefel y dwr yn codi ac yn disgyn 34 metr bob dydd. Roedd angen gwneud Llyn Peris yn fwy hefyd ond gwnaed hyn yn bennaf trwy symud peth wmbredd o wastraff chwareli llechi o�r llyn yn hytrach na thrwy godi argaeau yn nau ben y llyn. Trowyd cwrs Nant Peris a arferai lifo i mewn i�r llyn fel ei bod yn llifo o�i gwmpas ac i mewn i Lyn Padarn islaw. Pan agorir y falfiau i�r dwr ddisgyn o Farchlyn Mawr mae ymchwydd aruthrol yn y gwasgedd. I wrthweithio hyn adeiladwyd siafft arall i bwll ymchwydd yn uchel ar y mynydd.
Pan fydd Dinorwig ar waith mae cymaint o ddwr yn mynd trwy�r twneli ag y mae Llundain yn ei ddefnyddio mewn diwrnod cyfan. Pan nad oes angen y pwer ychwanegol gellir gwrthdroi�r twrbinau ac yna bydd dwr yn cael ei bwmpio yn �l i fyny i Farchlyn Mawr lle bydd yn barod i�w ddefnyddio eto pan fydd angen. |
|||
|