![]() |
|
|||
Parc Treftadaeth
|
Hanes ac Archaeoleg Yn aml cyplysir enw'r Rhondda � glo, ond ychydig dros ganrif a hanner yn �l, nid oedd fawr neb yn gwybod am gymoedd y Rhondda. Ardal wledig, ddiarffordd a phrin ei phoblogaeth ydoedd, llawn coed a phlanhigion hardd. Prin yr oedd bywyd wedi newid yma ers canrifoedd - cymuned wasgaredig o dyddynnod bychain yn magu defaid oedd yma. 1855 yw'r dyddiad a dderbynnir fel yr un pan ddechreuodd y newid hanesyddol i ddiwydiant trwm, er bod glo wedi ei gloddio yn y Rhondda cyn gynhared �'r ail ganrif ar bymtheg at ddibenion y cartref. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd y Rhondda yn un o'r ardaloedd cynhyrchu glo pwysicaf yn y byd. Pan oedd y diwydiant glo yn ei anterth yng Nghymru roedd yn cyflogi un person o bob deg a dibynnai llawer rhagor ar y diwydiant am eu bywoliaeth. Roedd 53 o lofeydd yn gweithio yn y Rhondda ei hun ar un adeg, mewn ardal 16 milltir o hyd yn unig. Dyma'r ardal lle'r oedd y cloddio dwysaf yn y byd ac mae'n debyg ei bod yn un o'r ardaloedd dwysaf eu poblogaeth hefyd. O'r boblogaeth wledig o ryw 951 o bobl ym 1851, erbyn 1924 roedd y boblogaeth wedi cynyddu o ganlyniad i fudo torfol i tua 169,000 - oddeutu 20,000 o bobl i'r filltir sgw�r adeiledig.
Gweision ffermydd oedd mwyafrif helaeth y mewnfudwyr i aneddiadau glofaol Dinas, Cymer, Hafod ac Ynys-hir, pobl yn newid byd o lafurio ar y fferm i lafurio dan y ddaear. Trigai'r newydd-ddyfodiaid mewn bythynnod o eiddo'r cwmn�au mwyngloddio. Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif nid oedd dim trefniadau traenio yn yr ardal, na dim darpariaeth o fath yn y byd ar gyfer gwaredu carthion na sbwriel. Ac eithrio dwr glaw, yr unig ffynhonnell ddwr gl�n oedd nentydd y bryniau. Roedd nifer fechan o'r pentrefwyr yn hunan-gynhaliol, yn berchenogion eu rhandiroedd eu hunain y naill ochr a'r llall i fryniau'r cymoedd. Roedd y rhandiroedd hyn yn ategu'r brif ffynhonnell fwyd i'r pentrefwyr ac ymfalch�ent yn y ffaith eu bod yn darparu eu bywoliaeth eu hunain. Mae'r nifer o siopau a agorodd yn y pentref yn arwydd o allu'r bobl i fod yn hunan-gynhaliol mewn ardal ddiwydiannol a oedd ar ei thwf. Ar y ddwy ochr i'r stryd fawr agorwyd siopau y drws nesaf i'w gilydd, weithiau mewn ystafelloedd ffrynt. Ar un adeg roedd bron cymaint o siopau yn Nhrehafod ag yn y Porth neu Bontypridd. Evans y Groser, Morgan y Cigydd a Thomas y Ffrwyth - dyna rai yn unig o'r busnesau a ffynnai yn y pentref. Roedd popeth angenrheidiol at fyw ar gael - crydd, caffi, adeiladwyr coetsys, bydwraig, deintydd, swyddfa bost, pobydd, trefnydd angladdau, c�r-feistri a cherddorion hyd yn oed. C�i siopau cwmn�au eu defnyddio hefyd lle gellid prynu nwyddau yn gyfnewid am docynnau. Ym 1808 rhoddodd Evan Morgan brydles yr hawliau mwynau i'w frawd yng nghyfraith, Dr Richard Griffiths, a rhoddodd hwnnw yn ei dro yr hawl i Jerimiah Homphrey agor lefel dan diroedd Hafod Fawr ar ochr chwith afon Rhondda. Gweithiwyd y lefel hon hyd 1813. Yn y 1850au y dechreuwyd gwaith glo yr Hafod yng Nghoed Cae, ond oherwydd cymhlethdodau ni ddatblygwyd haenau bitwminaidd cyfoethog yr Hafod hyd y 1870au pan ailagorodd cwmni Glo Coed Cae Waith Glo Coed Cae, sef safle Gwesty'r Parc Treftadaeth bellach. Yng nghanol y 1870au prynodd William Thomas Lewis, Arglwydd Merthyr yn ddiweddarach, siafftiau'r Hafod a Choed Cae ar afon Rhondda ger y Porth. Ailagorwyd pwll Coed Cae yn gynnar yn y 1870au er mwyn gweithio'r haenau uwch o lo bitwminaidd (glo ar gyfer y cartref), ond caeodd yn y 1930au. Credir i bwll yr Hafod gael ei weithio o'r 1880au hyd 1893, sef yr haenau bitwminaidd, ac ar �l y dyddiad hwnnw gweithiwyd yr haenau glo ager dyfnach gan Powell Duffryn.
