![]() |
|
|||
|
Ogofâu Arddangos Cenedlaethol - Dan yr Ogof
|
Hanes ac Archaeoleg Yr oedd yn 1912 pan archwiliodd y brodyr Morgan yr ogofâu gyntaf, a’u disgynyddion nhw sy’n rhedeg Canolfan Ogofâu Arddangos Cymru heddiw. Aeth y ddau frawd, Ashwell a Jeff, i mewn i Ogof Arddangos Dan yr Ogof trwy lwybr bychan. Mae cip i’w weld ar y llwybr y tu mewn i’r twnnel byr cloddedig sydd bellach yn cysylltu pen y twneli sych â’r byd y tu allan. Cwrwgl oedd yn cario’r brodyr i mewn i’r ogofâu, ar draws y llyn bychan a elwir heddiw yn Bwll y Cwrwgl. Canhwyllau a lampau olew oedd yn goleuo eu taith a buont yn torri saethau yn y tywod neu’r llaid er mwyn cofnodi eu taith trwy’r ogofâu. Pan gyrhaeddodd y brodyr Siambr y Bont o’r diwedd gwelsant fod yna dri llyn i’w croesi mewn gwirionedd, nid un. Am 25 mlynedd ni wnaed dim rhagor. Ar ôl rhagor o archwilio yn y 1930au a’r 1960au darganfuwyd dros 10 milltir o dwneli. Dim ond ogofawyr profiadol sy’n gallu mynd trwyddynt, a’r farn yw bod llawer rhagor i’w ddarganfod.
Mae Ogof yr Esgyrn yn dangos gwahanol olygfeydd o ‘fywyd ogof’. Ond golygfa o’r archaeolegwyr yn gweithio yn yr ogof yw’r gyntaf, yn dadorchuddio tystiolaeth o fywyd blaenorol yr ogof. Fe’u dangosir yn defnyddio offer syrfeio, cyfarpar lluniadu a ffotograffig, rhidyllau a gridiau. Dangosir hefyd yn Ogof yr Esgyrn ddwy olygfa o seremoni gladdu ac un o deulu o’r Oes Efydd yn dilyn eu gwaith bob dydd. Ond nid bodau dynol oedd yr unig rai i ddefnyddio’r ogofâu. Yn Ogof yr Esgyrn ceir enghreifftiau o bedwar anifail a fu’n defnyddio’r ogofâu fel ffau yn ystod Oes yr Iâ, sef Arth Ogof, Teigr Ysgithrog, yr Udfil a’r Blaidd.
Ymhellach i mewn yn yr ogof, yn y pyllau bach, dangosir rhai o’r anifeiliaid a fyddai’n byw mewn ogofâu. Yma, gallwch weld modelau, ddwywaith eu gwir faint, o dri o’r anifeiliaid mwyaf a geid mewn ogofâu yn Ewrop. Protews yw’r cyntaf - salamandr a geir yn naturiol mewn ogofâu yn Nwyrain Ewrop yn unig. Mae’r ail yn Salamandr o Dde Ewrop, ac yn perthyn o bell i’r Protews. Mewn rhai ogofâu ym Mhrydain, fel y dangosir yn y drydedd enghraifft, mae’n bosibl cael hyd i bysgod sydd bron yn gwbl wyn. Brithyll yw’r rhain fel arfer, sydd wedi colli eu pigment trwy fyw mewn ogofâu. Os bydd y pysgod yn dychwelyd i fyw y tu allan i’r ogof, mae’r marciau a welir ar frithyll arferol yn dychwelyd. |
|||
|