Glo
Olion
mawn a gywasgwyd nes bod dim braidd ar �l ond carbon yw glo. Mae angen
amodau arbennig i ddigon o fawn grynhoi fel y gallu gynhyrchu glo sylweddol.
Yr amod cyntaf yw bod rhaid cynhyrchu llawer iawn o ddeunydd planhigion,
ac fel rheol mae hynny�n golygu planhigion sy�n tyfu�n gyflym ac yn ddwys
iawn. Yn ail, rhaid i�r gyfradd o bydredd ym meinwe�r planhigion wedi
iddynt farw fod yn fychan iawn. Gall amrywiaeth o gynefinoedd greu�r ddau
amod hyn ond mae gwern-goedwigoedd y trofannau yn gynhyrchwyr mawn heb
eu hail.
Yn ystod y Cyfnod
Carbonifferaidd, 300 miliwn o flynyddoedd yn �l, roedd Cymru�n agos iawn
i�r cyhydedd. Roedd y rhan fwyaf o dir bryd hynny yn rhan o un uwchgyfandir
o�r enw Pangea. Roedd Cymru yn rhan o ardal enfawr o wlyptiroedd yn ymestyn
o�r hyn a elwir yn awr yn Appalachiaid, ar draws arfordir Canada a gogledd
Ewrop, i Wlad Pwyl (a elwir yn Rhagdir Farisgaidd). Roedd yn gynefin delfrydol
i grwp o blanhigion mawr a elwir yn gnwpfwsoglau mawr a oedd wedi ymaddasu�n
rhagorol i fyw mewn priddoedd isel-faeth, dwrlawn. Ni allai planhigion
eraill oroesi yn yr amodau gwrthnysig hyn. Tyfent yn eithriadol gyflym;
amcangyfrifwyd y gallai eu boncyffion 1-2m o led dyfu sawl metr o hyd
y flwyddyn. Wedi iddynt farw, roedd yr ishaenau dwrlawn asidaidd yn arafu
dadfeiliad y planhigion. Ac felly roedd yr amodau bron yn berffaith ar
gyfer creu�r dyddodion mawn trwchus sydd bellach wedi eu cadw ar ffurf
haenau glo trwchus meysydd glo Cymru. Cyfeirir yn aml at y fforestydd
fel Fforestydd Glo.
Nid planhigion sy�n
creu had fel y rhan fwyaf o blanhigion mawr sy�n tyfu heddiw oedd y rhain,
ond planhigion a atgynhyrchai trwy gyfrwng sborau. Ond ar yr wyneb edrychent
yn debyg iawn i goed a thyfent hyd at 40 metr o uchder. Ond yn wahanol
i wir goeden, ychydig iawn o bren oedd yn y boncyff. Yn wir, roedd llawer
iawn o�r boncyff yn feinwe meddal o�r enw periderm, a ganiat�i i�r planhigion
dyfu�n llawer cyflymach na choed prennaidd. Tyfai llawer iawn o�r cnwpfwsoglau
hyn mewn ffordd debyg i lawer o blanhigion llai, llysieuol heddiw: tyfent
yn blanhigion aeddfed, atgynhyrchent, ac yna byddent yn marw. Mae�r rhan
fwyaf o goed modern yn atgynhyrchu am flynyddoedd lawer ar �l aeddfedu.
Dyna pam y mae llawer o balaeontolegwyr yn galw�r planhigion darfodedig
hyn yn llysiau enfawr yn hytrach na choed.
Mae cnwpfwsoglau i�w
cael heddiw, ond bellach planhigion bach llysieuol ydynt i gyd, ddim mwy
nag ychydig gentimetrau o uchder. Mae eu henw cyffredin yn dangos sut
y maent yn edrych ar yr wyneb fel gwir fwsoglau (mae�r �cnwp� yn cyfeirio
at ffurf y conau sy�n dwyn y sborau y mae�r rhan fwyaf yn eu cynhyrchu).
Ond nhw oedd un o�r grwpiau pwysicaf o blanhigion mawr a dyfai yn y Fforestydd
Glo.
Tyfai planhigion eraill
hefyd yn y Fforestydd Glo, ond yn bennaf yn yr ardaloedd llai dwrlawn,
fel ar lannau uwch afonydd a lifai trwy�r gwernydd. Yma byddai coed-redyn
yn tyfu, a edrychai�n debyg iawn i�r coed-redyn hynny sy�n byw mewn llefydd
fel Seland Newydd heddiw (er eu bod yn perthyn i deuluoedd o redyn gwahanol
i rai heddiw). Roedd rhai planhigion had hefyd a berthynai i nifer o grwpiau
sydd bellach yn ddarfodedig, fel y cordaitiaid (perthnasau pell i gonwydd
heddiw) a�r medwlosaliaid neu�r had-redyn (perthnasau pell i�r cycadiaid).
