No Kyc Online Casinos 2025Non Gamstop CasinosNon Gamstop Casinos UKBest Casino Not On GamstopNon Gamstop CasinosUK Non Gamstop Casinos
Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
� �

Cymru Dan Y Ddaear - Newid Amgylcheddol A Ffurfiant Mwynauyng Nghymru

TAITH TRWY AMSER
Mae llawer wedi digwydd ar hyd y daith i ffurfio tirwedd cyfarwydd y Gymru a welwn heddiw. Llosgfynyddoedd, daeargrynfeydd, gwernydd trofannol, anialdiroedd a chapanau i� - gallech weld y rhain i gyd yng Nghymru pe bai peiriant amser gennych! Ond gan nad oes, beth am ymweld ag Oriel Esblygiad Cymru yn yr Amgueddfa a�r Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd? Yma cewch weld �mwg y dryll� - y dystiolaeth a adawyd yn y creigiau o�r llu o newidiadau amgylcheddol ac esblygol a effeithiodd ar Gymru dros y biliwn diwethaf o flynyddoedd.

Y CYFNOD CYNGAMBRIAIDD: CYMRU�R CYNFYD
4600-570 miliwn o flynyddoedd yn �l

Yng ngogledd-orllewin yr Alban y mae creigiau hynaf Prydain, ac maent yn 3000 miliwn o flynyddoedd oed. Yma yng Nghymru, mae�r creigiau hynaf sy�n brigo felly�n ddaearegol ifanc, yn ddim ond 700 miliwn o flynyddoedd oed!

Ceir creigiau Cyngambriaidd ym M�n a phenrhyn Llyn, yn ne-orllewin sir Benfro ac mewn mannau ar hyd y Gororau. Mae daearegwyr yn adnabod creigiau hynafol o�r fath fel y "sail" ac maent yn gorwedd dan y rhan fwyaf o�r tir mewn gwahanol ffurfiau ac amrywiol ddyfnderau, yn dibynnu ar hanes daearyddol diweddarach pob ardal. Cynhwysant greigiau gwaddod a folcanig, sy�n awgrymu bod y Gymru Gyngambriaidd yn lle terfysglyd!

Mae creigiau Cyngambriaidd yng Nghymru yn cynnwys gwythiennau o fwyn mewn mannau, ac ym M�n mae yna waddodion cromit isel-radd sy�n Gyngambriaidd yn �l pob tebyg. Ond maent yn rhy fach i fod yn werth eu cloddio�n fasnachol. Mwy diddorol yw bod drilio wedi dangos bod creigiau folcanig Cyngambriaidd dan yr ardal a elwir yn Gromen Harlech yn y Gogledd. Maentumiwyd y gallai�r creigiau hyn fod yn ffynhonnell i�r aur a geir yng ngwythiennau mwyn Llain Aur Dolgellau gerllaw.

Y CYFNODAU CAMBRIAIDD-SILWRAIDD: BASN CYMRU
570-410 miliwn o flynyddoedd yn �l

Gydol y cyfnod hwn, a elwir yn gyfnod Palaeosoig Isaf, roedd blociau adeiladu tirwedd Cymru yn cael eu gosod wrth i fetrau filoedd o greigiau gwaddod a folcanig grynhoi mewn basn morol - Basn Cymru. Roedd hwn yn ymestyn allan i�r gorllewin ar draws Cymru o swydd Amwythig, er bod y moroedd weithiau�n mynd a dod dros dirwedd isel Canolbarth Lloegr a�r tu hwnt. Bryd hynny gorweddai Cefnfor mawr Iapetws i�r gogledd o Gymru, ac ar lannau gogledd-orllewinol hwnnw, filltiroedd lawer i ffwrdd, yr oedd yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd hwn yn gyfnod pwysig yn ffurfiant gwaddodion mwynol Cymru. Mewn moroedd Cambriaidd bas, roedd gwaddodion cemegol yn crynhoi o bryd i�w gilydd. Weithiau roeddent wedi eu cymysgu � llaid a gwaddodion eraill, ond mae un llain, y gellir ei holrhain o gwmpas gogledd-orllewin Cymru, a oedd dros 1m o drwch mewn mannau ac a gafodd ei gweithio fel ffynhonnell mangan�s. Roedd y mwyn metel yn graig galed, drom, ysgyrllyd o ronynnau dwys, ac yn cynnwys cymysgedd o garbonadau mangan�s a silicadau ynghyd � rhai mwynau eraill. Fe�i mwyngloddiwyd mewn llawer man o gwmpas Cromen Harlech, fel Hafoty, ger y Bermo.

