No Kyc Online Casinos 2025Non Gamstop CasinosNon Gamstop Casinos UKBest Casino Not On GamstopNon Gamstop CasinosUK Non Gamstop Casinos
Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
� �

Labyrinth y
Brenin Arthur

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

�

Daeareg

Llechi Cymru
Mae Cymru yn enwog trwy'r byd am ei llechi. Cloddiwyd gwelyau o lechfaen, ar hyd ochrau dyffrynnoedd, o gwmpas bryniau neu hyd yn oed drwyddynt, ers canrifoedd. O lechfaen y gwneir llechi, ond beth yw llechfaen?
Yn ei hanfod, llaid neu fwd wedi ei wasgu yw llechfaen.

Mae'r daith gymhleth braidd trwy ddigwyddiadau daearegol sy'n arwain yn y pen draw at ffurfio llechfaen yn dechrau rywle yn �l yn niwloedd daeareg, � basn-m�r hynafol, rhywle tebyg i F�r Iwerddon heddiw, ag afonydd yn bwydo tywod, gro a llaid i mewn iddo ar hyd ei arfordir. Po bellaf yr eir o lan y m�r, lleiaf y gronynnau o waddod a gludir allan yno: mae tywod a gro, oherwydd eu bod yn gymharol drwm, yn tueddu i beidio � theithio cyn belled ac yn crynhoi yn nes at yr arfordir.

Ac felly, allan ar wely'r m�r dwfn, bydd haenau o laid yn crynhoi yn araf. Dyna beth ddigwyddodd ar wahanol adegau yng Nghymru'r cyfnod Palaeosoig Isaf, 550-410 miliwn o flynyddoedd yn �l: yn y cyfamser bu cyfnodau o weithgarwch folcanig, neu gyfnodau o foroedd mwy bas gyda chreigiau mwy tywodlyd yn cael eu dyddodi. Ond y mwd neu'r llaid sydd o ddiddordeb i ni yma. Mae mwd yn cynnwys llawer iawn o ddeunydd clai. Mae'r deunyddiau hyn yn ronynnau m�n dros ben, fel bod pob crisial yn anweledig i'r llygad noeth. Mae mwynau clai yn perthyn i'r teulu o fwynau a elwir yn llen-silicadau. Ymhlith y llen-silicadau eraill sydd i'w cael mae mwynau cyffredin fel mica. Weithiau mae mica i'w gael yn grisialau mawr y gellir eu plicio ymaith yn ddalennau tenau niferus.

Mae mica'n hollti'n rhwydd oherwydd adeiladwaith cemegol mewnol y mwyn. Mae'r atomau o alwminiwm, potasiwm, silicon, ocsygen a hydrogen sydd gyda'i gilydd yn creu mica wedi eu trefnu yn haenau. Dyna'r rheswm am y term llen-silicadau. Dywedir am fwynau, fel mica a mwynau clai, y gellir eu hollti mewn un neu ragor o gyfeiriadau dewisol, fod iddynt holltedd.

Pan fydd llaid neu fwd yn suddo i wely'r m�r, nid yw'r mwynau clai i gyd yn gorwedd yn wastad. Maent yn wynebu pob cyfeiriad, fel hyn:

Wrth gwrs, nid yw'n bosibl hollti mwd yn ddalennau tenau i'w rhoi ar eich to.

Mae hen fwd, a arferai orwedd ar wely'r m�r yn y cyfnod Palaeosoig Isaf gannoedd o flynyddoedd yn �l, bellach yn ffurfio ochrau bryniau yn y Gogledd lle ceir y chwareli llechi. Felly beth ddigwyddodd i'w droi yn llechfaen? Mae yna gliw yma. Ar wely'r m�r yr arferai fod, ac erbyn hyn mae hanner y ffordd i fyny mynydd. Rhaid bod rhywbeth go fawr wedi digwydd iddo! Tua 400 miliwn o flynyddoedd yn �l, creodd symudiadau mawr yn y ddaear, yn cynnwys cyfandiroedd cyfain yn gwrthdaro, wasgedd aruthrol a orfododd hen wely'r m�r i fyny, fel pwti mewn feis. Cafodd y llaid, a oedd eisoes wedi ei droi yn garreg laid, ei droi yn llechfaen. Ond sut?

