![]() |
|
|||
� | � | |||
Mwynglawdd � |
Hanes ac Archaeoleg Er pan ddechreuwyd datgloddio ym 1987, symudwyd dros 100,000 tunnell fetrig o wastraff a oedd yn ganlyniad i fwyngloddio yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Datgelodd hyn fynedfeydd i fwyngloddiau helaethaf ein hen fyd. Syrf�wyd pedair milltir o dwneli sy'n dyddio'n �l i'r cyfnod rhwng 1860 CC a 600 CC. Mae rhai yn ddigon mawr i gerdded trwyddynt ac eraill mor fach fel mai plant fyddai wedi eu cloddio. Cloddiwyd ogof fawr, tua 13 metr o uchder, 23 metr o led a 15 metr o ddyfnder dros 3,500 o flynyddoedd yn �l.
Ar yr wyneb c�i'r mwyn copr ei falu a'i olchi cyn ei fwyndoddi mewn odyn glai ar dymheredd o 1,100 gradd canradd. Ceid y tymheredd hwn trwy bwmpio aer trwy siercol a losgai � megin o ledr. Amcangyfrifwyd i hyd at 1,769 tunnell fetrig o fetel copr gael ei dynnu o fwynglawdd y Gogarth yn ystod yr Oes Efydd. Defnyddiwyd peth o'r copr hwn at ddibenion addurniadol ond ar ei ben ei hun mae'n rhy feddal ar gyfer offer ac arfau. O gymysgu copr � degfed ran o dun, ceir efydd - metel caletach y gellir ei arllwys i fowld a'i galedu trwy ei forthwylio � charreg. Bwyeill, mae'n debyg, oedd y gwrthrychau mwyaf cyffredin a wnaed o efydd a byddai'r holl fetel a dynnwyd o'r mwynglawdd wedi caniat�u cynhyrchu dros 10 miliwn ohonynt. Mae'n ddigon posibl bod y Gogarth yn cynhyrchu cymaint o gopr fel bod modd hyd yn oed ei allforio o Brydain. Efallai mai'r agwedd fwyaf rhyfeddol ar y cynhyrchu efydd hwn oedd bod y tun, mae'n rhaid, wedi dod o Gernyw. Cylchdaith o dros 500 milltir felly. Yn ddiddorol iawn, nid oes tystiolaeth o weithgarwch o'r Oes Haearn nac o gyfnod y Rhufeiniaid yn y mwynglawdd. Ond bu mwyngloddio rhwng OC 1692 a 1881 pan ollyngwyd miloedd o dunelli o rwbel dros wyneb y safle gan orchuddio'r hen fynedfeydd. Suddwyd siafftiau a defnyddiwyd injenni ager i bwmpio dwr o'r dyfnderoedd. Y 1830au i'r 1850au oedd oes aur y mwyngloddiau: bryd hynny roedd 300-400 o ddynion lleol yn cael eu cyflogi yno'n rhan-amser. Gwnaed y gwaith o gloddio yn fwy effeithlon gan ddriliau haearn a phowdr gwn, a dechreuwyd defnyddio injenni ager bychain yn y 1830au gan wneud y gwaith halio yn llawer haws. Ond ni fu dull o godi a gollwng y mwynwyr i lawr i'r gwaith yn yr un cyfnod - roedd rhaid iddynt ddringo'r 120-160 metr ar ddechrau a diwedd eu sifftiau. Cynhyrchwyd felly werth �250,000 o fwyn mewn 15 mlynedd. Ym 1848, fodd bynnag, dilewyd y doll ar fewnforio copr a chan fod cloddio ar raddfa helaeth yn dechrau yn Awstralia, Gogledd America a Chile, buan y dechreuodd mwyngloddiau Prydain golli arian. Pan ddaeth y cloddio i ben, gorchuddiwyd y siafftiau � phren a rwbel, gan eu selio i bob pwrpas am dros gan mlynedd. Yr oedd yn 1976 cyn i archaeolegydd amatur ddarganfod dwy lefel hynafol a chyn i dechneg dyddio radiocarbon ar siercol a gafwyd ynddynt awgrymu dyddiad rhwng 1300 a 1030 CC a ddangosai i'r mwyngloddiau fod ar waith yn ystod yr Oes Efydd. Ni wnaed fawr mwy na hyn hyd 1987 pan fu'r Cyngor lleol yn ystyried troi'r ardal yn faes parcio. Yn ystod y gwaith syrfeio agorwyd tair siafft fawr a darganfod rhwydwaith cymhleth o weithfeydd cynnar. Dyna pryd y deallwyd pa mor bwysig oedd y safle. Ym 1990 ffurfiodd Tony Hammond gwmni'r Great Orme Mines Cyf i gloddio ac agor y safle i'r cyhoedd. Caniatawyd yr ymwelwyr cyntaf ym 1991 er bod y gwaith cloddio yn parhau hyd heddiw. |
|||
|