Yn ddiweddarach eto, yn y cyfnod Ordofigaidd, crynhodd gwaddodion cemegol tebyg, ond y tro hwn, haearn oedd y prif fetel. Haearnfeini oolitig oedd y mwynau metel, ychydig yn debyg i haearnfeini Jwrasig adnabyddus dwyrain Canolbarth Lloegr, ond wedi eu trawsffurfio a�u hanffurfio fel bod eu mwnyddiaeth yn newid gan roi mwynau newydd fel magnetit sy�n economaidd bwysig. Gwelir hyn mewn samplau toredig hardd. Cafodd mwyn haearn ei weithio mewn llawer ardal a cheir mwyngloddiau o gwmpas Cadair Idris sy�n enghreifftiau diddorol.

LLOSGFYNYDDOEDD YN ERYRI
O�r cyfnod Ordofigaidd cynnar i ganol y cyfnod hwnnw, tyfodd llosgfynyddoedd mawr o wely�r m�r, gan godi o�r m�r weithiau yn ynysoedd tebyg i Krakatoa. Ffrwydrodd peth wmbredd o lafa a lludw ohonynt: o un gyfundrefn folcanig fawr o gwmpas lle mae�r Wyddfa yn awr taflwyd trigain cilometr ciwbig o ddeunydd, yn �l yr amcangyfrif. O gymharu � hyn, byddai ffrwydrad enwog Mynydd St Helens yn 1980 wedi edrych yn fychan.

Pan geir gweithgarwch folcanig, mae mwneiddiad yn debygol, yn bennaf oherwydd bod ardaloedd folcanig yn boeth, ac felly�n creu grym darfudol pwerus, gan yrru dwr daear poeth i gylchredeg trwy�r creigiau agos. Pan ddaw�r dyfroedd hyn i�r wyneb, gallant ffrwydro i�r awyr ar dir fel ffynnon boeth, neu ffurfio�r �ffynhonnau mwg du� sydd bellach yn adnabyddus ar wely�r m�r. Bu gweithgarwch mwg du arbennig o ddwys yn yr ardal lle mae gogledd-ddwyrain M�n bellach, a ffurfiwyd llawer iawn o sylffidau haearn, copr, plwm a sinc. O�r Oes Efydd ymlaen cloddiwyd copr o�r ffurfiant mawr hwn o sylffidau ym Mynydd Parys, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif hwn oedd mwynglawdd copr mwyaf Ewrop. Mae�n dal i ddenu diddordeb, a gwnaed llawer o waith arno yn niwedd y 1980au, gan gynnwys suddo siafft newydd sylweddol.

Ymhellach i�r de, ger Dolgellau, mae mynydd Rhobell Fawr yn safle hen losgfynydd arall. Yma, roedd y gweithgarwch yn rychwantu�r ffin Gambriaidd-Ordofigaidd, ac arweiniodd at ffurfio un o�r gwaddodion molafon (porffyri)-copr hynaf yn y byd - m�s enfawr (200 miliwn tunnell) o ddiorit mewnwthiol wedi ei drwytho � sylffidau copr a haearn. Darganfuwyd Coed y Brenin ddechrau�r 1970au gan Riofinex Cyf, a dim ond mewn ychydig fannau y mae�n brigo gan ei fod wedi ei gladdu bron i gyd dan ddyddodion rhewlifol. Mae llwybr daeareg newydd Menter y Goedwig yn ymweld �r brigiadau gorau.

Roedd copr wedi ei gloddio yn ardal Coed y Brenin ymhell cyn darganfyddiad Riofinex. Gerllaw mae olion Mwynglawdd Copr Turf, lle cafodd gwely mawn llawn mwynau copr eilaidd ei gloddio, ei losgi mewn odyn a lle mwyndoddwyd y lludw a gwneud elw mawr. Ac nid nepell mae mwynglawdd enwog Glasdir, lle gweithiwyd m�s mawr pibellog o graig ddrylliog llawn m�n wythiennau o fwyn copr hyd 1914. Yma y darganfuwyd y dull a ddefnyddir bellach ym mhobman o wahanu mwyn sylffid, sef arnofio, a�i berffeithio ddechrau degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Yn yr un ardal y mae Llain Aur Dolgellau. Mae�r llain hon o dir yn gwyro i gyfeiriad de-orllewinol o Drawsfynydd i�r Bermo, ac yn cynnwys y gwaddodion metelog mwyaf adnabyddus efallai yng Nghymru - gan mai dyma ffynhonnell yr aur a ddefnyddiwyd ar gyfer modrwyau priodasau brenhinol drwy�r blynyddoedd. Ceir yr aur mewn pocedi lleol iawn - ond hynod gyfoethog - mewn gwythiennau cwarts sydd hefyd yn cynnwys sylffidau haearn copr, plwm, sinc, arsenig a chobalt ynghyd � thelwridau o fismwth, plwm ac arian. Mae cloddio am fwynau yn dal i ddigwydd yn yr ardal a defnyddir yr aur prin a geir i gynhyrchu gemwaith.

