![]() |
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
� | � | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Mynydd Gwefru � |
Daeareg a chynnal y graig Cafodd y prif ogof�u a�r twneli mynediad, y twneli tailrace a gwasgedd uchel, hanner isaf y siafft gwasgedd uchel a�r twnnel gwyriad eu cloddio o graig o�r brif Ardal o Lechfaen Cambriaidd. Adeiladwyd y gweithfeydd uchaf mewn dilyniant o grutiau a llechfeini Ordofigaidd Isaf. Dangosir y ddaeareg gyffredinol ar y trychiad daearegol o�r pwerdy cyfan. Dyma�r dilyniant daearegol yn y gweithfeydd:
At ei gilydd, mae�r prif ogof�u yn gorwedd mewn anticlin plyg a ffawtiog o welyau o lechfaen coch a llwydlas Cambriaidd gydag echelinau hydredol yr ogof�u yn gorwedd yn normal bron i streic pl�n echelinol yr anticlin. Mae�r llechfaen wedi ei rhynghaenu mewn mannau � haenau o grut ac mae ambell i ddeic dolerit sydd bron yn fertigol a hyd at 7m o drwch yn ymwthio iddo. Dangosir daeareg y prif ogof�u ar gynllun daearegol a thrychiad yr ogof�u. At ei gilydd, mae sefydlogrwydd y graig, ar gyfer y cloddio dan ddaear a�r llethrau ar yr wyneb, yn cael ei bennu gan doriadau y mae pum prif fath ohonynt yn y gwelyau llechfaen, sef arwynebau haenu, planau holltiad, ymylon deiciau, bregion a ffawtiau (mawr a m�n) sy�n ffurfio blociau ar wah�n o fewn crynswth y graig. Rheolir ymddygiad y blociau unigol (ac felly ymddygiad crynswth y creigiau) gan briodweddau�r toriadau hyn, h.y. eu cyfeiriad, y lle rhyngddynt, eu parhad, eu natur a�r deunydd mewnlenwi, eu hamledd, ac unrhyw lwythi a osodir arnynt. Penderfynwyd ar gynllun yr ogof�u i weddu i anghenion peiriannau ac offer ynghyd �r angen i gyfyngu ar rai dimensiynau cloddio a chadw colofnau a waliau mewn mannau allweddol. Ffactorau eraill yr oedd yn rhaid eu hystyried oedd cyflwr y diriant o fewn crynswth y graig o ganlyniad i bwysau�r deunydd uwchben, grymoedd tetonig a newidiadau i�r diriant hwn o ganlyniad i gloddio agoriadau dan y ddaear. Mae�r dulliau a ddefnyddiwyd
yn Ninorwig i sicrhau sefydlogrwydd y graig yn cynnwys:
Cynnal y graig
Defnyddiwyd llawer o goncrit chwistrell (�siotcrit�) i gadw�r arwyneb a gloddiwyd rhag ymddatod. Mae trwch y siotcrit yn amrywio o 25mm i 300mm, ac fe�i gosodwyd mewn haenau o hyd at 100mm, gan ychwanegu cyflymydd i hwyluso caledu cyflym yn union ar �l cloddio. Mewn mannau critigol, atgyfnerthir y siotcrit � rhwyllwaith o ddur o wahanol raddau yn amrywio o wifrau 2.6mm o ddiamedr ar ganol o 70mm, i wifrau 5mm o ddiamedr ar ganol o 200mm. Cafodd daeareg ddylanwad mawr hefyd ar y technegau tyllu a ffrwydro a ddefnyddiwyd gan y contractwyr yn ystod y cloddio. Cafwyd problemau yn y croestoriadau o ogof i ogof, a olygai fod angen i�r cynlluniau ar gyfer tyllu a ffrwydro fod yn gydnaws �r ddaeareg wrth iddi newid. Eglurhad o�r ffigur
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|