|
Arian
- Plwm - Sinc
Yn y gorffennol bu
cloddio arian yn rhan bwysig o economi Cymru, yn arbennig yn y 1600au,
pan oedd y bathdy yn Aberystwyth yn cynhyrchu darnau arian o fwyn lleol.
Cynhyrchwyd sawl miliwn owns o arian yng Nghymru dros y pedwar can mlynedd
diwethaf. Ond mae arian yn digwydd mewn ffordd wahanol iawn i aur.
Yn
wahanol i aur, nid yw arian i’w gael yng Nghymru fel metel crai ac eithrio
mewn meintiau o ddiddordeb academaidd, er i lawer iawn o arian crai gael
ei gloddio mewn mannau eraill yn y byd. Yng Nghymru, mae arian i’w gael
yn gysylltiedig â mwynau plwm, ac fe’i cynhyrchwyd fel sgil-gynnyrch cloddio
am blwm, yn y cam mwyndoddi. Felly pan feddyliwch fod y mwynau plwm nodweddiadol
o Gymru yn cynnwys 5-10 owns o arian ym mhob tunnell, a phan feddyliwch
wedyn sawl tunnell o fwynau plwm a gloddiwyd - bron hanner miliwn yng
Nghanolbarth Cymru yn unig - cewch syniad o faint o arian sydd wedi ei
gynhyrchu! Oherwydd y cysylltiad hwn, a’r ffaith fod mwynau sinc yn gysylltiedig
â mwynau plwm, gellir trin y tri metel fel un pwnc. Mae nifer o ardaloedd
yng Nghymru lle bu cloddio am arian-plwm-sinc. Mae mwyngloddiau yn ardal
Caerffili-Llantrisant yn Ne Cymru. Ymhellach i’r gogledd mae prif faes
mwyn Canolbarth Cymru; Llywernog yw’r unig fwynglawdd arian sy’n agored
i ymwelwyr yng Nghymru gyfan. I’r gogledd ac i’r dwyrain mae mwyngloddiau
Llangynog ac i’r gorllewin o Langynog rydym yn ôl yn llain aur Dolgellau
a gynhyrchodd beth mwynau arian-plwm-sinc. Ymhellach i’r gogledd eto mae
maes mwyn pwysig Llanrwst ac i’r dwyrain o hwn yng Nghlwyd roedd maes
mwyn Helygain-Mwynglawdd yn gynhyrchwr o bwys. Yna ceir ardaloedd unigol
ond diddorol fel mwyngloddiau Llanengan ar Benrhyn Llyn a mwyngloddiau
Llanfyrnach a Llaneilfyw yn sir Benfro.
Mae un peth yn gyffredin
i’r holl feysydd mwyn hyn: roeddent yn cynhyrchu metelau o wythiennau
o fwynau. Ond mae gwahanol fathau o wythiennau a digwyddant mewn creigiau
o wahanol oed. Mae’r ffordd y digwydd yr arian yn wahanol hefyd o ardal
i ardal ac o’r naill fath o wythïen i’r llall. Gall arian ddigwydd mewn
dwy ffordd mewn galena, y sylffid plwm: naill ai mewn “toddiant”, fel
un o gyfansoddion cemegol y galena, neu fel gronynnau o fwynau sy’n cynnwys
arian o fewn y galena. Yn Helygain-Mwynglawdd, Llanrwst a De Cymru, digwydd
yn y ffordd gyntaf o’r rhain. Ond mewn ardaloedd eraill, rhannau o Ganolbarth
Cymru, er enghraifft, yr ail ffordd sy’n bwysig. Yn y Canolbarth, ceir
cysylltiad pwysig ac un sy’n digwydd yn aml yn fydeang, sef mwyn a elwir
yn detrahedrit yn y galena. Mae tetrahedrit yn fwyn a geir ledled y byd;
sylffid o gopr ac antimoni yw, ond gall gynnwys amrywiaeth mawr o fetelau
eraill - ac arian yn eu plith. Yn y Canolbarth mae tetrahedrit yn cynnwys
hyd at 20% o arian, ac felly mae’n hawdd gweld pam roedd rhai o’r mwynau
metel mor gyfoethog yma, o gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru.
Dim ond o ganol y
19g. ymlaen y daeth mwyngloddio sinc yn bwysig, a hynny wedi i dechnoleg
ddatblygu digon i fwyndoddi’r mwyn sinc styfnig, sffalerit, yn effeithlon,
a phan oedd defnyddio’r metel sinc yn ehangu. Wedi hynny, dechreuwyd ailweithio
hen gloddfeydd tanddaearol, lle roedd sffalerit wedi ei adael yn ei le,
a thomenni rwbel, lle roedd wedi ei daflu ymaith. O hynny ymlaen hyd y
1920au, pan ddechreuodd y diwydiant ddirwyn i ben, bu’r mwyngloddiau’n
cynhyrchu’r tri metel.
Mae’r gwythiennau
y ceir y tri metel ynddynt, ynghyd â chopr weithiau, yn ffawtiau ac ysigiadau
mwneiddiedig sy’n torri trwy’r creigiau y maent i’w cael ynddynt. Gall
ffawtiau gyrraedd cronfeydd o hylif yn ddwfn yng nghramen y Ddaear: fel
y bydd hylifoedd o’r fath yn codi i fyny’r ffawtiau maent yn y diwedd
yn mynd yn ansefydlog ac yn colli’r gallu i gario metelau a sylweddau
eraill sydd wedi toddi ynddynt. Yna bydd yr elfennau toddedig yn gwaddodi
yn grisialau fel mwynau.
Mae gwythiennau’r
Canolbarth, ynghyd â’r rhai a geir yn Llanrwst, Llangynog, sir Benfro
a Llyn, wedi eu cynnwys o fewn creigiau gwaddod (folcanig weithiau) y
cyfnod Palaeosoig Isaf (Ordofigaidd a Silwraidd yn bennaf), a blygwyd
yn ystod yr Orogenesis Caledonaidd. Credir i’r gwythiennau ymffurfio ar
ôl y plygu, mewn cyfnod maith o amser o’r Defonaidd trwy’r Carbonifferaidd
i’r Permaidd.
Creigiau calchfaen
yn bennaf, o’r cyfnod Carbonifferaidd i’r Jwrasig, sy’n cynnwys gwythiennau
Helygain-Mwynglawdd a De Cymru. Yn Aberogwr, ar arfordir y De, mae’r dystiolaeth
i hylifau mwneiddio gyrraedd yr wyneb yn y cyfnod Jwrasig Isaf yn dra
amlwg ar ran o’r arfordir sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
<<
Cysylltiadau
|