Ymhellach i�r gogledd, roedd ardal yr Wyddfa, canolfan folcanig Ordofigaidd fawr, yn ganolfan i ddiwydiant mwyngloddio copr pwysig yn y ddeunawfed ganrif a�r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cynhyrchwyd ychydig o arsenig hefyd ac, yn agos i Ddeganwy, cloddiwyd mwynau antimoni mewn dyddodyn cysylltiedig ond anarferol. Mae�r mwyngloddiau copr yn dal i�w gweld o gwmpas yr Wyddfa, ac mae un, Mwynglawdd Sygyn, yn agored i�r cyhoedd. Ffurfiwyd y gwythiennau copr pan gafodd dwr heli a oedd yn cylchdroi trwy�r creigiau o gwmpas caldera folcanig yr Wyddfa ei dwymo. Trwytholchodd y dwr fetelau o�r creigiau yr �i trwyddynt ac ailddyddodi�r metelau yn fwynau sylffid mewn toriadau yn nes i�r wyneb.

TYRBIDITAU - creigiau Canolbarth Cymru
O�r cyfnod Ordofigaidd canol i�r Silwraidd hwyr, ar hyd ymylon Basn Cymru, crynhodd deunydd gwaddod - tywod, gro a llaid - yn fonciau enfawr, gan ffurfio twmpathau mawr ansefydlog uwch y llethrau a �i i lawr i�r dyfroedd dyfnach. Yn aml, byddai rhannau mawr o�r twmpathau gwaddod hyn yn llithro, yn araf i ddechrau ac yna, wrth iddynt gyflymu ar eu ffordd i lawr, yn dirlithriadau tanforol enfawr. Lledent allan i orchuddio rhannau helaeth o wely�r m�r, dro ar �l tro, a haen ar ben haen.

Yn ei anterth, gallai�r llif tanforol o ddeunydd, neu�r ceryntau tyrfedd, fod yn teithio mor gyflym � 50mya. Wrth iddynt arafu, dechreuai�r gronynnau waddodi, y mwyaf yn gyntaf, i ffurfio�r haenau a elwir yn dyrbiditau, sydd mor gyffredin yn y Canolbarth ac a welir yn arbennig o dda yn y clogwyni yn Aberystwyth, a phob cyfres o dywod-silt-llaid yn cynrychioli un tirlithriad isforol.

Yn rhan ddeheuol y Canolbarth, ceir dyddodyn aur-arsenig cysylltiedig � thyrbidit sy�n anarferol, os nad yn unigryw. Cafodd hwn ei fwyngloddio yn Ogofau ger Pumpsaint, gan y Rhufeiniaid, yr oedd ganddynt waith enfawr yno, a chan gwmn�au mwyngloddio mwy diweddar. Mae�r mwyn yn cynnwys pyrit ac arsenopyrit y ceir gronynnau aur hynod o f�n ynddynt. Gweithiodd y Rhufeiniaid ar y rhan o�r dyddodyn a oedd yn agos i�r wyneb, lle roedd y sylffidau wedi eu hocsideiddio, a oedd yn gwneud yr aur yn haws ei gael. Erbyn hyn, mae�r safle, a elwir hefyd yn Dolau Cothi, yn eiddo i�r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn agored i�r cyhoedd.

BYWYD Y CYFNOD PALAEOSOIG ISAF
Yn haenau uchaf moroedd dyfnach Basn Cymru roedd organebau planctonig cyntefig yn byw, fel y graptolitau sydd bellach yn ddarfodedig, ac sydd i�w gweld yn aml fel ffosilau yn sialau�r Canolbarth a�r Gogledd. Tua�r Gororau, roedd y m�r yn fwy bas, a gallai bywyd mwy amrywiol ffynnu. Yn y cyfnod Silwraidd canol, roedd moroedd bas a chynnes yn caniat�u i greigresi cwrel ffynnu. O amgylch y creigresi, roedd gwelyau�r moroedd bas yn llawn bywyd. Ceir digonedd o olion ffosil o�r gymuned hon a fu�n byw ar wely�r m�r - cregyn o wahanol fathau, a�r tribolitau rhyfedd, cramenogion tebyg ar yr wyneb i wrachod lludw mawr - yn ardal y Gororau.

