![]() |
|
|||
Parc Treftadaeth
|
Cyflwyniad Yn ystod 1989 a 1990 aeth y gwaith ar safle Lewis Merthyr yn ei flaen i greu cam cyntaf 'Aur Du - Hanes Glo', ac adnewyddu ac adfer adeiladau pen y pwll. Agorodd y rhan hon ym Mai 1991 gan ddefnyddio'r technegau clyweled ac arddangos diweddaraf i ddweud hanes y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn y Rhondda. Ym Mai 1993, agorodd cam nesaf y datblygiad yn y Parc gydag ardal chwarae i blant, yn llawn gweithgareddau, sef 'Cylch Egni Trefor a Bertie'. Mae'r Cylch Egni yn edrych mewn ffordd unigryw, sy'n ddifyr ac yn addysgiadol, ar y cylch egni, ac yn rhoi dimensiwn newydd i'r Parc. Ehangwyd y Ganolfan Ymwelwyr erbyn 1994 a bellach mae'n cynnwys 'stryd bentref' dan do, orielau yn arddangos arteffactau, oriel i'r arddangosfeydd dros dro, bwyty a siop anrhegion. Y cam diweddaraf yn y datblygiad oedd y daith dan ddaear. Agorodd 'Newid Amser' i'r cyhoedd ym mis Gorffennaf 1994. Mae'n cynnwys taith mewn cawell i lawr i 'Waelod y Pwll', taith dywys trwy heolydd tanddaearol pwll Lewis Merthyr cyn y mecaneiddio, a golwg ar y ffas lo. Ar ddiwedd y daith cewch eich cludo ar daith rithwir ryfeddol sy'n mynd � chi trwy dwneli tywyll a throellog ar lwybr bythgofiadwy yn �l i'r wyneb.
Mae'r Cylch Egni yn fan chwarae i blant, ac yn llawn gweithgareddau. Gallant ddringo, llithro, siglo, a chloddio am eu hegni eu hunain yng Nghastell y Glo. Wedyn gall ymwelwyr gerdded trwy stryd fawr yr Hafod i weld rhai o adeiladau'r pentref sy'n dod o'r 1890au a dechrau'r 19eg ganrif. Mae olion ymsuddiant amlwg iawn, ond o gofio bod llawr y cwm yn Nhrehafod wedi gostwng 14 troedfedd tra bu'r pwll yn gweithio, mae'n syndod efallai bod unrhyw beth yn dal i sefyll yn y pentref. |
|||
|