Roedd
llynnoedd a phyllau yn y gwernydd lle na thyfai unrhyw blanhigion ar wah�n
i alg�u. O gwmpas y llynnoedd hyn tyfai dryslwyni o blanhigion tebyg i
goed o�r enw calamitiau, a gyrhaeddai uchder o ddeg metr neu ragor. Eu
perthnasau yn y cyfnod modern yw�r marchrawn, sy�n dal i dyfu�n doreithiog,
bron trwy�r byd i gyd. Ond eto, fel y cnwpfwsoglau, maent yn llawer llai.
Fel yn achos y goedwig
law drofannol heddiw, planhigion o faint coed oedd yn tra-arglwyddiaethu
ar y llystyfiant. Mae�n anodd i blanhigion llai gystadlu am olau � chewri�r
goedwig, a rhaid iddynt addasu strategaethau eraill i oroesi. Yn fforestydd
trofannol heddiw, lianas yw llawer o blanhigion nad ydynt yn goed, sy�n
gallu tyfu i fyny boncyffion y coed i gyrraedd y goleuni; neu maent yn
ardyfwyr neu�n epiffytau sydd wedi ymaddasu i fyw yng nghorun y goeden.
Mae gennym dystiolaeth i fodolaeth lianas ac epiffytau yn y Fforestydd
Glo, er nad oeddent mor doreithiog nac amrywiol �r rhai a geir yn y fforestydd
modern.
Y sffenoffyliaid yw�r
unig blanhigion daear llysieuol yn y Fforestydd Glo. Planhigion sgrialog
oedd y rhain a oedd yn �l pob tebyg yn gallu tyfu�n gyflym iawn i orchuddio
ardaloedd yn y goedwig a fyddai�n wag, efallai oherwydd cwymp coeden.
Mae�r sffenoffyliaid yn dipyn o ddirgelwch. Roedd ganddynt ddail yn gylchoedd
o amgylch y coesyn, yn debyg i�r marchrawn, a chredai gwyddonwyr ar un
adeg eu bod yn perthyn o bell i�r grwp hwnnw. Ond mae�r conau atgynhyrchu
a�r dail yn hollol wahanol, ac felly mae�n debyg eu bod yn cynrychioli
grwp o blanhigion sy�n gwbl ddarfodedig ac nad oes unrhyw berthnasau agos
iddynt yn fyw heddiw.
Mae�r dystiolaeth
ddaearegol i�r Fforestydd Glo i�w chael heddiw yn y meysydd glo, y mae
dau ohonynt yng Nghymru. Mae Maes Glo�r Gogledd yng ngogledd-ddwyrain
y wlad ac, mewn gwirionedd, estyniad i�r gorllewin yw o Faes Glo Sir Gaerhirfryn.
Mae Maes Glo�r De yn llawer mwy ac yn ymestyn i�r gorllewin o fan yn agos
i�r ffin � Lloegr hyd arfordir pellaf sir Benfro. Rhwng y ddau faes glo
hyn mae ardal a elwir yn Massif Cymru-Brabant, a oedd yn ystod y cyfnod
Carbonifferaidd Hwyr yn ardal ychydig yn sychach lle na allai�r Coedwigoedd
Glo ddatblygu.
Mae�r
dystiolaeth ddaearegol i�r Fforestydd Glo yng Nghymru wedi ei diogelu
yn yr Haenau Glo. Mae�r creigiau hyn yn cynnwys haenau o si�l a thywodfaen
llwyd yn bennaf, a rhyngddynt haenau llawer teneuach o lo. Y si�l a�r
tywodfaen yw�r gwaddod a oedd wedi crynhoi yn yr afonydd a�r llynnoedd
yn y gwernydd, a�r glo yw�r gwelyau mawn cywasgedig. Mae pwysau�r gwaddod
wedi cywasgu cryn dipyn ar y mawn; amcangyfrifir heddiw mai dim ond chweched
ran o�u trwch gwreiddiol pan oeddent yn fawn yw�r haenau glo a geir yng
Nghymru. Ac felly, er nad felly yr ymddengys bellach, dylid sylweddoli
bod yr Haenau Glo nodweddiadol yn cynrychioli haenau hynod drwchus o fawn,
a rhyngddynt haenau cymharol denau o waddod.
Yn y gorffennol, oherwydd
eu bod mor bwysig fel ffynhonnell tanwydd yr oedd diddordeb yn yr Haenau
Glo. Rodd deall daeareg y dyddodion hyn yn helpu glowyr i gloddio am lo
mewn ffyrdd mwy economaidd. Ond yn ddiweddar bu daearegwyr yn edrych o�r
newydd ar y dyddodion hyn. Er eu bod wedi eu ffurfio gynifer o filiynau
o flynyddoedd yn �l, maent yn cynrychioli amser sy�n debyg i heddiw mewn
llawer ffordd. Dyma�r unig amser arall yn y gorffennol daearegol pan oedd
i� pegynol helaeth ynghyd � fforestydd trofannol enfawr. Ac felly, gall
deall y digwyddiadau a fu yn y cyfnod Carbonifferaidd ein helpu i ddeall
yr effeithiau sy�n achosi newid mewn hinsawdd heddiw.
<<
Cysylltiadau
|