Erbyn diwedd y cyfnod Silwraidd roedd y moroedd yn cilio ac amodau aberol ac arfordirol yn datblygu hyd Gororau Cymru. Yn yr amgylchedd hwn, roedd newydd-ddyfodiaid, yn cynnwys y pysgod a�r planhigion tir cyntefig cyntaf, yn byw. Ym morlynnoedd llanw�r ardal hon trigai�r ewrypteridau neu�r sgorpionau m�r, hynafiaid cyntefig sgorpionau tir heddiw - ond yn dri metr o hyd weithiau!

Y CYFNODAU SILWRAIDD HWYR-DEFONAIDD CYNNAR: YR OROGENESIS ACADAIDD
410-390 miliwn o flynyddoedd yn �l

Erbyn dechrau�r cyfnod Defonaidd, roedd Basn Cymru wedi peidio � bod. Roedd yr eangdiroedd yr oedd Cefnfor Iapetws yn eu gwahanu wedi gwrthdaro �i gilydd, a pharodd hynny wasgu gweddillion Basn Cymru yn gadwyn newydd o fynyddoedd - mynyddoedd Caledonaidd Cymru. Roedd hon yn broses araf - cofiwch fod mynyddoedd Himalaya yn dal i godi 1-2 cm y flwyddyn - ond yr oedd grymoedd tetonaidd nerthol iawn ar waith. Fel yr oedd gwaddodion morol Basn Cymru yn cael eu hanffurfio, roedd pob gronyn o waddod yn cael ei gywasgu dan wasgedd aruthrol. Dan yr amodau hyn, daeth y mwynau clai a gyfrannai at y gwaddodion mwy lleidiog yn hydawdd ac roedd yn hawdd iddynt ailgrisialu, ac alinio ar ongl sgw�r i gyfeiriad y gwasgedd mwyaf. Ac felly datblygodd y creigiau raen - holltedd. Oherwydd natur fflochennog mwynau clai, fel mica, datblygodd y creigiau a wnaed ohonynt holltedd arbennig o gryf, hydreiddiol, cyflin, a�i gwn�i�n hawdd eu hollti yn ddalennau tenau. Ac felly y gosodwyd sylfeini diwydiant llechi Cymru.

Mae Cymru yn enwog am ei llechi, un cynnyrch mwynol sy�n dal i gael ei fwyngloddio o ddifrif heddiw. Llechi oedd sylfaen economaidd llawer o bentrefi a threfi mwyaf y Gogledd: mae llefydd fel Corris, Blaenau Ffestiniog, Llanberis a Bethesda wedi datblygu i raddau helaeth oherwydd y canlyniad hwn i waith tectoneg. Mae llechi Cymru yn amrywio o le i le, o ran oed ac ymddangosiad. Daw�r llechi to gorau - y llechi porffor a gwyrdd nodedig - o greigiau Cambriaidd rhwng Llanberis (cartref Amgueddfa Lechi Cymru) a Bethesda ac maent yn gynnyrch gwasgeddau tectonig ac amodau metamorffig cryfach na�r llechi a geir yn y creigiau Silwraidd ac Ordofigaidd uchaf yn ardal Corris (cartref labrinth y Brenin Arthur). Roedd rhai o�r chwareli mwyaf ymhlith llechi Ordofigaidd ardal Ffestiniog, lle mae Ceudyllau Llechwedd yn agored i�r cyhoedd a lle gallwch ddechrau sylweddoli maint y gwaith a wnaed gan ddynion a merched y dyddiau a fu.

