Non Gamstop CasinosNo Kyc Online Casinos 2025Non Gamstop Casinos UKBest Casino Not On GamstopNon Gamstop Casinos
Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Ceudyllau Llechwedd

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Daeareg

Gwybodaeth

Llety

 

Daeareg

Llechi Cymru
Mae Cymru yn enwog trwy'r byd am ei llechi. Cloddiwyd gwelyau o lechfaen, ar hyd ochrau dyffrynnoedd, o gwmpas bryniau neu hyd yn oed drwyddynt, ers canrifoedd. O lechfaen y gwneir llechi, ond beth yw llechfaen?
Yn ei hanfod, llaid neu fwd wedi ei wasgu yw llechfaen.

Mae'r daith gymhleth braidd trwy ddigwyddiadau daearegol sy'n arwain yn y pen draw at ffurfio llechfaen yn dechrau rywle yn �l yn niwloedd daeareg, � basn-m�r hynafol, rhywle tebyg i F�r Iwerddon heddiw, ag afonydd yn bwydo tywod, gro a llaid i mewn iddo ar hyd ei arfordir. Po bellaf yr eir o lan y m�r, lleiaf y gronynnau o waddod a gludir allan yno: mae tywod a gro, oherwydd eu bod yn gymharol drwm, yn tueddu i beidio � theithio cyn belled ac yn crynhoi yn nes at yr arfordir.

Ac felly, allan ar wely'r m�r dwfn, bydd haenau o laid yn crynhoi yn araf. Dyna beth ddigwyddodd ar wahanol adegau yng Nghymru'r cyfnod Palaeosoig Isaf, 550-410 miliwn o flynyddoedd yn �l: yn y cyfamser bu cyfnodau o weithgarwch folcanig, neu gyfnodau o foroedd mwy bas gyda chreigiau mwy tywodlyd yn cael eu dyddodi. Ond y mwd neu'r llaid sydd o ddiddordeb i ni yma.

Mae mwd yn cynnwys llawer iawn o ddeunydd clai. Mae'r deunyddiau hyn yn ronynnau m�n dros ben, fel bod pob crisial yn anweledig i'r llygad noeth. Mae mwynau clai yn perthyn i'r teulu o fwynau a elwir yn llen-silicadau. Ymhlith y llen-silicadau eraill sydd i'w cael mae mwynau cyffredin fel mica. Weithiau mae mica i'w gael yn grisialau mawr y gellir eu plicio ymaith yn ddalennau tenau niferus.

Mae mica'n hollti'n rhwydd oherwydd adeiladwaith cemegol mewnol y mwyn. Mae'r atomau o alwminiwm, potasiwm, silicon, ocsygen a hydrogen sydd gyda'i gilydd yn creu mica wedi eu trefnu yn haenau. Dyna'r rheswm am y term llen-silicadau.

Dywedir am fwynau, fel mica a mwynau clai, y gellir eu hollti mewn un neu ragor o gyfeiriadau dewisol, fod iddynt holltedd.

Pan fydd llaid neu fwd yn suddo i wely'r m�r, nid yw'r mwynau clai i gyd yn gorwedd yn wastad. Maent yn wynebu pob cyfeiriad, fel hyn:
clay minerals

Wrth gwrs, nid yw'n bosibl hollti mwd yn ddalennau tenau i'w rhoi ar eich to.

Mae hen fwd, a arferai orwedd ar wely'r m�r yn y cyfnod Palaeosoig Isaf gannoedd o flynyddoedd yn �l, bellach yn ffurfio ochrau bryniau yn y Gogledd lle ceir y chwareli llechi. Felly beth ddigwyddodd i'w droi yn llechfaen? Mae yna gliw yma. Ar wely'r m�r yr arferai fod, ac erbyn hyn mae hanner y ffordd i fyny mynydd. Rhaid bod rhywbeth go fawr wedi digwydd iddo! Tua 400 miliwn o flynyddoedd yn �l, creodd symudiadau mawr yn y ddaear, yn cynnwys cyfandiroedd cyfain yn gwrthdaro, wasgedd aruthrol a orfododd hen wely'r m�r i fyny, fel pwti mewn feis. Cafodd y llaid, a oedd eisoes wedi ei droi yn garreg laid, ei droi yn llechfaen. Ond sut?

