![]() |
|
|||
Mwngloddiau Aur Dolau Cothi
|
Daeareg a Mwneiddiad Mae�r safle hwn yn haeddiannol enwog, ac yn hollol unigryw yn ddaearegol, ac am y rheswm hwnnw mae�n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Tynnodd y Rhufeiniaid (ac, yn �l ymchwil ddiweddar, eu rhagflaenwyr) haen uchaf y dyddodiad aur mawr hwn ymaith, lle yr oedd wedi hindreulio fwyaf. Defnyddient ffosydd i gario dwr am filltiroedd a golchi ymaith y graig wastraff a chasglu�r aur a oedd, oherwydd ei ddwysedd mawr, yn cael ei adael ar �l. Tybiwn mai dyna a ddigwyddai oherwydd mae�r mwyn nad yw wedi ei hindreulio mor anodd ei drin, hyd yn oed heddiw, oherwydd bod yr aur ar ffurf gronynnau m�n iawn wedi eu cloi o fewn crisialau sylffid mewn cwarts gwyn caled. Ond ger yr wyneb, byddai�r sylffidau wedi hindreulio�n bur helaeth, ac yn dadelfennu yn ocsidau a chlai, ac felly�n rhyddhau�r aur gan ei gwneud yn bosibl cael ato. Gallwch weld y mwneiddiad nad yw wedi ei hindreulio mewn gwahanol rannau o�r mwynglawdd sydd bellach ar agor i�r cyhoedd.
Mae daeareg y safle yn bur gymhleth, a dyna pam y mae�n gystal maes hyfforddi i�n daearegwyr ifanc. Yn fras, mae�r ardal a fwneiddiwyd yn anticlein tua�r Gogledd-Ddwyrain - plygiant ar i fyny - ac yn ei ganol mae creigiau gwaddod Ordofigaidd, a chreigiau gwaddod Silwraidd iau ar hyd yr ochrau o�i gylch. Dyddodwyd y creigiau gwaddod yn yr hen f�r y cyfeiriwn ato fel y Basn Cymreig, a ddilewyd ar ddiwedd y cyfnod Silwraidd gan symudiadau daear a barodd godi a phlygu. Yn �l y damcaniaethau cyfredol (a bu llawer o�r rheiny), dyddodwyd yr aur, y pyrit, yr arsenopyrit, y cwarts, y carbonadau a�r mwynau eraill (gan gynnwys y silicad cooceite prin sy�n cynnwys lithiwm) o hylifau a dreiddiodd i mewn i�r plygiant wrth iddo ddatblygu, gan greu gwythiennau cwarts mawr gwastad a elwir yn wythiennau cyfrwy wedi eu cysylltu � gwythiennau-blaen tenau, serth. Ond ceir damcaniaethau eraill hefyd - a rhyw ddydd efallai y bydd un ohonynt yn cael ei derbyn. Mewn dyddodion cymhleth eu daeareg fel Dolau Cothi, mae damcaniaethau ynghylch y ffordd y digwyddodd y mwneiddiad yn aml yn cael eu hailddiffinio sawl gwaith trwy flynyddoedd o ymchwilio amyneddgar - dyna wyddoniaeth ichi! Ers blynyddoedd lawer, mae myfyrwyr MSc o Gaerdydd wedi helpu i ddrilio twll turio ac archwilio a chofnodi�r craidd a gafwyd ohono, fel rhan o�u gwaith cwrs. Mae�r drilio wedi dangos bod mwneiddiad tebyg i�r hyn a welir yn y mwynglawdd yn digwydd mewn ardaloedd i�r gogledd-ddwyrain i ardal y mwynglawdd. Ymhen amser felly, byddwn yn dod i ddeall y dyddodion hynod gymhleth hyn o fwynau yn well ac yn well. |
|||
|