![]() |
|
|||
|
Mwynglawdd
|
Daeareg a Mwneiddiad Mae Canolbarth Cymru yn ardal fawr o greigiau gwaddod o'r cyfnod Ordofigaidd Isaf i'r Silwraidd Canol. Yn Llywernog creigiau Silwraidd Isaf a geir, sy'n eu gwneud ychydig yn iau na 430 miliwn o flynyddoedd oed! Mae'r creigiau'n amrywio o lechfaen a siâl i leidfeini a grutiau. Fe'u gwaddodwyd dan ddwr mewn basn-môr enfawr a orweddai ar ymyl ddeheuol y cefnfor mawr y mae daearegwyr yn ei alw'n Iapetus, yr oedd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gorwedd gyferbyn ar ei lannau! Ar ddiwedd y Cyfnod Silwraidd, bu gwrthdrawiad rhwng dwy ochr gyferbyn cefnfor Iapetus. Dros filiynau o flynyddoedd gwasgwyd hen wely'r môr a'i wthio ar i fyny i greu cadwyn o fynyddoedd. Mynyddoedd Cambriaidd Canolbarth Cymru yw olion erydedig y gadwyn hon o fynyddoedd. Ac felly, pan gerddwch trwy'r twneli dan y ddaear yn Llywernog, rydych yn mynd i mewn i wely môr sydd dros 400 miliwn o flynyddoedd oed!
Yn y Canolbarth, denodd plwm, ac yn arbennig arian, lawer o ddiddordeb yn yr 17eg ganrif ac roedd bathdy yn Aberystwyth a wnâi ddarnau arian o arian lleol. Yn ddiweddarach, yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu cynnydd digyffelyb mewn gweithgarwch mwyngloddio gyda dwsinau o weithfeydd. Erbyn hynny yr oedd sinc hefyd yn bwysig ac ailweithiwyd mwynau sinc a oedd wedi eu taflu o'r neilltu cyn hynny. Mae'r ardal hefyd wedi cynhyrchu peth copr ynghyd â barytau a sylffidau haearn - a gâi eu gwerthu i wneud asid sylffwrig. Daeth mwyngloddio i ben yn y diwedd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac ers hynny bu Natur wrthi'n hawlio'r safleoedd yn ôl. Ond mae rhai olion rhagorol yn dal i oroesi - ac yn Llywernog, adferwyd un o'r casgliadau gorau o adeiladau mwyngloddio yn unrhyw fan yn yr ardal mewn prosiect sydd wedi tyfu'n gyson ers iddo ddechrau yn Ionawr 1974, pan ddaeth y timau cyntaf i'r safle i ddechrau ar eu gwaith. Roedd mwynglawdd Llywernog yn cynnwys dau brif grwp o weithfeydd. Ar adegau buont yn gweithio ar wahân ac ar adegau ar y cyd. Ar ochr ddeheuol prif ffordd yr A44, ac yn agos ati, mae'r grwp o weithfeydd a elwir yn waith Powell, ac i'r gogledd o'r A44 mae olion helaethach gwaith Poole, sef Mwynglawdd ac Amgueddfa Arian-Plwm Llywernog bellach. Un siafft sydd yng ngwaith Poole, sef Siafft yr Injan, a thrwy hon y câi'r mwynau a'r creigiau gwastraff eu tynnu a'r dwr ei bwmpio. Fe'i suddwyd i ddyfnder o 72 gwrhyd, sydd dros 400 troedfedd yn rhwydd. Er bod hynny'n swnio'n ddwfn, mae'n llai dwfn o lawer na dyfnder terfynol rhai o fwyngloddiau Cernyw (3000 troedfedd a rhagor). At ei gilydd yr oedd mwyngloddiau Canolbarth Cymru yn bur fas, gyda'r siafftiau dyfnaf yn tynnu am 1050 troedfedd o ddyfnder. Yn y mwynglawdd roedd dwy brif wythïen. Mae gwythiennau mwyn yn rhai serth eu hinclein (fertigol yn aml) a gallant gynnwys mwynau gwerthfawr neu beidio. Gellir gweld safle un wythïen yn glir wrth fynd ar y daith danddaearol yn ystod eich ymweliad. Yr ogof fertigol, agennog a dorrwyd allan o'r graig y byddwch yn cerdded trwyddi yw'r ardal lle cafwyd bod un o'r gwythiennau yn cynnwys mwyn ac a gloddiwyd ymaith. Ponciau yw'r enw