|
Cymru
Dan Y Ddaear - Newid Amgylcheddol A Ffurfiant Mwynauyng Nghymru
TAITH TRWY AMSER
Mae llawer wedi digwydd ar hyd y daith i ffurfio tirwedd cyfarwydd y Gymru
a welwn heddiw. Llosgfynyddoedd, daeargrynfeydd, gwernydd trofannol, anialdiroedd
a chapanau iâ - gallech weld y rhain i gyd yng Nghymru pe bai peiriant
amser gennych! Ond gan nad oes, beth am ymweld ag Oriel Esblygiad Cymru
yn yr Amgueddfa a’r Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd? Yma cewch weld
“mwg y dryll” - y dystiolaeth a adawyd yn y creigiau o’r llu o newidiadau
amgylcheddol ac esblygol a effeithiodd ar Gymru dros y biliwn diwethaf
o flynyddoedd.
Y CYFNOD CYNGAMBRIAIDD:
CYMRU’R CYNFYD
4600-570 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Yng ngogledd-orllewin
yr Alban y mae creigiau hynaf Prydain, ac maent yn 3000 miliwn o flynyddoedd
oed. Yma yng Nghymru, mae’r creigiau hynaf sy’n brigo felly’n ddaearegol
ifanc, yn ddim ond 700 miliwn o flynyddoedd oed!
Ceir creigiau Cyngambriaidd
ym Môn a phenrhyn Llyn, yn ne-orllewin sir Benfro ac mewn mannau ar hyd
y Gororau. Mae daearegwyr yn adnabod creigiau hynafol o’r fath fel y "sail"
ac maent yn gorwedd dan y rhan fwyaf o’r tir mewn gwahanol ffurfiau ac
amrywiol ddyfnderau, yn dibynnu ar hanes daearyddol diweddarach pob ardal.
Cynhwysant greigiau gwaddod a folcanig, sy’n awgrymu bod y Gymru Gyngambriaidd
yn lle terfysglyd!
Mae creigiau Cyngambriaidd
yng Nghymru yn cynnwys gwythiennau o fwyn mewn mannau, ac ym Môn mae yna
waddodion cromit isel-radd sy’n Gyngambriaidd yn ôl pob tebyg. Ond maent
yn rhy fach i fod yn werth eu cloddio’n fasnachol. Mwy diddorol yw bod
drilio wedi dangos bod creigiau folcanig Cyngambriaidd dan yr ardal a
elwir yn Gromen Harlech yn y Gogledd. Maentumiwyd y gallai’r creigiau
hyn fod yn ffynhonnell i’r aur a geir yng ngwythiennau mwyn Llain Aur
Dolgellau gerllaw.
Y CYFNODAU CAMBRIAIDD-SILWRAIDD:
BASN CYMRU
570-410 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Gydol y cyfnod hwn,
a elwir yn gyfnod Palaeosoig Isaf, roedd blociau adeiladu tirwedd Cymru
yn cael eu gosod wrth i fetrau filoedd o greigiau gwaddod a folcanig grynhoi
mewn basn morol - Basn Cymru. Roedd hwn yn ymestyn allan i’r gorllewin
ar draws Cymru o swydd Amwythig, er bod y moroedd weithiau’n mynd a dod
dros dirwedd isel Canolbarth Lloegr a’r tu hwnt. Bryd hynny gorweddai
Cefnfor mawr Iapetws i’r gogledd o Gymru, ac ar lannau gogledd-orllewinol
hwnnw, filltiroedd lawer i ffwrdd, yr oedd yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Roedd hwn yn gyfnod pwysig yn ffurfiant gwaddodion mwynol Cymru. Mewn
moroedd Cambriaidd bas, roedd gwaddodion cemegol yn crynhoi o bryd i’w
gilydd. Weithiau roeddent wedi eu cymysgu â llaid a gwaddodion eraill,
ond mae un llain, y gellir ei holrhain o gwmpas gogledd-orllewin Cymru,
a oedd dros 1m o drwch mewn mannau ac a gafodd ei gweithio fel ffynhonnell
manganîs. Roedd y mwyn metel yn graig galed, drom, ysgyrllyd o ronynnau
dwys, ac yn cynnwys cymysgedd o garbonadau manganîs a silicadau ynghyd
â rhai mwynau eraill. Fe’i mwyngloddiwyd mewn llawer man o gwmpas Cromen
Harlech, fel Hafoty, ger y Bermo.