Mae Maes Mwynau Canolbarth Cymru yn cynnwys ardal eang o wythiennau mwynau o fewn tyrbiditau Ordofigaidd a Silwraidd. Dangoswyd bod y mwneiddio wedi digwydd mewn sawl cyfnod, gan ddechrau yn y cyfnod Defonaidd a pharhau trwy�r cyfnod Carbonifferaidd i mewn i�r Permo-Triasig. Roedd y gwythiennau cynnar yn arbennig o bwysig fel ffynhonnell arian yn ystod y Rhyfel Cartref, pan oedd mwyngloddiau fel Darren, Cwmsymlog a Goginan yn eu hanterth. Roedd gwythiennau diweddarach yn cynnwys llai o arian, ond llawer o blwm a sinc, ac mae enghraifft ardderchog i�w gweld dan ddaear yn Amgueddfa fwyngloddio Llywernog. Mae mwynau eraill sydd i�w cael yn y Canolbarth yn cynnwys sylffidau cobalt a nicel ac aur prin. Cyrhaeddodd mwyngloddio yn y Canolbarth ei anterth yn y 1850au ac roedd wedi dod i ben erbyn yr Ail Ryfel Byd.

AFONYDD DEFONAIDD A GWERNYDD CARBONIFFERAIDD
390-290 miliwn o flynyddoedd yn �l

Erbyn canol y cyfnod Defonaidd, roedd Basn Cymru wedi mynd yn rhan o gadwyn o fynyddoedd. Roedd yr hinsawdd yn grinsych, a byddai�r glaw achlysurol yn erydu�r mynyddoedd ac yn creu gwaddodion newydd wrth wneud hynny. Cludai afonydd ddeunydd ymaith tua Chanolbarth Lloegr a De Cymru, gan ddyddodi tywod dros y gwastatir. Maes o law, caledodd y tywod hwn a chreu�r hyn a elwir heddiw yn Hen Dywodfaen Goch. Yr haenau hyn sy�n creu lliw coch nodweddiadol priddoedd rhannau o Dde a Dwyrain Cymru.

Mae�r cyfnod Defonaidd wedi ei alw yn �oes y pysgod". Dyma pryd y bu�r cam mawr ymlaen mewn esblygiad a roddodd fod i�r creaduriaid hyn yn eu holl amrywiaeth - pysgod esgyrnog, siarcod, pysgod ysgyfeiniog - mewn moroedd, llynnoedd ac afonydd ym mhob cwr o�r byd. Ac o�r pysgod ysgyfeiniog yr esblygodd yr amffibiaid cyntaf i ymlusgo i�r tir, lle�r oedd planhigion eisoes wedi hen ymsefydlu.

Ar ddechrau�r cyfnod Carbonifferaidd, daeth moroedd cynnes a bas i rannau o ogledd-ddwyrain a de Cymru, ac unwaith eto ffynnai creigresi cwrel gan osod y calchfeini y ffurfiwyd ogof�u Cymru ohonynt yn ddiweddarach.

Ond erbyn y cyfnod Carbonifferaidd Uchaf, ac yn arbennig yn y De, delt�u a gwernydd arfordirol helaeth oedd y rhan fwyaf o�r tirwedd. Roedd y rhain yn ddryswch o gnwpfwsoglau o faint coed, ac ar lifgloddiau uwch yr afonydd tyfai planhigion eraill. Crynhodd deunydd mawnog trwchus yn y gwernydd hyn, a than wasgeddau a thymereddau uwch wrth iddynt gael eu claddu�n ddyfnach o hyd, yn araf fe�u trawsnewidiwyd yn haenau glo. Yn ne Cymru, mae Canolfan Dreftadaeth y Rhondda a�r Pwll Mawr yn llefydd i fynd i gael gwybod popeth a fynnwch am lo ac am gloddio glo. Gwyddom am rai sbesimenau mwyn trawiadol hefyd o geudodau mwyn haearnfeini o�r maes glo.

Mae creigiau Carbonifferaidd diweddarach yn y De yn cynnwys tywodfeini a ddyddodwyd gan afonydd a darnau o lo ynddynt. Mae�r rhain yn dangos bod yr haenau a ddyddodwyd yn y gwernydd glo erbyn y cyfnod hwnnw wedi eu codi i fyny ac eisoes yn cael eu herydu. Mae hyn yn dystiolaeth i gamau cyntaf y cyfnod nesaf o greu mynyddoedd - yr orogenesis Farisgaidd.

Yn y cyfnod hwn, roedd yr eangdiroedd sydd erbyn hyn yn Affrica, De America, India ac Awstralia yn un uwchgyfandir. Erbyn tua 290 miliwn o flynyddoedd yn �l, roedd yr ehangdir enfawr hwn, a elwir bellach yn Dir Gondwana, wedi gwrthdaro � Gogledd America, Ewrop ac Asia i ffurfio un uwchgyfandir - Pangaea.

ANIFEILIAID DARFODEDIG PERMAIDD, ANIALDIROEDD TRIASIG A MOROEDD JWRASIG
290-190 miliwn o flynyddoedd yn �l.

