Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Parc Treftadaeth
y Rhondda

Cyflwyniad

Hanes ac Archaeoleg

Gwybodaeth

Llety

 

Gwybodaeth

MapO'r M4: ewch ar hyd yr A470 i'r gogledd o gyffordd 32, ac yna ar hyd yr A458 trwy Bontypridd. Dilynwch yr arwyddion brown.

O'r A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd): ewch ar hyd yr A470 (o'r gorllewin) neu'r A4060 ac yna'r A470 (o'r dwyrain), ac yna'r A458 trwy Bontypridd. Dilynwch yr arwyddion brown.

Mae gwasanaeth Trên Gwibio yn mynd bob hanner awr o orsaf Canol Caerdydd ('Caerdydd Canolog') i Drehafod (cartref Parc Treftadaeth y Rhondda) ac mae'r daith yn cymryd 29 munud.

Mae gwasanaeth Stagecoach Rhondda 132 yn gadael Gorsaf Fysiau Caerdydd, arosfan A2, am ugain munud i a deng munud wedi'r awr, o 8.40 am hyd 5.40 pm (Llun-Sad) ac mae'r daith yn cymryd ychydig dan awr.

Mae'r Parc ar y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol, 4km/2.5 milltir o ganol tref Pontypridd gan ddefnyddio'r rhan sy'n mynd o Bontypridd i'r Porth. (Ceir rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith o 0800 243 731.)

Ar agor bob dydd ac eithrio dydd Nadolig hyd ddydd Calan a bob dydd Llun o fis Hydref hyd y Pasg. 10.00 am hyd 6.00 pm (taith olaf am 4.30 pm). Mae'r Cylch Egni ar agor bob dydd o'r Pasg hyd ddiwedd Medi. Goruchwylir y chwarae gydol pob gwyliau ysgol ac ar benwythnosau.

Tocynnau 2001
Oedolion £5.75, plant £4.45 (dan bump am ddim), pensiynwyr £5.10,
Tocynnau Teulu (2o a 2b) £16.95.

Y Cylch Egni: Oedolion a Phensiynwyr am ddim, Plant £2.05, Glowyr Bach £1.55.

Gostyngiadau i bartïon o 10 neu ragor (10%).
Gostyngiadau i bobl sydd â phasport Cymru dan y Ddaear.

Mynediad llawn i'r anabl i bob rhan - hyd yn oed dan y ddaear.

Gwasanaeth addysgol wedi ei gysylltu â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, â chymorth pecynnau Athrawon (ar gael am ddim o wneud cais), sesiynau trafod arteffactau a gweithdai orielau celf.
Ysgolion £3.15, Colegau/ Grwpiau Ieuenctid £4.05.

Mae'r Cylch Egni ar gael ar gyfer ymweliadau addysgol a drefnir ymlaen llaw gydol y flwyddyn. Mynediad am ddim i un oedolyn sy'n goruchwylio i bob 10 myfyriwr/disgybl.

Rhaglen o weithgareddau
Bwyty
Cyfleusterau Cynhadledd
Croeso corfforaethol neu ar gyfer cynadleddau
Partïon plant yn y Cylch Egni.
Siopau - llyfrau a chofroddion
Derbynnir Visa a Mastercard

Parc Treftadaeth y Rhondda
Glofa Lewis Merthyr
Heol Coed Cae
Trehafod
Rhondda Cynon Taf
CF37 7NP

Tel: 01443 682036
Ffacs: 01443 687420
Rhyngrwyd: http://www.netwales.co.uk/rhondda-heritage


Llety >>