Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Labyrinth y
Brenin Arthur

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Cyflwyniad

Yn hen Gloddfeydd Llechi Braich Goch yng Nghorris y mae Labyrinth y Brenin Arthur. Yma, mae taith ar gwch yn mynd � chi ar hyd afon danddaearol trwy raeadr fawr i mewn i'r Labyrinth. Yna byddwch yn cerdded trwy'r ogof�u ac yn �l i'r gorffennol i weld tablo o'r chwedlau Arthuraidd a bydd stor�wr yn adrodd hanesion o'r Mabinogion a Chwedlau Taliesin.

Myrddin a’r Brenin.Mae'r bachgen Myrddin yn siarad �'r brenin Gwrtheyrn y mae'r Sacsoniaid yn ei alw'n Vortigern ac yn dweud wrtho - 'O dan fynyddoedd Dinas Emrys gwelais ddwy ddraig, un goch ac un wen. Mae'r ddraig wen yn cynrychioli'r Sacsoniaid a'r ddraig goch y Brythoniaid. Y ddraig wen yw'r gryfaf ond daw dydd y ddraig goch... Daw brenin ar dy �l di a fydd yn gyrru'r Sacsoniaid allan ac yn dod � heddwch, a'i enw fydd Arthur.' Fel y digwydd, Taliesin ei hun sy'n dweud wrthych am Fyrddin yn Ninas Emrys a'r frwydr rhwng y ddraig goch a'r ddraig wen, y frwydr �'r cawr Rhita, chwedl pen Br�n, brwydr Camlan a'r daith i Afallon. Mae'r stor�wr hefyd yn adrodd hanes teyrnas goll Cantre'r Gwaelod a'r chwedl fod Arthur ei hun yn dal i gysgu mewn ogof ym mynyddoedd Cymru yn aros am yr alwad i achub y Cymry pan fyddant mewn perygl eto.

Mae'r stor�au hyn yn benodol gysylltiedig � Chyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol, 'Goresgynwyr a Gwladychwyr: Y Celtiaid' a bwriedir iddynt ysgogi trafod a hyrwyddo gwaith pellach, � chymorth pecyn gweithgareddau a llyfryn sy'n rhoi mwy o fanylion hanesyddol am gefndir y chwedlau Arthuraidd.


Hanes ac Archaeoleg >>