Non Gamstop CasinosNo Kyc Online Casinos 2025Non Gamstop Casinos UKBest Casino Not On GamstopNon Gamstop Casinos
Yn ™l i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Ceudyllau Llechwedd

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Hanes ac Archaeoleg

Mae llechfaen wedi ei ddefnyddio ar gyfer toeau er pan ddarganfu'r Rhufeiniaid ei briodweddau a'i ddefnyddio yn eu caer yn Segontiwm - Caernarfon heddiw. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn defnyddio darnau wedi eu trin a'u cerfio i'w crogi ar furiau. Gwnaed y defnydd Cymreig cyntaf o lechi to yn y 12fed ganrif mewn safle a ddefnyddiwyd yn �l pob tebyg gan Owain Gwynedd, Tywysog Gwynedd, fel caer. Yn sicr defnyddiwyd llechi gan bensaer Edward 1af o Loegr i doi castell Conwy. Dechreuwyd defnyddio llechi yn helaeth yn fasnachol yn ystod y chwyldro diwydiannol i doi'r niferoedd enfawr o dai newydd a godwyd ledled y wlad. Yna cawsant eu hallforio i bob rhan o'r byd. Roedd llechi Cymru yn gynnyrch o safon.

Defnyddiwyd y llyn tanddaearol trawiadol ar gyfer cynhyrchiad 1985 Walt Disney Pictures oÕr Black CauldronChwaraeodd cloddfeydd Llechwedd ran ganolog yn y gwaith o gynhyrchu'r llechi hyn. Roedd yma sawl cloddfa ar wah�n fel Diffwys, Bowydd, Maenofferen, yn ogystal � Llechwedd ei hun. Roedd cloddio am lechi yn Niffwys (filltir i'r dwyrain o Geudyllau Llechwedd) ym 1775 ond yn y 19eg ganrif y dechreuodd y lleill. Bu llechi Blaenau Ffestiniog ynghudd am amser hir oherwydd bod ongl 30� yr haenau yn golygu mai dim ond mewn mannau y brigent i'r wyneb; mewn mannau eraill mae'r haenau bron yn fertigol neu'n llorweddol. Oherwydd hynny roedd yn rhaid cloddio am y llechfaen nes y daeth peiriannau modern a chaniat�u gwaith brig.

Cerfiwyd ceudyllau enfawr dan y ddaear, proses a oedd yn bosibl oherwydd bod haenau o greigiau igneaidd yn creu toeau diogel. Yn y diwedd yr oedd 16 o loriau yn Llechwedd, a'r cyfan yn cael eu henwi mewn perthynas �'r man lle darganfuwyd llechi ym 1849. Llawr 1 oedd yr enw ar y man hwnnw a chafodd y lloriau a ddilynodd eu rhifo ar i fyny (1-7) ac ar i lawr (A-I) gan roi pellter fertigol o ryw 305 metr dan y ddaear. Gosodwyd llwybrau i helpu i symud y blociau mawr o lechfaen allan i'r wyneb lle caent eu trin a'u hollti. Gall crefftwyr proffesiynol gynhyrchu niferoedd mawr o lechi o flociau gan ddefnyddio cyn. Mae'n gyffredin i'r holltwyr gynhyrchu tua 35 llechen y fodfedd ac yn Arddangosfa Llundain ym 1862 enillodd sylfaenydd Llechwedd, John Greaves, fedal � llechi 10tr o hyd ac 1 dr o led ond dim ond 1/16 modfedd o drwch.

Hollti llechi yn y Felin Lechi. Roedd yn rhaid cludo'r llechi i'r arfordir lle caent eu rhoi ar longau a'u hanfon ledled y wlad a thramor. I ddechrau caent eu halio i lawr y dollffordd i'r cei yn Nhan-y-bwlch. Ond codwyd cob ar draws aber afon Glaslyn ym 1813 a olygodd bod sianel y gellid ei mordwyo ar draws aber Dwyryd. Buan yr arweiniodd hynny at greu Port Madoc (Porthmadog) ac ym 1836, agorodd lein fach Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r harbwr � Blaenau Ffestiniog. Ym 1851 symudwyd y swyddfa o Lechwedd i'r glanfeydd newydd yn yr harbwr. Adeiladwyd tua 260 o longau ym Mhorthmadog, y rhan fwyaf ohonynt i gario llechi i'r marchnadoedd newydd a agorai ym mhobman. Ym 1869 daeth Rheilffordd y Cambrian i Finffordd a chaniat�u ail-lwytho llechi ar stoc rheilffordd arferol a'u cludo i'r prif ddinasoedd. Torrodd Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin drwodd o ddyffryn Conwy ym 1879 ac wedi hynny yr oedd Deganwy yn ddewis arall fel harbwr. Yn olaf, cyrhaeddodd Rheilffordd y Bala a Ffestiniog y dref, rheilffordd a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r 'Great Western Railway'.

Tablo yn un oÕr ceudyllau. Roedd angen medrau newydd er mwyn cynhyrchu llechi yn gynt, ac roedd y perchennog, J. W. Greaves, yn arloeswr. Dyfeisiodd ei fwrdd llifio ei hun a pheiriant trin llechi sy'n dal i gael ei ddefnyddio pryd bynnag y bo angen trin llechi to. O ganlyniad i'r dechnoleg aruchel hon yn ei chyfnod, ynghyd �'r rheilffordd a'r harbwr newydd, yr oedd 1850 yn drobwynt i Greaves a Llechwedd. Yn y flwyddyn honno, gwerthwyd 1,128 tunnell o lechi to gorffenedig, gwerth �2,114, gan godi Llechwedd i gynghrair y cynhyrchwyr mawr.

Daeth generadur trydan-dwr i Lechwedd ym 1890 ac ym 1904 gwnaed gwelliannau i'r system trwy harneisio pwer o ddau lyn uwchben y chwarel. Maent yn dal i gael eu defnyddio, ac yn achlysurol byddant yn bwydo'r grid cenedlaethol � phwer.


Daeareg >>

Discover more