Byr fy hoedl Pangaea. Dim ond 50 miliwn o flynyddoedd a aeth heibio cyn i�r uwchgyfandir hollti eto. Symudodd y drylliau yn raddol (a bu ambell wrthdrawiad arall) nes creu�r map cyfarwydd o�r byd a welwn ni heddiw.

Cafodd ffurfio Pangaea effaith mawr ar fywyd y byd, yn cynnwys Cymru. Bryd hynny, roedd Prydain yn agos i�r Cyhydedd, ac Affrica a De America yn llawer nes i Begwn y De. Roedd capanau i� eang dros y tiroedd deheuol hyn, a chan fod cymaint o ddwr wedi ei droi yn i�, gostynodd lefelau�r moroedd, a newidiwyd eu helltni. Cafodd y newidiadau amgylcheddol mawr hyn effaith fawr ar y tir lle mae�r Deyrnas Unedig bellach, gan gynnwys Cymru, a throdd yn anialwch lle�r oedd twyni tywod helaeth a lagwnau heli yma ac acw lle�r oedd rhannau o foroedd blaenorol wedi eu hynysu wrth i lefelau�r moroedd ddisgyn dros y byd. Mae�r damcaniaethau�n newid o flwyddyn i flwyddyn ynghylch y rhesymau am ddiflaniad rhywogaethau yn y cyfnod hwn; mae ardrawiad asteroid a gweithgarwch folcanig enfawr wedi eu beio yn eu tro am droi�r sefyllfa hon a oedd eisoes yn fregus yn argyfwng lle bu agos iawn i fywyd ei hun ddiflannu. Hyd y gwyddom, dyma�r agosaf y bu bywyd ar y Ddaear i ddiffodd am byth.

Ychydig y tu allan i�r Gymru fodern, datblygodd basnau gwaddod mawr - ardaloedd o ymsuddiant a gwaddodi. Roedd un ym M�r Iwerddon, ac un arall yn ardal swydd Gaer. Erbyn dechrau�r cyfnod Jwrasig, roedd y tir yn ymsuddo�n helaeth ac, unwaith eto, daeth y m�r i mewn, gan foddi�r cyfan ond yr ardaloedd mynyddig. Ceir tystiolaeth glir o�r trawsnewid o amgylchiadau anialdir y cyfnod Triasig i foroedd y cyfnod Jwrasig Isaf mewn creigiau a ddaeth i�r golwg ar hyd arfordir y De rhwng Penarth a Thrwyn Larnog, ger Caerdydd. Ac fel y digwyddodd yn hen Fasn Cymru yn y cyfnod Ordofigaidd a Silwraidd, crynhodd trwch ar �l trwch o waddodion morol mawr dros yr ychydig filiwn o flynyddoedd nesaf. Mae tuedd i amser daearegol, fel hanes, ei ailadrodd ei hun.

Ffurfiwyd rhai dyddodion mwyn pwysig yn y cyfnod hwn, wrth i raddiannau gwres uchel a gr�wyd yn ystod ymsuddiant basnau gynhyrchu heli metelog. Symudodd y dyfroedd hyn i fyny ac ar draws i mewn i ardaloedd o greigiau hyn. Roedd cyfresi calchfaen y Cyfnod Carbonifferaidd Isaf yn fannau arbennig o ffafriol ar gyfer mwneiddio, ac felly ffurfiwyd meysydd mwyn plwm-sinc-fflworit-baryt Cymru, sy�n debyg i rai�r Pennines, sef ardal Helygain-Mwynglawdd gogledd-ddwyrain Cymru a rhan Gymreig maes mwynau de Cymru a�r Mendips. Credir i ddyddodion copr unigryw y Gogarth ger Llandudno gael eu ffurfio bryd hynny hefyd, ac maent wedi eu cloddio ers yr Oes Efydd. Mae mwynau haearn, fel y rhai a gloddiwyd tan yn weddol ddiweddar yn Llanhari, yn y De, hefyd yn rhan o�r digwyddiad mwneiddio mawr hwn.

ESBLYGIAD CYMRU YN Y CYFNOD JWRASIG-CAINOSOIG HWYR
190-1.6 miliwn o flynyddoedd yn �l

Credir bod y moroedd ar adegau yn gorchuddio tirwedd isel Cymru�r cyfnod Jwrasig-Cretasig yn llwyr. Ond erbyn dechrau�r cyfnod Caenosoig, 65 miliwn o flynyddoedd yn �l, roedd y m�r yn bendant ar drai. Ond beth wyddom ni am y dinosoriaid? A fuont yn byw yma erioed?

