|
Llechi
Cymru
Mae Cymru yn enwog
trwy’r byd am ei llechi. Cloddiwyd gwelyau o lechfaen, ar hyd ochrau dyffrynnoedd,
o gwmpas bryniau neu hyd yn oed drwyddynt, ers canrifoedd. Ond beth yw
llechfaen?
Yn ei hanfod, llaid
neu fwd wedi ei wasgu yw llechfaen.
Mae’r
daith gymhleth braidd trwy ddigwyddiadau daearegol sy’n arwain yn y pen
draw at ffurfio llechfaen yn dechrau, rywle yn ôl yn niwloedd daeareg,
â basn-môr hynafol, rhywle tebyg i Fôr Iwerddon heddiw, ag afonydd yn
bwydo tywod, gro a llaid i mewn iddo ar hyd ei arfordir. Po bellaf yr
eir o lan y môr, lleiaf y gronynnau o waddod a gludir allan yno: mae tywod
a gro, oherwydd eu bod yn gymharol drwm, yn tueddu i beidio â theithio
cyn belled ac yn crynhoi yn nes at yr arfordir.
Ac felly, allan ar
wely’r môr dwfn, bydd haenau o laid yn crynhoi yn araf. Dyna beth ddigwyddodd
ar wahanol adegau yng Nghymru’r cyfnod Palaeosoig Isaf, 550-410 miliwn
o flynyddoedd yn ôl: yn y cyfamser bu cyfnodau o weithgarwch folcanig,
neu gyfnodau o foroedd mwy bas gyda chreigiau mwy tywodlyd yn cael eu
dyddodi. Ond y mwd neu’r llaid sydd o ddiddordeb i ni yma.
Mae mwd yn cynnwys
llawer iawn o’r hyn a elwir yn fwynau clai. Mae’r rhain yn cynnwys gronynnau
mân dros ben, fel bod pob crisial yn anweledig i’r llygad noeth. Mae mwynau
clai yn perthyn i’r teulu o fwynau a elwir yn llen-silicadau. Ymhlith
y llen-silicadau eraill sydd i’w cael mae mwynau cyffredin fel mica. Weithiau
mae mica i’w gael yn grisialau mawr y gellir eu plicio ymaith yn ddalennau
tenau niferus.
Mae mica’n hollti’n
rhwydd oherwydd adeiladwaith cemegol mewnol y mwyn. Mae’r atomau o alwminiwm,
potasiwm, silicon, ocsygen a hydrogen sydd gyda’i gilydd yn creu mica
wedi eu trefnu yn haenau. Dyna’r rheswm am y term llen-silicadau.
Dywedir am fwynau,
fel mica a mwynau clai, y gellir eu hollti mewn un neu ragor o gyfeiriadau
dewisol, fod iddynt holltedd.
Pan fydd llaid neu
fwd yn suddo i wely’r môr, nid yw’r mwynau clai i gyd yn gorwedd yn wastad.
Maent yn wynebu pob cyfeiriad, fel hyn:
Wrth gwrs, nid yw’n
bosibl hollti mwd yn ddalennau tenau i’w rhoi ar eich to.
Mae hen fwd, a arferai
orwedd ar wely’r môr yn y cyfnod Palaeosoig Isaf gannoedd o flynyddoedd
yn ôl, bellach yn ffurfio ochrau bryniau yn y Gogledd lle ceir y chwareli
llechi. Felly beth ddigwyddodd i’w droi yn llechfaen? Mae yna gliw yma.
Ar wely’r môr yr arferai fod, ac erbyn hyn mae hanner y ffordd i fyny
mynydd. Rhaid bod rhywbeth go fawr wedi digwydd iddo! Tua 400 miliwn o
flynyddoedd yn ôl, creodd symudiadau mawr yn y ddaear, yn cynnwys cyfandiroedd
cyfain yn gwrthdaro, wasgedd aruthrol a orfododd hen wely’r môr i fyny,
fel pwti mewn feis. Cafodd y llaid, a oedd eisoes wedi ei droi yn garreg
laid, ei droi yn llechfaen. Ond sut?
Gwelsom fod y mwynau
clai y mae llaid yn llawn ohonynt yn holltadwy, fel mica, yn ddalennau
tenau, a gwelsom sut y mae’r gronynnau mwyn mewn llaid arferol yn wynebu
i bob cyfeiriad.