Roedd siafft Bertie yn 4.3 metr o ddiamedr ac yn 434 metr o ddyfnder. Mae'r Injan Weindio yn unigryw oherwydd cynllun anarferol y drwm a elwir yn ddrwm conigol dau-silindr differol, a oedd yn galluogi'r injan i weindio i/o wahanol ddyfnderoedd yr un pryd. Credir mai dim ond un injan arall o'r math oedd. Yn wreiddiol, ager oedd yn gweithio'r injan, ond yn niwedd y 1950au cafodd ei drydaneiddio. Ym 1904 agorodd y cwmni lofa Lady Lewis filltir i'r gogledd-ddwyrain yn y Rhondda Fach ac ym 1905 prynasant Lofa'r Universal yn Senghennydd, lle cafwyd yn ddiweddarach y ddamwain waethaf erioed mewn glofa yn hanes Prydain. Ym 1929 daeth y lofa yn rhan o Grwp Powell Duffryn, ac yn yr un flwyddyn peidiodd Coed Cae � weindio glo. Dilynodd Hafod Rhif 2, a Hafod Rhif 1 ym 1933. Gwladolwyd y lofa ym 1947. Ym 1956 bu ffrwydrad erchyll yn y lofa a laddodd naw o ddynion ac anafu pump arall. Ym 1958 cyfunwyd Glofa Lewis Merthyr a Glofa gyfagos Ty Mawr a daeth yr holl weindio glo i ben yn Lewis Merthyr, gyda chloddio am lo yn parhau trwy Ty Mawr, a chyflenwadau yn unig yn Lewis Merthyr. Erbyn 1969 daethai'r Lofa yn Lofa Ty Mawr/Lewis Merthyr. Bu gweithio ar gynifer � thair haen ar ddeg yn Lewis Merthyr gan ddefnyddio'r dull hirwal (long wall) datblygedig gan dorri'r rhan fwyaf o'r glo � phicasau niwmatig a'i lwytho � llaw ar gludwyr. Hyd y 1950au bu'r diwydiant glo yn cynhyrchu ac yn cyflogi'n bur gyson, ond ers hynny bu gostyngiad parhaus yn y nifer o lowyr a gyflogir. Mae glo ar �l yn y rhan fwyaf o'r pyllau a gaewyd, ond gan fod olew a glo ar gael yn rhatach o dramor, roedd tranc y diwydiant yn anorfod. Ni fu dirywiad y diwydiant mor ddramatig amlwg yn unman ag y bu ym Maes Glo De Cymru. Yn Lewis Merthyr daeth cynhyrchu i ben ar 14 Mawrth 1983 er bod cynhyrchu wedi parhau yn yr haen bedair troedfedd hyd fis Gorffennaf pan ddaeth cloddio am lo i ben am byth yn Nhy Mawr/Lewis Merthyr. Erbyn 1990 nid oedd yr un lofa ar waith yn y Rhondda ond costrelwyd ysbryd cynhyrfus a balch gorffennol y cwm a'i gadw mewn cofadail hanesyddol yng Nglofa Lewis Merthyr, neu fel y'i gelwir bellach, Parc Treftadaeth y Rhondda. |
|||
|