No Kyc Online Casinos 2025Non Gamstop CasinosNon Gamstop Casinos UKBest Casino Not On GamstopNon Gamstop CasinosUK Non Gamstop Casinos
Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
� �

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Gwybodaeth

Llety

�

Hanes ac Archaeoleg

Yr olwyn ddwr fwyaf sydd ar waith ym Mhrydain, yn Amgueddfa Lechi CymruBu cloddio am lechi yn yr ardal hon ers dros 1800 o flynyddoedd; defnyddiodd y Rhufeiniaid a drigai yn Segontiwm (Caernarfon) lechi o chwareli lleol i godi eu caer. Gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach cododd Edward I o Loegr gyfres o gestyll ar hyd arfordir y Gogledd a defnyddiwyd llechi o ddyffryn Conwy yng nghestyll Conwy, Biwmares a Chaernarfon.

Er bod y Rhufeiniaid yn gwybod am werth llechi ar gyfer toi, yr oedd yn ddiwedd y ddeunawfed ganrif cyn bod galw mawr amdanynt. Yna, pan ddaeth y Chwyldro Diwydiannol, cynyddodd y galw yn chwim. Nid yn unig cludwyd llechi to o Ddinorwig a chwareli eraill y Gogledd ledled Prydain ond cyraeddasant gyfandir Ewrop hefyd a Gogledd America lle cawsant eu defnyddio i ddiwallu'r angen cynyddol am dai a ffatr�oedd yn y dinasoedd diwydiannol.

Datblygodd y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru yn gyflym, ac o ganlyniad i'r ehangu hwn, trawsffurfiwyd Bethesda a Blaenau Ffestiniog yn drefi diwydiannol prysur. Bu twf tebyg yn y porthladdoedd.

Erbyn y 1870au daethai cloddio am lechi yn un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Dinorwig oedd y chwarel fwyaf ond un yn y byd: chwarel gyfagos y Penrhyn oedd yr unig un fwy na hi, chwarel a dynnai o'r un haenau o lechi Cambriaidd. Cyflogai Dinorwig a'r Penrhyn dros dair mil o ddynion.

Mae Penrhyn yn dal i weithio heddiw, oherwydd y cynnydd diweddar yn y galw am lechi, ac yn gwneud elw oherwydd dulliau mwy mecanyddol o weithio. Mae'r dulliau hynny hefyd yn fwy diogel nag yn y dyddiau pan oedd Dinorwig hefyd yn dal i weithio.

Ym 1882 cynhyrchai chwareli sir Gaernarfon dros 280,000 o lechi to gorffenedig. Cymru oedd yn cynhyrchu dros bedair rhan o bump o gyfanswm llechi'r Deyrnas Unedig. Cyrhaeddodd y cynhyrchu uchafbwynt ym 1898 (17,000 o ddynion yn cynhyrchu 485,000 tunnell o lechi). Yr oedd cludiant hefyd yn ddiwydiant pwysig gyda thros 3,500 o ddynion yn llongwyr.

Pan oedd y gwaith yn ei anterth cyflogai chwarel lechi Dinorwig tua 3,000 o ddynion. Yn wir, ar ddechrau'r 1900au yr oedd Dinorwig yn un o chwareli llechi mwyaf a phwysicaf y Gogledd. Yr oedd lein reilffordd fechan arbennig yn cludo'r llechi i Bort Dinorwig ar y Fenai tua 8 cilometr i'r gorllewin o Fangor. Ailagorwyd rhan fechan o'r lein fel 'Rheilffordd Llyn Llanberis'.

Rhai o chwarelwyr cyntaf DinorwigCyn cyfnod cludiant modern, teithiai'r chwarelwyr ar droed o lefydd mor bell i ffwrdd � M�n bob wythnos, gan groesi'r Fenai, neu gerdded i fyny o Gaernarfon ar nos Sul ac aros yng nghabanau'r chwarel hyd amser cinio ddydd Sadwrn a dychwelyd at eu teuluoedd a'u cymunedau am 24 awr yn unig cyn cychwyn yn �l am y gwaith.

Yr oedd amodau gweithio yn y chwarel yn galed iawn. Prin iawn oedd cyfleusterau fel ystafelloedd bwyta, llefydd i ymolchi a chadw dillad yn sych, ac isel iawn oedd cyflogau'r chwarelwyr. Roedd yn rhaid i weithiwr ddilyn prentisiaeth bum-mlynedd i ddod yn chwarelwr go-iawn. Yr oedd yn waith medrus iawn, ond hefyd yn beryglus, yn fudr ac ymhell o fod yn waith iachus.

Roedd yn rhaid i'r chwarelwyr a weithiai ar y graig ddysgu sut i ddefnyddio ffrwydron a sut i drin eu hoffer - morthwylion a chynion trwm - tra'n crogi ar raffau o gwmpas eu coesau a'u cyrff er mwyn cadw eu dwylo'n rhydd i weithio'r llechfaen. C�i'r rhaffau eu diogelu � dwy roden o ddur mewn tyllau ym mhen y ponciau. Gweithiai'r dynion ym mhob tywydd. Hyd yn oed yn yr haf roedd y tywydd yn aml yn anffafriol gan y byddai'r glaw mynych yn gwneud y llechfaen yn llithrig ac yn beryglus dan draed.

