|
Ogofâu Arddangos Cenedlaethol - Dan yr Ogof





|
Daeareg
Mae
ogofâu Dan yr Ogof wedi eu gwneud o galchfaen carbonifferaidd a ffurfiwyd
rhyw 315 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd yr ardal lle mae Canolfan
Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru yn awr yn gorwedd i’r de o’r cyfandir
ac wedi ei gorchuddio â môr trofannol cynnes. Trigai cwrelau, pysgod cregyn
a llu o greaduriaid bychain yn y dyfroedd hyn. Wedi iddynt farw, suddai
eu cregyn a’u sgerbydau i waelod y môr. Dyma ffynhonnell calsiwm carbonad,
deunydd crai creigiau carreg galch. Dros filiynau o flynyddoedd, claddwyd
y tywod a’r lleidiau calsiwm carbonad hyn yn ddwfn a’u trawsnewid yn gerrig
calch. Symudwyd cyfandiroedd a chodwyd cadwynau mynyddoedd a’u herydu.
O ganlyniad mae Dan yr Ogof erbyn heddiw yn llain dymherus hemisffer y
gogledd, filoedd o filltiroedd o’r lle y tarddodd ei garreg galch.
Tua phum miliwn o
flynyddoedd yn ôl, yn ystod ac yn dilyn datblygiad yr Alpau, roedd Dan
yr Ogof yng nghanol cyfnod gweddol ddigynnwrf. Gellid adnabod rhai o nodweddion
y tirlun fel y mae heddiw. Roedd lefel y môr tua 200 metr yn uwch nag
y mae heddiw. Ac felly roedd gwelyau’r afonydd yn uwch hefyd. Roedd ogofâu
yn ffurfio ar y lefelau hyn.
Yna,
tua dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd Oes yr Iâ. Cafodd peth
wmbredd o ddwr ei gloi yn y tir gan gapiau iâ pegynnol a rhewlifiannau
yn yr ardaloedd mynyddig. Oherwydd hynny, roedd llai o ddwr yn y môr ac
aeth lefelau’r moroedd i lawr. Ymatebodd yr afonydd trwy dorri i mewn
i’w gwelyau a ffurfio ceunentydd a rhaeadrau. Torrodd yr afonydd tanddaearol
yn yr ogofâu lwybrau newydd is a gadael y lefelau uwch. Dyna yw Ogof yr
Eglwys Gadeiriol - lefel uwch a adawyd. Ffurfiwyd ogof arddangos Dan yr
Ogof yn un o’r lefelau is hyn ac mae’r afon yn dal i dorri ei ffordd i
lawr i ffurfio llwybrau ogof hyd yn oed yn is.
Tua 800 mil o flynyddoedd
yn ôl oerodd yr hinsawdd yn ddirfawr a chafwyd eira trwm a meysydd iâ
ar dir uchel a rhewlifoedd yn y dyffrynnoedd. Rhwng y cyfnodau oer cafwyd
cyfnodau cynhesach, ac yn un o’r rheiny yr ydym yn byw yn awr. Roedd yr
effeithiau ar ogofâu yn ystod y cyfnodau cynhesach yn aml yn bur ddramatig,
oherwydd pan doddai’r iâ, byddai’r llifogydd yn llenwi llawer ohonynt
â malurion rhewlifol. Daeth yr iâ a diflannu eto ac yn y cyfnodau o ddadmer
ffurfiwyd stalagtitau a stalagmitau. Mae ffurfiannau’r ogofâu yn dal i
ddatblygu heddiw wrth i law asidig doddi’r calchfaen ac yna ei ddyddodi
yn stalagtitau a stalagmitau yn yr ogofâu.
|