ar gloddiadau agennog o'r fath ac ar waliau'r bonc hon gwelir olion y mwneiddiad. Mae'r gwythiennau ym mwynglawdd Llywernog yn ffawtiau daearegol a fwneiddiwyd - yn llythrennol, craciau yng nghramen y Ddaear y mae hylifau mwneiddio wedi mynd trwyddynt. Gall hylifau mwneiddio amrywio'n fawr ond at ei gilydd dyfroedd hallt a phoeth ydynt sy'n gyforiog o fetelau tawdd a sylweddau eraill a orfodir i fyny trwy gramen y Ddaear dan wasgedd. Pan gyrhaeddant amgylchedd cemegol a ffisegol ffafriol, ac mae gostyngiad mewn gwasgedd a thymheredd yn rhan bwysig o'r amgylchedd hwnnw, ni all y metelau tawdd aros mewn toddiant a gwaddodant yn fwynau metel a mwynau eraill. Amcangyfrifwyd, trwy gyfrwng cyfuniad o ymchwil daearegol, mwynegol a geocemegol, i wythiennau Llywernog gael eu ffurfio rhwng y cyfnodau Carbonifferaidd cynnar a Phermaidd. Fel yn llawer o fwyngloddiau'r Canolbarth, ceir tystiolaeth bod y ffawtiau sy'n cynnwys y gwythiennau mwynau yn weithredol dro ar ôl tro, fel bod hyrddiau newydd o hylif mwneiddio yn dod i fyny ac yn dyddodi haenau newydd o fwynau at y rhai oedd yno eisoes. Mae'n deg dweud y byddai pob digwyddiad o'r fath yn weladwy ar yr wyneb oherwydd y byddai daeargrynfeydd nerthol wedi digwydd yr un pryd â'r symud yn y ffawtiau.
Cofnodwyd rhai mwynau eraill yn Llywernog, yn arbennig yn ystod y gwaith a wnaed i agor y rhan o'r mwynglawdd sydd dan y ddaear. Cafwyd y sylffid haearn, marcasit, mewn mannau. Mae'n felynwyn ac yn fetelaidd ei olwg pan fydd newydd ei dorri, ond buan y mae'n hindreulio ac mae'n braenu mewn aer llaith. Roedd llawer o farcasit yn y gwythiennau a weithiwyd yn Ystumtuen, i'r de o'r gweithiau yn Llywernog, ac ar un adeg câi cynnyrch y braenu ar farcasit, sef ocr-melyn, ei gasglu yno i'w ddefnyddio fel pigment. Mae ocr melynaur copr, calcopyrit, sylffid o haearn a chopr, hefyd i'w gael yn Llywernog, ond nid digon at ddibenion masnachol. Yn olaf, cafwyd y mwyn prin iawn, wlmanit, sylffid o nicel ac antimoni, fel gronynnau metelaidd tra disglair, ond dim ond nifer fechan o sbesimenau y gwyddys amdanynt. Ceir aur yn Llywernog, ond dim ond mewn 'meintiau academaidd' - llai na chwarter rhan ym mhob miliwn - neu ffracsiwn o un gram i bob tunnell o fwyn. Mae lefelau aur yn isel, fel hyn, ledled y Canolbarth. Mae ardaloedd mwyngloddiau aur Cymru i'r gogledd, yn llain aur Dolgellau, ac i'r de, yn Nolau Cothi. Ynghyd â'r mwynau metel ceir mwynau gwastraff neu fwynau gang. Cwarts (silica) yw'r mwyaf cyffredin ohonynt, a gellir ei weld dan y ddaear. Mae'n ffurfio crwst o grisialau bychain, di-liw, â ffurf pyramid. Ceir calchit, calsiwm carbonad, hefyd mewn mannau. Câi'r mwynau naill ai eu didoli o'r gang â llaw, neu, lle roeddent yn gymysg, câi holl gynnwys y wythïen ei falu a'i wahanu. Cynhyrchydd cymedrol ar blwm , arian a sinc oedd Llywernog. Er 1845 mae'r grwp o weithfeydd a weithiai dan yr enw hwn wedi cynhyrchu 3813 tunnell o galena, 560 tunnell o sffalerit a 4260 owns o arian, yn ôl yr ystadegau swyddogol. Ond dim ond mewn rhai blynyddoedd y llenwyd y cofnodion arian ac amcangyfrifwyd bod y galena a gynhyrchwyd mewn gwirionedd yn cynnwys bron 15000 owns o arian! |
|||
|