Yn ddiweddarach eto,
yn y cyfnod Ordofigaidd, crynhodd gwaddodion cemegol tebyg, ond y tro
hwn, haearn oedd y prif fetel. Haearnfeini oolitig oedd y mwynau metel,
ychydig yn debyg i haearnfeini Jwrasig adnabyddus dwyrain Canolbarth Lloegr,
ond wedi eu trawsffurfio a’u hanffurfio fel bod eu mwnyddiaeth yn newid
gan roi mwynau newydd fel magnetit sy’n economaidd bwysig. Gwelir hyn
mewn samplau toredig hardd. Cafodd mwyn haearn ei weithio mewn llawer
ardal a cheir mwyngloddiau o gwmpas Cadair Idris sy’n enghreifftiau diddorol.
LLOSGFYNYDDOEDD
YN ERYRI
O’r cyfnod Ordofigaidd cynnar i ganol y cyfnod hwnnw, tyfodd llosgfynyddoedd
mawr o wely’r môr, gan godi o’r môr weithiau yn ynysoedd tebyg i Krakatoa.
Ffrwydrodd peth wmbredd o lafa a lludw ohonynt: o un gyfundrefn folcanig
fawr o gwmpas lle mae’r Wyddfa yn awr taflwyd trigain cilometr ciwbig
o ddeunydd, yn ôl yr amcangyfrif. O gymharu â hyn, byddai ffrwydrad enwog
Mynydd St Helens yn 1980 wedi edrych yn fychan.
Pan geir gweithgarwch
folcanig, mae mwneiddiad yn debygol, yn bennaf oherwydd bod ardaloedd
folcanig yn boeth, ac felly’n creu grym darfudol pwerus, gan yrru dwr
daear poeth i gylchredeg trwy’r creigiau agos. Pan
ddaw’r dyfroedd hyn i’r wyneb, gallant ffrwydro i’r awyr ar dir fel ffynnon
boeth, neu ffurfio’r “ffynhonnau mwg du” sydd bellach yn adnabyddus ar
wely’r môr. Bu gweithgarwch mwg du arbennig o ddwys yn yr ardal lle mae
gogledd-ddwyrain Môn bellach, a ffurfiwyd llawer iawn o sylffidau haearn,
copr, plwm a sinc. O’r Oes Efydd ymlaen cloddiwyd copr o’r ffurfiant mawr
hwn o sylffidau ym Mynydd Parys, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif hwn oedd
mwynglawdd copr mwyaf Ewrop. Mae’n dal i ddenu diddordeb, a gwnaed llawer
o waith arno yn niwedd y 1980au, gan gynnwys suddo siafft newydd sylweddol.
Ymhellach i’r de,
ger Dolgellau, mae mynydd Rhobell Fawr yn safle hen losgfynydd arall.
Yma, roedd y gweithgarwch yn rychwantu’r ffin Gambriaidd-Ordofigaidd,
ac arweiniodd at ffurfio un o’r gwaddodion molafon (porffyri)-copr hynaf
yn y byd - màs enfawr (200 miliwn tunnell) o ddiorit mewnwthiol wedi ei
drwytho â sylffidau copr a haearn. Darganfuwyd Coed y Brenin ddechrau’r
1970au gan Riofinex Cyf, a dim ond mewn ychydig fannau y mae’n brigo gan
ei fod wedi ei gladdu bron i gyd dan ddyddodion rhewlifol. Mae llwybr
daeareg newydd Menter y Goedwig yn ymweld â’r brigiadau gorau.
