![]() |
|
|||
|
Pwll Mawr
|
Daeareg - Cloddio am Lo Y Meysydd Glo Maes glo’r De yw’r mwyaf o’r ddau. Mae’n fasn hir o greigiau Carbonifferaidd sy’n brigo i’r wyneb bron yr holl ffordd o gwmpas ei ymyl. Bu llawer o blygu a ffawtio ar y basn er pan ddyddodwyd y gwaddodion ac effaith hyn fu dod â llawer o’r haenau glo pwysig yn agosach i’r wyneb. Fel arall byddent wedi bod yn ddrud iawn i’w cyrraedd a’u cloddio. Roedd y ffaith bod yr haenau glo yn dod i’r brig ar hyd ymylon y Maes Glo ac ar hyd ochrau’r cymoedd yn golygu y gallai’r glowyr cynnar dorri twneli yn syth i mewn i ochrau’r bryniau. Wrth gwrs, cyn y gellir tynnu glo allan o’r haen solet o lo, rhaid bod rhyw ffordd o rwystro’r to diateg rhag cwympo ac anafu, neu hyd yn oed ladd, y glowyr. Ac felly, yn y gweithfeydd hyn, a elwid yn lefelydd neu’n slentydd, câi’r glo ei dorri yn yr hen ddull ‘hedin a ffas’ (heading and stall) - byddai’r glo yn cael ei dynnu o ardaloedd bychain wrth ochr y prif dwnnel, neu ffordd, gydag ategion pren i helpu i gadw’r to rhag cwympo. Yr hen ddull Cymreig o weithio glo oedd y dull piler a ffas a elwid yn yr 17eg ganrif yn ddull postyn a ffas. Roedd y ffas neu’r man gweithio yn cynnwys lled yr hewl a darn byr o wyneb y glo ar y naill ochr i’r hewl, neu ar y ddwy ochr iddi. Byddai cerrig uwchben yr hewl yn cael eu tynnu a’u pacio i’r ochrau i gael mwy o le a chynhaliaeth ond yn y ffas dim ond y glo gâi ei dynnu. Yma, y dull gwreiddiol oedd i’r glöwr dynnu lletem o lo o waelod yr haen, i ddyfnder o dair neu bedair troedfedd ar hyd ei ffas - efallai hyd at 13 metr. Byddai propiau byr yn dal y glo i fyny wrth i’r glöwr dorri ar hyd yr haen. Yna byddai’n eu bwrw allan a byddai’r glo yn cwympo. Â llaw y torrid y glo - weithiau â chymorth picas niwmatig neu hyd yn oed ffrwydron dan reolaeth. Câi’r glo ei lwytho ar ddramiau a’i wthio allan ar reiliau haearn hyd nes y gellid ei halio allan â cheffyl neu raff bwer. I gael y glo o ddyfnderoedd y ddaear roedd rhaid torri siafftiau, weithiau i lawr hyd at 780 metr o ddyfnder, ac adeiladu heolydd o waelod y siafft i mewn i’r glo mwyaf proffidiol. Codwyd adeiladau i gynnwys yr injenni weindio a godai ac a ollyngai’r dynion a’r wagenni o lo mewn caetsys i lawr i’r pyllau, a safai’r fframiau a’u pâr nodweddiadol o olwynion weindio ar ben y siafftiau. Câi toeau’r heolydd a dorrid i mewn i’r glo eu cynnal â phren ac yn ddiweddarach ag ategion o haearn a dur. Pan ddaeth peiriannau torri glo yn ail hanner y 19eg ganrif dechreuwyd gwneud defnydd helaeth o’r system hirwal (longwall) lle câi ffasys o 200 metr neu ragor eu torri gyda heolydd i’w gwasanaethu yn aml ar y naill ochr a’r llall. I ddechrau roedd rhaid tynnu’r glo a dorrid allan â llaw ond yna daeth cludwyr mecanyddol i gario’r glo o’r ffas i ddramiau yn yr heolydd. Daeth datblygiad cludwyr arfog hyblyg â chynnydd chwim yn y mecaneiddio. Bellach roedd y peiriant torri yn teithio’n ddi-baid hyd y ffas, gan dorri a llwytho glo ar y cludydd ac wrth iddo fynd heibio câi’r cludydd ei wthio yn erbyn y talcen neu’r ffas oedd newydd ei thorri gan hyrddwyr hydrolig. Yn y dull hirwal, dim ond am ychydig fetrau y câi y to ei gynnal y tu ôl i’r ffas a symudai ymlaen, a gadewid i’r to diateg ymhellach yn ôl gwympo. Hyd ddechrau’r 1950au pan ddaeth y propiau hydrolig cyntaf, propiau pren oedd yn cael eu defnyddio. Buan y datblygodd y dechneg nes y daeth setiau o ddau a hyd yn oed bedwar o bropiau hydrolig â hyrddwyr yn eu gwaelod wedi eu cysylltu â’r cludwyr arfog mewn system gynnal drydanol i symud ymlaen yn awtomatig gan chwyldroi cloddio am lo. Ym 1855 tua 8.5 miliwn o dunelli o lo a gynhyrchai Maes Glo De Cymru, ond erbyn 1913 cyrhaeddwyd uchafbwynt o tua 57 miliwn o dunelli, neu bumed ran o holl gynnyrch glo y Deyrnas Unedig. Bryd hynny roedd yna 620 o byllau glo yn cyflogi 232,000 o ddynion. Yn ystod y cyfnod hwn o ehangu digymar, roedd angen mwy a mwy o weithwyr ar y diwydiant a heidiodd pobl i’r ardal o ganlyniad. Gadawodd y rhan fwyaf eu ffyrdd gwledig o fyw a mudo yn hytrach i’r cymoedd poblog, ffyniannus i bob golwg. Gwnaeth yr ychydig eu ffortiwn, ond i’r rhan fwyaf o’r teuluoedd glofaol roedd bywyd yn galed iawn, y tai yn gyntefig ac yn anodd eu cael. Roedd teuluoedd fel arfer yn fawr a chymryd pobl i letya yn gyffredin. Daeth yr ehangu i ben yn y diwedd ac yna disgynnodd y cynnyrch yn raddol i 45 miliwn ym 1930, 35 miliwn ym 1939 a 20 miliwn ym 1945. Cynyddodd i 24-25 miliwn hyd 1957 pan ddisgynnodd eto. Erbyn 1975 roedd y cynnyrch oddeutu 8.5 miliwn eto gyda 42 o byllau yn cyflogi 30,800 o ddynion. Erbyn hyn, dim ond un pwll dwfn sy’n dal i weithio, sef Glofa’r Twr yn Hirwaun, sy’n cynhyrchu tua ?? tunnell o lo y flwyddyn. Mae bron pob arwydd o’r diwydiant hwn a fu unwaith mor llewyrchus bellach wedi diflannu. Dymchwelyd adeiladau’r pyllau, gorchuddiwyd y siafftiau a thirluniwyd y tipiau neu hyd yn oed eu symud yn gyfan gwbl. O’r ychydig sydd ar ôl, y Pwll Mawr a phwll Lewis Merthyr ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yw’r gorau, ac mae’r ddau ar agor i’r cyhoedd. |
|||
|