Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Mwynglawdd
Copr Y Gogarth

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Cyflwyniad

Y PenygogarthPentir o Galchfaen Carbonifferaidd yw Penygogarth, Llandudno ac mae'n codi i bron 225 o fetrau uwch lefel y m�r. Saif Mwynglawdd y Gogarth ym Mharc Gwledig y Gogarth, mewn ardal o harddwch naturiol filltir yn unig o ganol Llandudno. Bu cloddio yma am gopr ers 4,000 o flynyddoedd a dyma'r unig fwynglawdd copr o'r Oes Efydd yn y byd sydd ar agor i'r cyhoedd.

Mae yna ganolfan ymwelwyr, sydd ar agor i rai nad ydynt yn ymweld �'r mwynglawdd, ag arddangosiadau o fywyd yn yr Oes Efydd ynghyd ag eitemau archaeolegol ac arteffactau. Mae cyflwyniad clyweledol yn rhoi'r cefndir i'ch ymweliad �'r gweithfeydd dan ddaear. Mae un adran o'r mwynglawdd ar agor i chi gael gweld drosoch eich hun ran fechan o'r gweithfeydd tanddaearol enfawr hyn. Mae llwybr yr ymwelwyr yn dilyn rhai o'r 35 o wythiennau mwyn a gloddiwyd yn y Gogarth ac yn mynd � chi i weld y twneli 3,500 oed. Yn y pen pellaf mae'r twneli hyn yn cyrraedd man lle gallwch weld ogof fawr a thrawiadol o'r Oes Efydd. Cafwyd hyd i nifer fawr o esgyrn anifeiliaid yn yr ogof hon yn ogystal � dau bont-ysgwydd dynol, sydd bellach i'w gweld yn y Ganolfan Ymwelwyr. Yna gallwch gerdded o gwmpas y tirlun cynhanesyddol o ddadorchuddiwyd ym 1987 ac edrych 470 troedfedd i lawr siafft Vivian, a ddefnyddiwyd yn y 19eg ganrif i bwmpio dwr ac i godi'r mwyn. Mae arddangosfa fechan yn dangos sut y byddai ein hynafiaid yn troi craig yn fetel.


Hanes >>