Hanes ac
Archaeoleg
Mae llechfaen wedi
ei ddefnyddio ar gyfer toeau er pan ddarganfu'r Rhufeiniaid ei briodweddau
a'i ddefnyddio yn eu caer yn Segontiwm - Caernarfon heddiw. Roedd y Rhufeiniaid
hefyd yn defnyddio darnau wedi eu trin a'u cerfio i'w crogi ar furiau.
Gwnaed y defnydd Cymreig cyntaf o lechi to yn y 12fed ganrif mewn safle
a ddefnyddiwyd yn �l pob tebyg gan Owain Gwynedd, Tywysog Gwynedd, fel
caer. Yn sicr defnyddiwyd llechi gan bensaer Edward 1af o Loegr i doi
castell Conwy. Dechreuwyd defnyddio llechi yn helaeth yn fasnachol yn
ystod y chwyldro diwydiannol i doi'r niferoedd enfawr o dai newydd a godwyd
ledled y wlad. Yna cawsant eu hallforio i bob rhan o'r byd. Roedd llechi
Cymru yn gynnyrch o safon.
Chwaraeodd
cloddfeydd Llechwedd ran ganolog yn y gwaith o gynhyrchu'r llechi hyn.
Roedd yma sawl cloddfa ar wah�n fel Diffwys, Bowydd, Maenofferen, yn ogystal
� Llechwedd ei hun. Roedd cloddio am lechi yn Niffwys (filltir i'r dwyrain
o Geudyllau Llechwedd) ym 1775 ond yn y 19eg ganrif y dechreuodd y lleill.
Bu llechi Blaenau Ffestiniog ynghudd am amser hir oherwydd bod ongl 30�
yr haenau yn golygu mai dim ond mewn mannau y brigent i'r wyneb; mewn
mannau eraill mae'r haenau bron yn fertigol neu'n llorweddol. Oherwydd
hynny roedd yn rhaid cloddio am y llechfaen nes y daeth peiriannau modern
a chaniat�u gwaith brig.
Cerfiwyd ceudyllau
enfawr dan y ddaear, proses a oedd yn bosibl oherwydd bod haenau o greigiau
igneaidd yn creu toeau diogel. Yn y diwedd yr oedd 16 o loriau yn Llechwedd,
a'r cyfan yn cael eu henwi mewn perthynas �'r man lle darganfuwyd llechi
ym 1849. Llawr 1 oedd yr enw ar y man hwnnw a chafodd y lloriau a ddilynodd
eu rhifo ar i fyny (1-7) ac ar i lawr (A-I) gan roi pellter fertigol o
ryw 305 metr dan y ddaear. Gosodwyd llwybrau i helpu i symud y blociau
mawr o lechfaen allan i'r wyneb lle caent eu trin a'u hollti. Gall crefftwyr
proffesiynol gynhyrchu niferoedd mawr o lechi o flociau gan ddefnyddio
cyn. Mae'n gyffredin i'r holltwyr gynhyrchu tua 35 llechen y fodfedd ac
yn Arddangosfa Llundain ym 1862 enillodd sylfaenydd Llechwedd, John Greaves,
fedal � llechi 10tr o hyd ac 1 dr o led ond dim ond 1/16 modfedd o drwch.
Roedd
yn rhaid cludo'r llechi i'r arfordir lle caent eu rhoi ar longau a'u hanfon
ledled y wlad a thramor. I ddechrau caent eu halio i lawr y dollffordd
i'r cei yn Nhan-y-bwlch. Ond codwyd cob ar draws aber afon Glaslyn ym
1813 a olygodd bod sianel y gellid ei mordwyo ar draws aber Dwyryd. Buan
yr arweiniodd hynny at greu Port Madoc (Porthmadog) ac ym 1836, agorodd
lein fach Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r harbwr � Blaenau Ffestiniog.
Ym 1851 symudwyd y swyddfa o Lechwedd i'r glanfeydd newydd yn yr harbwr.
Adeiladwyd tua 260 o longau ym Mhorthmadog, y rhan fwyaf ohonynt i gario
llechi i'r marchnadoedd newydd a agorai ym mhobman. Ym 1869 daeth Rheilffordd
y Cambrian i Finffordd a chaniat�u ail-lwytho llechi ar stoc rheilffordd
arferol a'u cludo i'r prif ddinasoedd. Torrodd Rheilffordd Llundain a'r
Gogledd Orllewin drwodd o ddyffryn Conwy ym 1879 ac wedi hynny yr oedd
Deganwy yn ddewis arall fel harbwr. Yn olaf, cyrhaeddodd Rheilffordd y
Bala a Ffestiniog y dref, rheilffordd a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan
o'r 'Great Western Railway'.
Roedd
angen medrau newydd er mwyn cynhyrchu llechi yn gynt, ac roedd y perchennog,
J. W. Greaves, yn arloeswr. Dyfeisiodd ei fwrdd llifio ei hun a pheiriant
trin llechi sy'n dal i gael ei ddefnyddio pryd bynnag y bo angen trin
llechi to. O ganlyniad i'r dechnoleg aruchel hon yn ei chyfnod, ynghyd
�'r rheilffordd a'r harbwr newydd, yr oedd 1850 yn drobwynt i Greaves
a Llechwedd. Yn y flwyddyn honno, gwerthwyd 1,128 tunnell o lechi to gorffenedig,
gwerth �2,114, gan godi Llechwedd i gynghrair y cynhyrchwyr mawr.
Daeth generadur trydan-dwr
i Lechwedd ym 1890 ac ym 1904 gwnaed gwelliannau i'r system trwy harneisio
pwer o ddau lyn uwchben y chwarel. Maent yn dal i gael eu defnyddio, ac
yn achlysurol byddant yn bwydo'r grid cenedlaethol � phwer.
|