Gwelsom fod y mwynau clai y mae llaid yn llawn ohonynt yn holltadwy, fel mica, yn ddalennau tenau, a gwelsom sut y mae'r gronynnau mwyn mewn llaid arferol yn wynebu i bob cyfeiriad. Yn ystod y symudiadau daear enfawr a gododd wely'r m�r i greu mynyddoedd Cymru, daeth y creigiau dan wasgeddau cyfeiriadol aruthrol mewn amgylchedd poeth iawn yn nyfnderoedd y ddaear. Mae gwasgeddau o'r fath yn ddigon i orfodi gronynnau mwynau i ailgrisialu yng nghyfeiriad y gwasgedd isaf. Neu, yn syml, os yw'r creigiau'n cael eu gwasgu mewn feis ddychmygol enfawr, bydd y mwynau'n ailgrisialu mewn aliniad cyfochrog � safnau'r feis - ac ar ongl sgw�r i'r grym y mae safnau'r feis yn ei roi. Yn symlach fyth, mae'n debyg braidd i wasgu rhywbeth yn fflat trwy sefyll arno!

Ac felly mae'r mwynau clai a ailgrisialodd bellach i gyd wedi eu halinio yn yr un cyfeiriad ac mae gan y graig a gr�wyd bellach holltedd, fel y mica. Bydd hithau hefyd yn hollti yn ddalennau tenau i fynd ar eich to! Erbyn hyn mae'r mwd a oedd ar un adeg yn gorwedd ar wely'r m�r filiynau o flynyddoedd yn �l yn wyth�en o lechfaen Gymreig hardd ar draws ochrau mynyddoedd Eryri.

Metamorffedd yw'r enw ar broses fel hon, lle ceir un math o graig i ddechrau, ac un arall yn y diwedd. Bydd daearegwyr yn cyfeirio at sawl math o fetamorffedd, ac yn fras cyfeirir at y math sy'n cynhyrchu llechfaen fel math isel ei radd. Ond o fewn y dosbarth hwn mae amryfal is-raddau, o ailgrisialu syml ar un neu ddau o fwynau i newidiadau arwyddocaol lle mae llawer o len-silicadau newydd wedi eu ffurfio o'r elfennau cemegol oedd yn ffurfio'r hen rai yn y llaid.

Po uchaf yw gradd ffurfiant y llechfaen, gorau oll yw ansawdd y llechen o ran ei haddasrwydd ar gyfer toi. A llechi Bethesda a Llanberis a'u gwawr borffor hynod, a ffurfiwyd o gerrig llaid y cyfnod Cambriaidd, yw'r uchaf eu gradd yng Nghymru ac fe'u defnyddid yn bennaf i doi. Mae llechi ardal Blaenau Ffestiniog yn rhai uchel-radd hefyd ond ychydig yn iau; perthynant i Ffurfiant Ordofigaidd Canol Nant Ffrancon. Yna ceir y llechi is eu gradd yn ardal Corris-Machynlleth. Daw'r rhain o'r cyfnod Ordofigaidd Uchaf-Silwraidd Isaf . Nid ydynt cystal ar gyfer toeau, ond maent yn rhagorol ar gyfer slabiau mawr, ac yn ddelfrydol i wneud byrddau snwcer, silffoedd pen t�n, linteli ffenestri ac at lu o ddibenion eraill.

Dim ond creigiau a oedd yn wreiddiol yn cynnwys llawer o fwynau clai fydd yn datblygu holltedd da. I wneud llechen, dechreuwch � llaid, nid tywod. Mae hyn yn egluro pam y mae'r llechfaen yn y Gogledd yn gorwedd mewn gwelyau - weithiau � thywodfeini heb eu hollti rhyngddynt.

Mae cloddfeydd a chwareli llechi yn gyffredin ar hyd a lled mynyddoedd y Gogledd. Roedd diwydiant llechi Cymru yn rhan bwysig iawn o economi Cymru ar un adeg. Mae llai o chwareli yn gweithio heddiw ond mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl man o Aberllefenni ger Corris i'r Penrhyn ger Bethesda. Beth am ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, i ddarganfod mwy am y diwydiant hwn, a fu'n gyfrifol am greu trefi cyfan lle nad oedd gynt ond ychydig o dyddynnod diarffordd? Neu beth am fynd dan y ddaear mewn cloddfa lechi - gallwch wneud hynny yng ngheudyllau enwog Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn hen dwneli ac ogof�u chwarel Braich-Goch yng Nghorris, sef Labyrinth y Brenin Arthur chwedlonol erbyn hyn.


Gwybodaeth >>