Buont yn sicr, oherwydd cafwyd hyd i olion traed ffosiledig mewn creigiau Mesosoig ym Mro Morgannwg. Ond erbyn dechrau�r cyfnod Caenosoig, roedd y dinosoriaid, ynghyd � llawer ffurf arall ar fywyd, wedi eu dinistrio�n llwyr mewn ail ddifodiant cyffredinol, y rhoddir y bai amdano ar hyn o bryd ar newid hinsawdd a ysgogwyd gan ardrawiad asteroid yn yr ardal lle mae Gwlff M�xico heddiw. Yn dilyn yr argyfwng hwn - beth bynnag a�i hachosodd - grwp bychan o anifeiliaid a oedd tan hynny yn israddol ac a fu�n cuddio yn y cefndir ers 140 miliwn o flynyddoedd a etifeddodd y Ddaear, a hynny�n llythrennol. Y mamaliaid oedd y rhain.

Gydol y cyfnod Caenosoig, roedd hinsawdd Cymru yn gynnes o gymharu � heddiw. Am gyfnodau maith roedd yn isdrofannol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd dyddodion mwyn Cymru a gynhwysai sylffid eu hindreulio�n ddwfn ac yn aml ffurfiai mwynau newydd, lliwgar yn aml, fel malachit a phyromorffit. Mae�n debyg i�r mwynau mangan�s ocsid, a gloddiwyd ym mynyddoedd Arennig ac mewn ardaloedd yn y Canolbarth, gael eu ffurfio yn y cyfnod hwn.

Ac yn y tirwedd hwn trigai hynafiaid yr eliffantod, yr hipos, y ceirw, y gwartheg sy�n gyfarwydd i ni heddiw, a llawer ffurf arall a fyddai�n lled-gyfarwydd. Ond dim ond 1.6 miliwn o flynyddoedd yn �l, dechreuodd yr hinsawdd newid, arwydd bod Oes yr I� ar ddechrau.

RHEWLIFIANT Y CYFNOD PLEISTOSEN
1.6 miliwn-10000 o flynyddoedd yn �l

Yn ystod y cyfnod Pleistosen, creodd sawl cyfnod oer, pob un yn para filoedd o flynyddoedd, gapanau i� dros fynyddoedd Cymru. Rhwng y cyfnodau hyn bu cyfnodau a oedd bron cyn gynhesed � heddiw, neu�n gynhesach. Yn ystod y cyfnodau cynhesach hyn roedd llewod, hipos, eirth ac anifeiliaid egsotig eraill yn byw yn neheudir Prydain. Yn y cyfnodau oerach tr�i�r tiroedd hyn yn dwndra.

Mae i� rhewlifol yn erydydd arbennig o nerthol a rhewlifiannau�r cyfnod Pleistosen fu�n gyfrifol am roi�r ffurf derfynol a welwn ni heddiw ar dirwedd Cymru.

Rhwygodd yr I� y creigiau briwsionllyd a oedd wedi hindreulio, a thynnu llawer o ddyddodion mwyn oddi ar y rhannau uchaf a oedd wedi ocsideiddio. Yna bu afonydd o ddyfroedd tawdd yn ailweithio�r deunydd, gan olchi ymaith y tywod ysgafnach a gadael y deunydd trymach ar �l, gan gynnwys gronynnau aur yn y Gogledd. Y broses hon a greodd aur banc tywod afon Mawddach ac afonydd eraill yn y Gogledd, lle cafwyd rhai cnepynnau sylweddol yn y gorffennol. Heddiw, maent yn hynod o brin oherwydd y chwilota a fu ynghynt!

