Amrywiaeth
Y Byd Naturiol
Cyfansoddion cemegol
anorganig sy�n digwydd yn naturiol ac a gydgrynhodd i ffurfio creigiau
yw mwynau. Mae dros 3,500 o wahanol fwynau a phob un � chyfansoddiad arbennig
a threfniant mewnol sefydlog o atomau. Mae�r trefniant mewnol yn creu
wynebau crisial ac iddynt gyfeiriad rheolaidd ac yn rhoi amrywiaeth helaeth
o ffurfiau. Os oes digon o le, gall mwynau dyfu i roi crisialau mawr cyfarwydd
eu ffurf a all fod yn hardd iawn.
Yn yr oriel hon mae
arddangosfa drawiadol o fwynau o bob rhan o�r byd, yn cynnwys llawer o�r
oddeutu 400 o fwynau gwahanol y cafwyd hyd iddynt yng Nghymru. Mae prif
ran yr arddangosfa wedi ei threfnu fel bod y lliwiau�n cydweddu�n hardd.
Mae lliw mwyn yn dibynnu ar faint o olau a gaiff ei amsugno a�i adlewyrchu.
Mae�r amsugnad hwn yn ymwneud yn bennaf �r elfennau cemegol sydd i�w
cael yn y mwyn a hefyd ar drefniant yr atomau. Mae lliwiau rhai mwynau�n
amrywio oherwydd i wahanol elfennau fynd i mewn i�r crisialau tra roeddent
yn tyfu. Mae detholiad o grisialau ffl?orsbar o wahanol liwiau yn enghreifftiau
trawiadol o�r ffenomen hon.
|