Labyrinth y
Brenin Arthur





�
|
Hanes ac
Archaeoleg
Agorwyd cloddfeydd
llechi yng Nghorris ym 1836, ond am lawer blwyddyn nid oeddent yn broffidiol
ac aeth y naill gwmni ar �l y llall yn fethdalwyr. Yna, ym 1859 adeiladwyd
lein fach Rheilffordd Corris i gario'r llechi i lawr i Aberdyfi, ac yr
oedd dyfodol Cwmni Chwarel Lechi Braich Goch, a ffurfiwyd ym 1864, yn
ddiogel.
Torrodd
y chwarelwyr eu twneli yn ddwfn i ochr y mynydd i gyrraedd y wyth�en a
elwid yn 'Appendix' - gwyth�en o lechfaen Ordofigaidd o safon uchel. O'r
twneli mynediad hyn torrwyd ar ongl sgw�r i mewn i'r wyth�en a thorri
cyfres o geudyllau hyd at 50 metr o led a 25 metr o uchder, gan adael
colofnau i gynnal y to. Erbyn 1878 roedd y chwarel yn cyflogi 250 o ddynion
ac yn cynhyrchu 7,000 tunnell o lechi slab a thoi y flwyddyn, a'r cwmni
yn ffynnu. Ond yn y diwedd, oherwydd costau uwch a llai o alw, aeth y
cwmni i'r wal ym 1906. Ceisiodd pum cwmni arall weithio'r mwynglawdd yn
ysbeidiol, ond methwyd � gwneud elw ac aeth y cyfan yn fethdalwyr. Yna,
ym 1962, prynodd Dewi a Gwilym Lloyd o Aberllefenni y mwynglawdd i gloddio
am slabiau o lechfaen uchel ei safon ar gyfer ffitiadau trydanol, a buont
yn gweithio'r mwynglawdd am wyth mlynedd. Ond ym 1970 caeodd y felin lechi
oherwydd cynllun ffordd newydd ar gyfer yr A487 a lefelwyd y tomenni llechi.
Wedi hynny yr adeiladwyd Canolfan Grefftau Corris ar y tir a adferwyd.
Agorodd y Ganolfan ym 1983.
Agorwyd Labyrinth
y Brenin Arthur ym 1994, a bu'n rhaid gorlifo rhan o'r rhwydwaith o ffyrdd
i greu afon i mewn i'r Labyrinth. Mae'r cwch erbyn hyn yn mynd ag ymwelwyr
ar hyd hen dramffordd Lefel-6 a agorwyd tua 1950. Gellir gweld y tyllu
ar y Lefel 5 uwch, uwchben ceudyllau Dinas Emrys, tra bod ceudyllau Br�n
a Chantre'r Gwaelod yn cael eu cysylltu y tu �l i'r golofn i ffurfio to
parhaus o 50 wrth 100 metr, sydd o faint cae p�l-droed.
|