![]() |
|
|||
|
Pwll Mawr
|
Hanes ac Archaeoleg Ar ymyl ddwyreiniol Maes Glo De Cymru y saif y Pwll Mawr, lle mae glo yn brigo i’r wyneb ar ochrau’r bryniau. Cafwyd hyd i fwyn haearn a charreg galch yma hefyd ac felly naturiol oedd sefydlu gwaith haearn ym Mlaenafon. Ym 1789 y gwnaed hynny ac mae’r olion bellach ar agor i ymwelwyr a rhoddwyd statws Safle Treftadaeth Byd i Flaenafon. Saif y Pwll Mawr ar safle pwll cynharach, Pwll Kearsley, y suddwyd siafft o 39 metr iddo ym 1860. Daeth y Pwll Mawr i fodolaeth pan ddyfnhawyd y siafft i 89 metr. Cafodd ei enw oherwydd maint ei siafft eliptig. Roedd yn 5.5m wrth 4.6m a dyma’r gyntaf yn yr ardal a oedd yn ddigon llydan i weindio dwy ddram o lo ochr yn ochr. Cyn hir roedd y lofa yn cynhyrchu mwy na 100,000 tunnell o lo o ardal o ryw 12 milltir sgwâr. Wrth i’r gwaith ymestyn allan o’r siafft, ymgorfforodd y pwll weithfeydd eraill fel Llethr y Pwll a Lefel yr Efail, sef yr ‘ail ffordd ma’s’ o’r pwll erbyn hyn. Gweithiwyd naw haen wahanol o lo ar ryw adeg neu’i gilydd yn ystod oes y Pwll Mawr ac roedd y glo a gynhyrchai yn ‘lo ager’ o’r radd flaenaf, glo y daeth De Cymru yn enwog amdano ledled y byd. Wrth i amser fynd rhagddo darfu haenau neu daethant yn amhroffidiol ac fe’u caewyd. Yr haen olaf, y Garw, oedd yr haen olaf i’w gweithio yn y Pwll Mawr. Roedd yn lo golosg rhagorol, ond 71cm oedd ei drwch mwyaf ac roedd yn galed iawn ac felly’n anodd ei drin.
Hyd 1939 teithiai’r glowyr yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yn eu dillad gwaith, ond y flwyddyn honno agorwyd y baddonau pen-pwll. Wedi hynny roedd gan y glowyr ddau locer - un ar gyfer dillad glân ac un ar gyfer dillad gwaith, gyda’r cawodydd yn y canol. Bellach mae arddangosfa a chaffi trwyddedig yn yr hen faddonau. Cyrhaeddodd cynhyrchu glo uchafbwynt yn ne Cymru ym 1913 a phan oedd brysuraf cyflogai’r Pwll Mawr 1,300 o ddynion. Yna daeth dirywiad araf gyda’r cyfnod gwaethaf yn ystod dirwasgiad yr ugeiniau a’r tridegau pan oedd diweithdra yn 57% ym Mlaenafon. Bu cynnydd mewn gwaith eto gyda dechrau’r Ail Ryfel Byd wrth i lo ddod yn hanfodol, ond pan ddaeth heddwch bu gostyngiad eto mewn galw ac erbyn 1966 y Pwll Mawr oedd yr unig bwll dwfn ar ôl yn ardal Blaenafon. Ym 1980, pan gaeodd y pwll, dim ond 250 oedd yn gweithio yno. Yna, yn Ebrill 1983 ailagorodd y Pwll Mawr yn ganolfan i ymwelwyr. |
|||
|