Gwelsom fod y mwynau clai y mae llaid yn llawn ohonynt yn holltadwy, fel mica, yn ddalennau tenau, a gwelsom sut y mae'r gronynnau mwyn mewn llaid arferol yn wynebu i bob cyfeiriad.

Yn ystod y symudiadau daear enfawr a gododd wely'r m�r i greu mynyddoedd Cymru, daeth y creigiau dan wasgeddau cyfeiriadol aruthrol mewn amgylchedd poeth iawn yn nyfnderoedd y ddaear. Mae gwasgeddau o'r fath yn ddigon i orfodi gronynnau mwynau i ailgrisialu yng nghyfeiriad y gwasgedd isaf. Neu, yn syml, os yw'r creigiau'n cael eu gwasgu mewn feis ddychmygol enfawr, bydd y mwynau'n ailgrisialu mewn aliniad cyfochrog � safnau'r feis - ac ar ongl sgw�r i'r grym y mae safnau'r feis yn ei roi. Yn symlach fyth, mae'n debyg braidd i wasgu rhywbeth yn fflat trwy sefyll arno!
flattened clay minerals

Ac felly mae'r mwynau clai a ailgrisialodd bellach i gyd wedi eu halinio yn yr un cyfeiriad ac mae gan y graig a gr�wyd bellach holltedd, fel y mica. Bydd hithau hefyd yn hollti yn ddalennau tenau i fynd ar eich to! Erbyn hyn mae'r mwd a oedd ar un adeg yn gorwedd ar wely'r m�r filiynau o flynyddoedd yn �l yn wyth�en o lechfaen Gymreig hardd ar draws ochrau mynyddoedd Eryri.

Metamorffedd yw'r enw ar broses fel hon, lle ceir un math o graig i ddechrau, ac un arall yn y diwedd. Bydd daearegwyr yn cyfeirio at sawl math o fetamorffedd, ac yn fras cyfeirir at y math sy'n cynhyrchu llechfaen fel math isel ei radd. Ond o fewn y dosbarth hwn mae amryfal is-raddau, o ailgrisialu syml ar un neu ddau o fwynau i newidiadau arwyddocaol lle mae llawer o len-silicadau newydd wedi eu ffurfio o'r elfennau cemegol oedd yn ffurfio'r hen rai yn y llaid. Po uchaf yw gradd ffurfiant y llechfaen, gorau oll yw ansawdd y llechen o ran ei haddasrwydd ar gyfer toi. A llechi Bethesda a Llanberis a'u gwawr borffor hynod, a ffurfiwyd o gerrig llaid y cyfnod Cambriaidd, yw'r uchaf eu gradd yng Nghymru ac fe'u defnyddid yn bennaf i doi. Mae llechi ardal Blaenau Ffestiniog yn rhai uchel-radd hefyd ond ychydig yn iau; perthynant i Ffurfiant Ordofigaidd Canol Nant Ffrancon. Yna ceir y llechi is eu gradd yn ardal Corris-Machynlleth. Daw'r rhain o'r cyfnod Ordofigaidd Uchaf-Silwraidd Isaf . Nid ydynt cystal ar gyfer toeau, ond maent yn rhagorol ar gyfer slabiau mawr, ac yn ddelfrydol i wneud byrddau snwcer, silffoedd pen t�n, linteli ffenestri ac at lu o ddibenion eraill.

Dim ond creigiau a oedd yn wreiddiol yn cynnwys llawer o fwynau clai fydd yn datblygu holltedd da. I wneud llechen, dechreuwch � llaid, nid tywod. Mae hyn yn egluro pam y mae'r llechfaen yn y Gogledd yn gorwedd mewn gwelyau - weithiau � thywodfeini heb eu hollti rhyngddynt.


Gwybodaeth am y safle >>

Discover more