Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Ceudyllau Llechwedd

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Cyflwyniad

Ym 1830 ymadrodd oedd 'Blaenau Ffestiniog' i ddisgrifio'r clogwyni uwchben llain gul o dir ffermio tua dwy filltir a hanner i'r gogledd o hen bentref Ffestiniog. Yr oedd llechi i newid wyneb yr ardal am byth a bellach mae mynyddoedd o lechi gwastraff yn domenni uwchben pentref Blaenau Ffestiniog. Er bod cloddio am lechi o hyd yn yr ardal, bellach gofalu am ymwelwyr yw gwaith ceudyllau enwog Llechwedd.

Ar ôl esgyn ar dr?n yng nghornel y felin torri llechi sy’n dyddio o 1852, mae ymwelwyr yn mynd ar hyd tramffordd y chwarelwyr i mewn i ochr y mynydd trwy dwnnel a dorrwyd ym 1846. Yma, yng nghartref y Dreftadaeth Lechi Ryngwladol, mae dewis o ddwy daith drawiadol i mewn i'r ceudyllau enfawr o dan y ddaear. Mae Tramffordd Danddaearol y Chwarelwyr, a agorwyd ym 1972, yn mynd � chi trwy rwydwaith o ogof�u enfawr o faint eglwysi cadeiriol, � tableaux yn eu haddurno. Mae'n gadael ichi brofi amodau gwaith y chwarelwr dan ddaear yn oes Victoria, a darganfod sut y symudwyd miliynau o dunelli o greigiau gan ddefnyddio offer syml, powdr gwn a b�n braich. Yn y Gloddfa Ddofn byddwch yn cerdded trwy ddeg cyfres son et lumi�re lle mae ysbryd un o'r hen gloddwyr yn datgelu bywyd cymdeithasol y gymuned a ddarparodd y toeau ar gyfer chwyldro diwydiannol Ewrop.

Yn �l ar yr wyneb cewch grwydro trwy'r pentref Victoraidd, lle'r oedd tafarndai a siopau yn defnyddio darnau o arian Victoraidd wedi eu hailfathu. Cewch hefyd weld yr 'hen fanc', efail y gof, y ddalfa, cartref telynor dall Meirionnydd a wagenni hanesyddol y lein fach gul.


Hanes ac Archaeoleg >>