Yn ystod y symudiadau
daear enfawr a gododd wely’r môr i greu mynyddoedd Cymru, daeth y creigiau
dan wasgeddau cyfeiriadol aruthrol mewn amgylchedd poeth iawn yn nyfnderoedd
y ddaear. Mae gwasgeddau o’r fath yn ddigon i orfodi gronynnau mwynau
i ailgrisialu yng nghyfeiriad y gwasgedd isaf. Neu, yn syml, os yw’r creigiau’n
cael eu gwasgu mewn feis ddychmygol enfawr, bydd y mwynau’n ailgrisialu
mewn aliniad cyfochrog â safnau’r feis - ac ar ongl sgwâr i’r grym y mae
safnau’r feis yn ei roi. Yn symlach fyth, mae’n debyg braidd i wasgu rhywbeth
yn fflat trwy sefyll arno!
Ac felly mae’r mwynau
clai a ailgrisialodd bellach i gyd wedi eu halinio yn yr un cyfeiriad
ac mae gan y graig a grëwyd bellach holltedd, fel y mica. Bydd hithau
hefyd yn hollti yn ddalennau tenau i fynd ar eich to! Erbyn hyn mae’r
mwd a oedd ar un adeg yn gorwedd ar wely’r môr filiynau o flynyddoedd
yn ôl yn wythïen o lechfaen Gymreig hardd ar draws ochrau mynyddoedd Eryri.

Metamorffedd yw’r
enw ar broses fel hon, lle ceir un math o graig i ddechrau, ac un arall
yn y diwedd. Bydd daearegwyr yn cyfeirio at sawl math o fetamorffedd,
ac yn fras cyfeirir at y math sy’n cynhyrchu llechfaen fel math isel ei
radd. Ond o fewn y dosbarth hwn mae amryfal is-raddau, o ailgrisialu syml
ar un neu ddau o fwynau i newidiadau arwyddocaol lle mae llawer o len-silicadau
newydd wedi eu ffurfio o’r elfennau cemegol oedd yn ffurfio’r hen rai
yn y llaid. Po uchaf yw gradd ffurfiant y llechfaen, gorau oll yw ansawdd
y llechen o ran ei haddasrwydd ar gyfer toi. A llechi Bethesda a Llanberis
a’u gwawr borffor hynod, a ffurfiwyd o gerrig llaid y cyfnod Cambriaidd,
yw’r uchaf eu gradd yng Nghymru ac fe’u defnyddid yn bennaf i doi. Mae
llechi ardal Blaenau Ffestiniog yn rhai uchel-radd hefyd ond ychydig yn
iau; perthynant i Ffurfiant Ordofigaidd Canol Nant Ffrancon. Yna ceir
y llechi is eu gradd yn ardal Corris-Machynlleth. Daw’r rhain o’r cyfnod
Ordofigaidd Uchaf-Silwraidd Isaf . Nid ydynt cystal ar gyfer toeau, ond
maent yn rhagorol ar gyfer slabiau mawr, ac yn ddelfrydol i wneud byrddau
snwcer, silffoedd pen tân, linteli ffenestri ac at lu o ddibenion eraill.
Dim ond creigiau a
oedd yn wreiddiol yn cynnwys llawer o fwynau clai fydd yn datblygu holltedd
da. I wneud llechen, dechreuwch â llaid, nid tywod. Mae hyn yn egluro
pam y mae’r llechfaen yn y Gogledd yn gorwedd mewn gwelyau - weithiau
â thywodfeini heb eu hollti rhyngddynt.
Mae cloddfeydd a chwareli
llechi yn gyffredin ar hyd a lled mynyddoedd y Gogledd. Roedd diwydiant
llechi Cymru yn rhan bwysig iawn o economi Cymru ar un adeg. Mae llai
o chwareli yn gweithio heddiw ond mae’r traddodiad yn parhau mewn sawl
man o Aberllefenni ger Corris i’r Penrhyn ger Bethesda. Beth am ymweld
ag Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, i ddarganfod mwy am y diwydiant
hwn, a fu’n gyfrifol am greu trefi cyfan lle nad oedd gynt ond ychydig
o dyddynnod diarffordd? Neu beth am fynd dan y ddaear mewn cloddfa lechi
- gallwch wneud hynny yng ngheudyllau enwog Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog,
ac yn hen dwneli ac ogofâu chwarel Braich-Goch yng Nghorris, sef Labyrinth
y Brenin Arthur chwedlonol erbyn hyn.
<<
Cysylltiadau
|