Cyn, yn ystod ac ar �l Oes yr I�, aeth ardaloedd calchfaen Cymru - yn y Gogledd-ddwyrain a�r De yn bennaf - trwy fath arbennig o broses ddaearegol sy�n arbennig i galchfaen. Gall dwr glaw doddi calchfaen, gan mai calsiwm carbonad yw yn bennaf. Mae�n broses hynod araf yn nhermau dynolryw, ond dros gyfnodau cymharol fyr yn ddaearegol - degau o filoedd o flynyddoedd - mae�n syndod faint o doddi all ddigwydd. Mae�r dwr glaw yn treiddio dan ddaear, i lawr planau ffawt a thoriadau breg; weithiau mae�n gweithio ei ffordd i lawr; dro arall, pan ddaw i fan lle mae gwrthgyferbyniad daearegol nodedig, fel llain galchfaen enfawr a gwely si�l anhreiddiadwy dani, mae�n mynd ar draws. Y naill ffordd neu�r llall, systemau o ogof�u yw�r canlyniad. Mae gan Gymru sawl system o�r fath, fel y rhai yn ardaloedd Helygain a Mwynglawdd yn y Gogledd-ddwyrain, ac yn Nan yr Ogof yn y De, lle mae ogofa yn arbennig o boblogaidd ac ogof�u arddangos yn agored i�r cyhoedd. Yma cewch weld y ffurfiannau cerrig dylif hardd - llenni tonnog o stalagtitau a stalagmitau, a ffurfiwyd wrth i�r un dyfroedd ag a doddodd y calchfaen yn y lle cyntaf ailddyddodi�r calsiwm carbonad ar ffurf aragonit. Mae�r rhain yn gynnyrch miloedd o flynyddoedd o weithgarwch cemegol araf - rhywbeth i fyfyrio yn ei gylch wrth ichi sefyll o�u blaenau.

Y CYFNOD HOLOSEN
10000 o flynyddoedd yn �l i�r presennol

Wrth i�r hinsawdd gynhesu ac i�r llystyfiant gynyddu, lledodd ton ar �l ton o bobl ar draws Prydain - a darganfyddiad mwynau metel yn aml yn eu denu. Y mewnlifiad hwn o bobl a nodweddai ddatblygiad Cymru o�r cyfnod Palaeolithig, neu Hen Oes y Cerrig, hyd heddiw, ac fe�i hadlewyrchir yn amrywiaeth cyfoethog diwylliant Cymru. Tystiolaeth o�r cyfnod hwn, a drosglwyddwyd trwy�r traddodiad llafar ac a gofnodwyd wedyn yn ysgrifenedig, yw�r hyn a alwn yn hanes. Mae hanes felly yn cynrychioli tua 0.0002173% o amser daearegol.

Mae�n anodd gwybod pryd y daeth y glowyr cyntaf i Gymru. Gwyddom fod yr i� wedi mynd i bob pwrpas erbyn 10,000 o flynyddoedd yn �l ac roedd gwladychu wedi hen ddechrau. Ymddengys fod creigiau a mwynau wedi swyno pobl erioed, a phrin y gellir credu na fyddai�r trigolion cynnar hyn wedi sylwi ar ambell garreg anarferol neu liwgar ar eu teithiau. Ond mae ein dulliau gwyddonol modern wedi dangos bod diwydiant mwyngloddio pur brysur i�w gael mewn rhannau o Gymru erbyn ychydig dan 4000 o flynyddoedd yn �l. Pobl yr Oes Efydd oedd y mwyngloddwyr cynnar hyn, pobl a oedd wedi mudo�n araf i�r gogledd a�r gorllewin trwy Ewrop, gan chwilota am fwynau wrth fynd - ac am ddau fetel yn arbennig, sef tun a chopr. Ychydig o dun a geir yng Nghymru, ond mae copr yn stori wahanol. Bu�r bobl hyn yn cloddio am gopr mewn nifer o lefydd yng Nghymru, o�r Gogarth yn y Gogledd i Gwmystwyth yn y Canolbarth. Yn �l yr arwyddion a adawyd, lle bynnag yr oedd mwneiddiad copr o bwys, rhoesant gynnig arni. Mwyngloddiwyd trwy falurio�r graig � th�n, ac yna ei thorri a�i thynnu allan � morthwylion trwm o gerrig a phicasau o ddarnau o gorn carw. Mae olion offer o�r fath a�r siercol a adawyd gan y tanau wedi caniat�u i�n haneswyr ddarganfod pa mor hen oedd y mwyngloddiau cynnar hyn - trwy gyfrwng dyddio Carbon 14. Mae�r canlyniadau yn hynod gyson ar draws Cymru ac yn awgrymu dyfodiad pobl a ddeallai, i raddau digonol, ddaeareg, chwilota am fwynau, mwyngloddio a meteleg, bron 2000 o flynyddoedd cyn i�r Rhufeiniaid gyrraedd.

Hanes mwyngloddio Cymru a�r chwilio am ei gwahanol fwynau gwerthfawr yw�r allwedd i �Cymru Dan y Ddaear�, fel y gwelwch wrth ichi bori yn nhudalennau�r wefan hon. Mwynhewch yr ymweliad!

<< Cysylltiadau