Gorchuddiai'r chwarel 324 o hectarau ac yr oedd wedi ei rhannu'n bonciau neu lefelau/orielau a oedd yn 20 i 40 troedfedd o ddyfnder. Yr oedd lled y bonc i fod yn dri chwarter ei dyfnder, ond anaml y glynid wrth y rheol hon. Yr unig gyfleuster meddygol oedd ysbyty'r chwarel a g�i ei gynnal gan chwarelwyr wedi eu hyfforddi gan Ambiwlans Sant Ioan. Gan mai gwirfoddolwyr oeddent, ni chaent unrhyw d�l ychwanegol am y gwasanaeth hwn. Cwymp craig neu raffau brau yn torri fyddai'n achosi damweiniau fel arfer. Byddai'r chwarelwyr yn gyfrifol am eu holl raffau, eu morthwylion a'u cynion eu hunain ac roedd yn rhaid iddynt dalu o'u cyflogau am roi min ar eu hoffer.

Hyd yn oed ar �l gadael wyneb y graig, yn y cwt lle c�i'r llechen ei thrin, ei hollti a'i thorri yn feintiau cyson, yr oedd perygl arall - llwch. Yr oedd y clefyd diwydiannol, gelyn mawr diwydiant arall hefyd - y diwydiant glo - yn rhemp yn Ninorwig oherwydd bod cymaint o lwch yn llechi'r chwarel.

Yr oedd bywyd y chwarelwyr yn ansicr mewn mwy nag un ystyr. Mis o gontract a gaent ar y tro. Am y tair wythnos gyntaf o bob mis, dim ond t�l cynhaliaeth a gaent. Yn y bedwaredd wythnos byddai'r elw a'r bonws yn cael eu cyfrif. Yna c�i costau unrhyw ffrwydron a ddefnyddiwyd gan y dynion a chostau'r offer a'r driliau niwmatig eu tynnu allan; byddai hyd yn oed yr aer a ddefnyddid i yrru'r offer hwn yn cael ei ystyried yn y cyfrif. Nid rhyfedd bod y chwarelwr yn aml yn dychwelyd adref ar ddiwedd yr wythnos heb ddim neu fawr ddim bonws.

Gwybod ymhle i ffrwydro'r graig, a phryd, oedd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng elw a cholled. Roedd rhaid i'r chwarelwyr dyllu a ffrwydro pob darn o graig a allai fod o fudd iddynt. Yr oedd yn holl-bwysig cynhyrchu pob mymryn a allent.

Arddangos hollti llechi yn yr hen weithdaiCyrhaeddodd y diwydiant llechi ei anterth tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yna, ym 1900 daeth streic hir a chwerw a gofnodir yn y llyfrau hanes fel yr anghydfod mwyaf anodd ym mywyd diwydiannol Cymru. Roedd chwarelwyr Dinorwig am i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru eu cynrychioli mewn trafodaethau ynglyn � chyflogau ac amodau gwaith. Ond wedi tair blynedd hir methwyd � sicrhau hyn. Hyd yn oed heddiw, mae disgynyddion y chwarelwyr a oedd yn rhan o'r frwydr yn cofio'r chwerwder a deimlai gweithwyr y cyfnod.

Roedd y streic mewn llawer ffordd yn drobwynt i'r diwydiant llechi. Aethpwyd i chwilio am ddeunyddiau eraill i doi tai ac ni fu cymaint o alw am lechi fyth wedyn. Heddiw, mae marchnad fechan yn dal i fodoli ar gyfer llechi Cymru, ac ym 1983 cafwyd hwb i'r diwydiant trwy gyfrwng grantiau parod i wella tai hyn Prydain. Ar un cyfnod, ni allai'r diwydiant yng Nghymru ddiwallu anghenion marchnad Prydain a dechreuwyd mewnforio o Sbaen. Erbyn diwedd y ganrif yr oedd ansawdd rhagorol y llechi o ran ymddangosiad a pharhad yn eu gwneud unwaith eto yn boblogaidd iawn ar gyfer cartrefi newydd hefyd.

Bu adferiad byr yn y galw yn y 1950au i adfer eiddo a ddifrodwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn anffodus, fodd bynnag, erbyn y 1960 yr oedd y galw ar i lawr eto.

O Ddinorwig y daeth y llwyfan carreg yr eisteddai'r tywysog Charles arno i'w arwisgo yng nghastell Caernarfon, ond y diwrnod wedi'r seremoni cyhoeddwyd cau'r chwarel a thaflwyd 300 o ddynion ar y clwt. Ac felly, ym 1969, daeth cynhyrchu i ben yn y chwarel.


Gwybodaeth >>