|
Ogofâu Arddangos Cenedlaethol - Dan yr Ogof





|
Cyflwyniad
Mae
Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru yng nghanol harddwch digymar
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yno ceir golwg ryfeddol ar ffenomena
naturiol ffurfiant ogofâu. Mae ogofâu Dan yr Ogof wedi eu gwneud o galchfaen
carbonifferaidd, a ffurfiwyd tua 315 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Gan fod
craciau ac agennau yn y graig, bu modd i ddwr lifo trwyddi, gan doddi’r
calchfaen a chreu’r ogofâu a welwn ni heddiw.
Mae tair ogof i’w
harchwilio: Ogof Arddangos Dan yr Ogof; Ogof yr Eglwys Gadeiriol ac Ogof
yr Esgyrn. Mae’r tair yn dangos enghreifftiau nodedig o ffurfiant ogofâu.
Yn ogof Dan yr Ogof, stalagtitau a stalagmitau yw’r ffurfiau mwyaf cyffredin,
ond mae nodwedd brin hefyd, sef helegtitau, sy’n tyfu i’r ochr, yn wahanol
i’r stalagtitau a’r stalagmitau, y mae’r naill yn tyfu i lawr a’r lleill
i fyny. Mae enghreifftiau da yn yr ogof hon o garreg ddylif ac o lenni.
Gwelir
ffurfiant anarferol yn Ogof yr Esgyrn, lle mae’r stalagtitau ar ffurf
cnapau enfawr, wedi eu gorchuddio â gwaddod gwyn. Rhoddwyd yr enw ‘Lloerlaeth’
i’r deunydd hwn gan mor ryfedd yw - mae’n debyg i iogwrt trwchus! Ffurf
arall ar galchit yw mewn gwirionedd, lle mae llawer o ddwr, ac weithiau
o laid, wedi ei gau am y crisialau.
Yng Nghanolfan Ogofâu
Arddangos Cymru hefyd mae Parc y Dinosoriaid lle mae 50 model o ddinosoriaid
maint-llawn, fferm ddilys o Oes yr Haearn, Canolfan Ceffylau Gwedd, Cylch
Cerrig y Mileniwm, ac Amgueddfa.
|