![]() |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||
� | � | ||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Mynydd Gwefru � |
Adeiladu Adeiladu�r Prif
Ogof�u a�r Twneli Yr ogof�u a�u prif ddimensiynau
Defnyddiwyd adeiladwaith concrit a dur wedi ei atgyfnerthu ar gyfer y gwahanol loriau ac ystafelloedd. Ond roedd rhaid gwneud astudiaethau cyfrifiadur i asesu diriant ac amleddau naturiol yr adeiladwaith i sicrhau y byddai�r adeiladwaith o goncrit wedi ei atgyfnerthu a oedd yn cynnal pob tyrbin-pwmp/modur-generadur yn gweithredu heb ddirgrynu. Mae adeiladwaith yr holl dwneli yn debyg a ch�nt eu cynnal i gyd � bolltau craig i weddu i adeiladwaith y graig dan sylw. Rhoddwyd haen o goncrit chwistrell, wedi ei atgyfnerthu mewn mannau � rhwyllwaith o ddur, ar y rhan fwyaf o�r toeau a�r waliau. Mae�r twneli yn debyg hefyd eu trychiad, gyda gwaelod gwastad a tho ar ffurf hanner cylch. Y mwyaf ohonynt yw twnnel ar gyfer dod �r offer i mewn (8.0m o led, 7m o uchder a 711m o hyd) a luniwyd ar gyfer y darn mwyaf oll, sef y newidydd generadur-modur 400/18kV. Y twnnel hwn hefyd yw�r prif lwybr ar gyfer cerbydau, person�l a pheiriannau i mewn i bob rhan o�r system ogof�u. Mae�r twneli gwresogi ac awyru yn gyswllt rhwng y prif siafft (simnai) awyru, sy�n 255m o uchder ac yn 5.0m o ddiamedr, a�r siafftiau awyru bychain sy�n gwasanaethu�r prif ogof�u. Mae�r twneli hefyd yn arwain at ran o�r peiriannau offerynnu craig yn y brif ogof. Mae twnnel y ceblau yn cario dau gebl 400 kV y brif orsaf rhwng ardal y brif ogof a�r wyneb. Ceir cyfleusterau goleuo parhaol a brys yn y rhan fwyaf o dwneli.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|