|
Aur
Efallai
mai aur yw metel enwocaf Cymru, a dyma’r unig un y mae pobl yn dal i chwilio
amdano o ddifrif heddiw. Ni wyr neb pryd y darganfuwyd y darn cyntaf o
aur Cymru. Yn Nolau Cothi, yn rhan ddeheuol y Canolbarth, gwyddom fod
gan y Rhufeiniaid fwyngloddiau helaeth, ond hyd yn oed yno mae ymchwil
yn awgrymu mai meddiannu mwynglawdd llawer hyn a wnaethant. Yn y Gogledd,
bu mwyngloddio aur yn yr ardal a elwir yn Llain Aur Dolgellau. Yn 1843
y cofnodwyd y darganfyddiad cyntaf, ond mae cryn dystiolaeth amgylchiadol
i awgrymu bod pobl yn gwybod bod aur yno flynyddoedd lawer cyn hynny.
Yn swyddogol, mae
Llain Aur Dolgellau wedi cynhyrchu tua 4 tunnell o aur hyd yma, y rhan
fwyaf ohono ddiwedd y 19g. a dechrau’r ugeinfed ganrif. Ni chawn fyth
wybod faint o aur a gloddiwyd gan y Rhufeiniaid yn Nolau Cothi ond rhaid
ei fod yn gryn dipyn a barnu oddi wrth helaethrwydd y gweithfeydd.
Mewn gwirionedd, mae
aur i’w gael trwy rannau helaeth o Gymru, ond ac eithrio yn y ddwy ardal
hyn mae cyn lleied ohono fel mai diddordeb academaidd, yn hytrach nag
economaidd, sydd ynddo. Er enghraifft, cafwyd olion aur ym mwynau arian-plwm
y Canolbarth - ond dim ond olion!
Mae’r ddwy brif ardal
aur yn hollol wahanol yn ddaearegol. Yn Nolau Cothi mae anticlin - plyg
i fyny - yn y creigiau lleol, sef sialau llwyd tywyll y cyfnod Silwraidd
Isaf. Mae gwythiennau cwarts yn frith trwy’r sialau plyg, yn amrywio o
ran trwch o filimetrau i fetrau, ac yn gorwedd ar bob math o ongl, o wastad
i fertigol. Mae’r sialau a’r gwythiennau cwarts yn llawn o’r mwynau sylffid
cyffredin, pyrit ac arsenopyrit. Ond yma, mae’r ddau fwyn hyn yn cynnwys
aur - yn ronynnau mân oddi mewn iddynt.
Gall mwynau metel
o’r fath fod yn anodd iawn eu trin, a phan oedd y mwynglawdd yn cael ei
weithio ddiwethaf yn y 1930au, roedd rhaid mynd â’r sylffidau dwys i Antwerp
i dynnu’r aur ohonynt. Doedd neb ym Mhrydain am gyffwrdd ynddynt! Dyfalu
yr ydym, ond pan oedd y Rhufeiniaid yn gweithio â mwynau tebyg, byddent
yn nes i’r wyneb, ac felly wedi eu hindreulio, proses a fyddai wedi pydru'r
sylffidau a’u troi’n glai, gan ryddhau’r aur fel bod modd ei dynnu allan
trwy ei olchi mewn padell. Y dehongliad ynghylch y dyddodyn yn Nolau Cothi
yw mai ‘Gwythïen gyfrwy’ ydyw lle mae hylifau mwneiddio wedi casglu o
fewn plyg wrth iddo ffurfio, gan ddyddodi gwythiennau mawr gwastad wedi
eu cysylltu â rhai llai, serth. Ond mae’n lle cymhleth yn ddaearegol ac
mae’n bosibl y caiff y ‘model metelogenig’ hwn ei ailystyried yn y dyfodol.
Yn
wahanol i Ddolau Cothi, mae’r dyddodion aur yn Nolgellau yn cynnwys aur
cwrs iawn a gweladwy y gellir ei dynnu allan trwy godi’r mwyn metel â
llaw a’i falu a’i olchi. Mae aur yn ardal Dolgellau i’w gael yn y gwythiennau
cwarts rhubanog sydd fel rheol yn plymio’n serth ac sy’n rhedeg o’r dwyrain
i’r gorllewin. Mae’r gwythiennau’n cynnwys mwynau eraill fel sylffidau
haearn, copr, plwm a sinc ac at hynny mae cyddwysiadau lleol o delwridau
bismwth. Mae mwynau sy’n cynnwys telwriwm mewn gwirionedd yn cyd-ddigwydd
yn aml ag aur ledled y byd, ac nid yw ardal Dolgellau yn eithriad.
Mae’r gwythiennau
yn Llain Aur Dolgellau yn llawer hyn na rhai Dolau Cothi. Sylweddolwyd
yn ddiweddar iddynt gael eu hanffurfio yn ystod y symudiadau daear ar
ddiwedd y cyfnod Silwraidd a elwir yn Orogenesis Caledonaidd. Mae ymchwil
fodern wedi arwain pobl i gredu iddynt gael eu ffurfio yn gynnar yn y
Cyfnod Ordofigaidd. Bryd hynny, roedd cylch folcanig mawr yn tynnu tua’i
derfyn. Roedd llosgfynydd mawr wedi magu yn yr ardal a elwir yn awr yn
fynydd Rhobell Fawr, ac roedd magmâu tanddaearol dwfn wedi eu chwistrellu’n
llenni i mewn i’r creigiau gwaddod Cambriaidd. Oerodd y magmâu hyn i ffurfio
creigiau y bydd mwyngloddwyr aur Cymru yn awr yn eu galw’n ‘Wyrddfeini’.
Roedd hi’n bur boeth dan yr wyneb a’r holl ddigwyddiadau hyn ar waith
ac oherwydd y gwres gallai hylifau gylchdroi, gan adweithio â’r creigiau
yr oeddent yn mynd trwyddynt, a thoddai aur a metelau eraill ynddynt.
Yng nghamau olaf y cylch folcanig, bu codiad ac achosodd y tensiynau a
ddatblygodd o fewn y creigiau holltau. Llifodd yr hylifau i mewn i’r rhain,
gan ddyddodi eu baich gwerthfawr o fetelau, sef aur a mwyn-wythiennau
eraill yr ardal.
Dim ond mewn mannau
o fewn gwythiennau’r Llain Aur y ceir digon o aur iddi fod yn economaidd
ei gloddio, ac yno ffurfia ‘bocedi’. Efallai mai dim ond ychydig dunelli
o fwyn metel fydd yn y pocedi hynny ond byddant yn cynnwys sawl owns o
aur. Nid gwaith hawdd yw lleoli pocedi o’r fath, a dyna pam y mae mwyngloddio
aur Cymru yn weithgarwch heriol a dryslyd, ac mae gofyn i’r mwyngloddiwr
fod yn dipyn o ddaearegwr, ac fel arall! Heddiw, diwydiant cartref yw
mwyngloddio Aur Cymru, a phobl leol sy’n ei redeg, a defnyddir yr aur
i gynhyrchu gemwaith.
<<
Cysylltiadau
|