![]() |
|
|||
� | � | |||
Oriel Esblygiad |
Yr arddangosfa Hanes yr arddangosfa
Yr arddangosfa
Dechreuodd y cyfnod Palaeosoig hwyr �r m�r yn cilio gan adael llawer o Brydain dan orchudd o afonydd a delt�u. Mae�r dyddodion o Hen Dywodfaen Coch a ddeilliodd o hyn yn cynnwys tystiolaeth o blanhigion tir cynnar a pherthnasau dwr croyw i bysgod ysgyfeiniog a allai oroesi trwy anadlu trwy eu hysgyfaint cyntefig. Yna cododd y tymheredd ac arweiniodd yr amodau morol trofannol at galchfaen Carbonifferaidd �i amrywiaeth o gwrel, crinoidau, braciopodau a chregyn deuglawr. Yn y moroedd hyn roedd perthnasau pell i�r ystifflogod modern yn nofio. Codwyd y tir i�r wyneb unwaith eto, ond y tro hwn roedd yr amodau gwlyb trofannol yn berffaith ar gyfer twf cnwpfwsoglau a marchrawn enfawr. Tyfent mewn gwernydd anferthol a orchuddiai filoedd o gilometrau sgw�r. Ar lifgloddiau�r delt�u tyfai rhedyn a had-redyn a ffurfiodd hynafiaid y conwydd fforestydd ar y tir sychach o gwmpas. Y mawn a grynhodd yn y gwernydd hyn a ffurfiodd yr haenau glo a wnaeth Gymru yn ardal gynhyrchu glo bwysicaf y byd ar un adeg. Mae ffosilau, glo a fideo o ffurfiannau glo yn ategu�r diorama o wern neu gors lo o�r fath. Diflannodd yr holl gors-fforestydd toreithiog hyn ar ddiwedd y cyfnod Carbonifferaidd gan adael llawer llai o fflora yn yr amodau sychach yn y cyfnod Permiaidd a ddilynodd. Y cam nesaf ar y daith yw�r un ar draws y rhaniad rhwng y cyfnodau Palaeosoig a Mesosoig pan ysgubodd trychineb fawr dros y ddaear a difa dros 90% o�i rhywogaethau byw. Roedd Cymru yn dir isel, anial ac yn dueddol o ddioddef llifogydd chwyrn a stormydd enbyd. Nawr mae�r ymlusgiaid enfawr a ddaeth i dra-arglwyddiaethu ar y rhan fwyaf o�r byd yn eich wynebu. Mae sgerbydau a modelau o rai o�r dinosoriaid hyn yno ynghyd ag olion y mathau newydd o gonwydd, coed gwallt y forwyn, sycadau, sycadeiodau a rhedyn a dyfai ar wyneb y ddaear. Roedd yr uwch gyfandir, a alwn yn Pangea, bellach yn dechrau ymddatod yn wahanol dirfasau - y rhain fyddai�n ffurfio cyfandiroedd y byd heddiw. Felly mae eich llwybr yn awr yn �disgyn� i mewn i�r m�r Jwrasig bas a chynnes a orchuddiai�r rhan fwyaf o Gymru a llawer o Brydain. Mae ffosilau a delweddau yn dangos y bywyd yn y moroedd hyn yn fyw iawn. Ymhlith y ffosilau mwyaf cyffredin a geir yng nghreigiau�r cyfnod hwn y mae perthnasau�r octopysau, yr ystifflogod a�r m�r-gyllyll. Roedd yno ymlusgiaid y m�r hefyd fel Ichthyosoriaid, Pleisosuriaid, Pliosoriaid a�r Mosasoriaid enfawr a oedd hyd at 10 metr o hyd. Ar wely�r m�r roedd llawer o folysgiaid cragennog, perthnasau pell cocos, wystrys, gwichiaid a moch m�r heddiw. Mae�r cam drosodd i�r cyfnod Cenosoig a ddaeth wedyn yn mynd � chi dros y ffin a elwir yn ffin K/T pan gredir i asteroid enfawr daro�r ddaear a difa�r dinosoriaid. Ychydig iawn o ddyddodi Cenosoig a fu yng Nghymru ac felly does gennym fawr o dystiolaeth uniongyrchol o�r newidiadau enfawr a ddigwyddodd o gwmpas y byd. Roedd heidiau o bysgod modern yr olwg yn nofio mewn llynnoedd ac afonydd, ac adar a chrocodilod yn byw ar ymylon y dwr. Ar y tir, tro�r mamaliaid oedd hi a�u newid esblygol chwim o greaduriaid bychain tebyg i lyg i gewri newydd y cyfnod. Yma gallwch edrych ar y ffordd yr esblygodd ceffylau heddiw o hynafiaid o faint cathod a oedd yn byw oddeutu 55 miliwn o flynyddoedd yn �l. Roedd planhigion hefyd yn newid a daeth y planhigion blodeuog i dra-arglwyddiaethu ar lawer o lystyfiant y byd. Yn wir, erbyn 1.6 miliwn o flynyddoedd yn �l, roedd patrymau llystyfiant modern wedi gwreiddio�n gadarn. Ffurfiwyd prif nodweddion tirwedd fodern Cymru ac mewn mannau eraill roedd bodau dynol cynnar yn esblygu. Rydych bellach yn agos�u at ein dyddiau ni pan gamwch i mewn i gyfres o ogof�u, i Oes yr I� i wynebu mamothiaid ar grwydr. Mae fideo�n egluro pam y bu newidiadau eithafol yn yr hinsawdd a�r rhesymau am y rhewlifiannau, cyn ichi fynd heibio i olion trawiadol yr anifeiliaid a oedd yn byw ar y twndra. Gwelwch yma sgerbwd carw mawr, �Cawrgarw Iwerddon�, gyda�i reiddiau yn rhychwantu 4m, olion mamoth a model o rinoseros gwlanog. Roedd y llenni i� a oedd yn mynd ac yn dod yn cerfio�r cymoedd ffurf �U� a geir yn ucheldiroedd Cymru. Roedd yr i� yn andwyol i�r rhan fwyaf o lystyfiant. Oherwydd yr oerfel dim ond y gwytnaf o blanhigion bach a oroesodd, sef y planhigion arctig/alpaidd sydd gennym heddiw. Collwyd llawer rhywogaeth o Brydain na ddaeth byth yn �l. Ag Oes yr I� drosodd o�r diwedd - hyd y gwyddom - daeth y fforestydd yn �l i Gymru. Ond yna, �r afonydd i� yn meirioli, boddwyd llawer iawn o�r tiroedd arfordirol isel. Gellir gweld tystiolaeth o goedwigoedd boddedig ar hyd llawer rhan o arfordir Cymru, yn enwedig pan fydd llanw mawr yn chwipio�r traethau ac yn dadorchuddio boncyffion coed derw a phin a fu ynghladd mewn priddoedd mawn ffosiledig. Gwelwyd y newidiadau olaf yn nhirwedd Cymru pan gliriwyd y fforestydd, proses a ddechreuwyd 10,000 o flynyddoedd yn �l gan wladychwyr y cyfnod Mesolithig. Yn ddiweddarach, 4,500 o flynyddoedd yn �l, daeth y bobl a fwyngloddiodd gopr Cymru a�i gymysgu � thun o Gernyw i wneud yr aloi efydd. Dyma�r metel pwysicaf am bron 2,000 o flynyddoedd nes i haearn ymddangos. |
|||
|