Non Gamstop CasinosNo Kyc Online Casinos 2025Non Gamstop Casinos UKBest Casino Not On GamstopNon Gamstop Casinos
Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
� �

Mwngloddiau Aur Dolau Cothi

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

�

Hanes ac Archaeoleg

Wrth ichi fynd i mewn i Fwngloddiau Dolau Cothi, mae pant mawr o�ch blaen � chreigiau coediog hyd ei ochrau, sef Pwll Ogof�u. Dyma safle gwaith brig Rhufeinig enfawr a gloddiwyd er mwyn tynnu aur o�r creigiau braenedig a lenwai�r pant. Mae tystiolaeth y gall peth o�r gwaith brig yn Nolau Cothi fod wedi digwydd cyn gynhared �r 6ed ganrif CC. Mae�n bosibl mai dyna pam y daeth y Rhufeiniaid i Gymru. Dechreuasant o ddifrif ar y mwyngloddio yma yn OC 75 a dod � miloedd o gaethweision yma i dynnu�r aur allan ar gyfer y Bathdy Ymerodrol yn Lyon.

Golygfa ar draws y mwynglawdd ychydig cyn iddo orffen gweithioAm gannoedd o flynyddoedd bu�r gloddfa yn segur ond mae tystiolaeth o weithgarwch mwyngloddio cyn y 19eg ganrif ar hyd y llethrau a wynebai�r gogledd-orllewin am tua 500 metr y naill ochr a�r llall i Bwll Ogof�u. Mae nifer o byllau a gweithiau brig, a rhai ohonynt yn ymestyn dan y ddaear. Uwch lefel Pwll Ogof�u mae dau agoriad mawr, a elwir yn Agoriadau Rhufeinig Uchaf ac Isaf, ond er gwaethaf eu henwau, yr unig beth a wyddom amdanynt yw eu bod yn dod o gyfnod cyn y 19eg ganrif. Yn niwedd y 19eg ganrif a dechrau�r 20fed ganrif helaethwyd rhai o�r gweithiau hyn a thorri agoriadau eraill o danynt. Yr un pryd, suddwyd siafft i ganol Pwll Ogof�u i weithio islaw�r gwaith brig. Yn olaf, yn y 1930au, suddwyd y siafft ymhellach i tua 140 metr a chloddiwyd pum lefel islaw Pwll Ogof�u. Dyma�r cyfnod modern mwyaf cynhyrchiol o thynnwyd 16,862 tunnell o fwyn a oedd yn werth �11,106 ar y pryd. Ym 1938 daeth y gwaith i ben oherwydd ei bod yn anodd cael yr aur allan o�r mwyn.

Ar wah�n i ddau dwnnel unigryw sy�n mynd i mewn i un o�r pyllau agored (y lefelau uchaf ac isaf Rhufeinig), mae�r ardaloedd dan y ddaear sydd ar agor i�r cyhoedd yn llawer diweddarach, ac yn dyddio o waith yn y 19eg ganrif a dechrau�r 20fed ganrif, pan fu�r mwynglawdd yn gweithio ar adegau dan yr enw Roman Deep. Suddwyd y gweithiau hyn, gan ddefnyddio driliau a ffrwydron, gannoedd o droedfeddi islaw iard y mwynglawdd, gan ddilyn y mwyn ar led ac i lawr.

Adeiladau ac adeiladwaith y daethpwyd � nhw yma yn niwedd y 1980au pan gaewyd mwynglawdd Olwyn Goch ger Helygain yn y Gogledd sydd heddiw fwyaf amlwg yn y rhan ganolog hon o�r mwynglawdd. Ni ddefnyddiwyd y rhain erioed i weithio�r mwynglawdd hwn. Mae mynediad i�r gweithfeydd dan y ddaear yn amodol ar brydles y Goron gan mai�r Goron sydd �r hawl i�r mwynau. Cyn 1999, Prifysgol Cymru, Caerdydd oedd yn dal y brydles ac roedd staff mwyngloddio�r coleg yn defnyddio rhan o�r safle fel canolfan hyfforddiant maes.


Daeareg >>

Top finds