Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Gwybodaeth

Llety

 

Cyflwyniad

Golwg ar Amgueddfa Lechi CymruAgorodd Amgueddfa Lechi Cymru ym mis Mai 1972 fel rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae'n amgueddfa fyw, un sy'n gweithio, ac mae'n sefyll ymhlith tomenni enfawr chwarel Dinorwig. Mae'r adeilad ei hun yn rhan o'r gweithdai Fictoraidd gwreiddiol a godwyd ym 1870.

Ychwanegiad arall i'r safle yw rhes o bedwar o dai chwarelwyr, a arbedwyd rhag eu dymchwel ym Mlaenau Ffestiniog. Mae un ty wedi ei ddodrefnu yn null 1860, un yn null cyfnod Streic Fawr 1901, a'r trydydd yn null cyfnod cau'r chwarel ym 1969. Mae'r pedwerydd yn safle dysgu rhyngweithiol i ysgolion, plant a'u teuluoedd, ac yn cyfrannu at y llu o weithgareddau addysgol a chwarae sy'n cael eu datblygu ar y safle. Gallwch hefyd ymweld � thy'r Prif Beiriannydd ym muarth yr Amgueddfa - a ailddodrefnwyd i gynrychioli 1911.


Hanes ac Archaeoleg >>