Roedd copr wedi ei
gloddio yn ardal Coed y Brenin ymhell cyn darganfyddiad Riofinex. Gerllaw
mae olion Mwynglawdd Copr Turf, lle cafodd gwely mawn llawn mwynau copr
eilaidd ei gloddio, ei losgi mewn odyn a lle mwyndoddwyd y lludw a gwneud
elw mawr. Ac nid nepell mae mwynglawdd enwog Glasdir, lle gweithiwyd màs
mawr pibellog o graig ddrylliog llawn mân wythiennau o fwyn copr hyd 1914.
Yma y darganfuwyd y dull a ddefnyddir bellach ym mhobman o wahanu mwyn
sylffid, sef arnofio, a’i berffeithio ddechrau degawd cyntaf yr ugeinfed
ganrif.
Yn yr un ardal y mae
Llain Aur Dolgellau. Mae’r llain hon o dir yn gwyro i gyfeiriad de-orllewinol
o Drawsfynydd i’r Bermo, ac yn cynnwys y gwaddodion metelog mwyaf adnabyddus
efallai yng Nghymru - gan mai dyma ffynhonnell yr aur a ddefnyddiwyd ar
gyfer modrwyau priodasau brenhinol drwy’r blynyddoedd. Ceir yr aur mewn
pocedi lleol iawn - ond hynod gyfoethog - mewn gwythiennau cwarts sydd
hefyd yn cynnwys sylffidau haearn copr, plwm, sinc, arsenig a chobalt
ynghyd â thelwridau o fismwth, plwm ac arian. Mae cloddio am fwynau yn
dal i ddigwydd yn yr ardal a defnyddir yr aur prin a geir i gynhyrchu
gemwaith.
Ymhellach i’r gogledd,
roedd ardal yr Wyddfa, canolfan folcanig Ordofigaidd fawr, yn ganolfan
i ddiwydiant mwyngloddio copr pwysig yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Cynhyrchwyd ychydig o arsenig hefyd ac, yn agos i Ddeganwy,
cloddiwyd mwynau antimoni mewn dyddodyn cysylltiedig ond anarferol. Mae’r
mwyngloddiau copr yn dal i’w gweld o gwmpas yr Wyddfa, ac mae un, Mwynglawdd
Sygyn, yn agored i’r cyhoedd. Ffurfiwyd y gwythiennau copr pan gafodd
dwr heli a oedd yn cylchdroi trwy’r creigiau o gwmpas caldera folcanig
yr Wyddfa ei dwymo. Trwytholchodd y dwr fetelau o’r creigiau yr âi trwyddynt
ac ailddyddodi’r metelau yn fwynau sylffid mewn toriadau yn nes i’r wyneb.
TYRBIDITAU - creigiau
Canolbarth Cymru
O’r cyfnod Ordofigaidd canol i’r Silwraidd hwyr, ar hyd ymylon Basn Cymru,
crynhodd deunydd gwaddod - tywod, gro a llaid - yn fonciau enfawr, gan
ffurfio twmpathau mawr ansefydlog uwch y llethrau a âi i lawr i’r dyfroedd
dyfnach. Yn aml, byddai rhannau mawr o’r twmpathau gwaddod hyn yn llithro,
yn araf i ddechrau ac yna, wrth iddynt gyflymu ar eu ffordd i lawr, yn
dirlithriadau tanforol enfawr. Lledent allan i orchuddio rhannau helaeth
o wely’r môr, dro ar ôl tro, a haen ar ben haen.
Yn ei anterth, gallai’r
llif tanforol o ddeunydd, neu’r ceryntau tyrfedd, fod yn teithio mor gyflym
â 50mya. Wrth iddynt arafu, dechreuai’r gronynnau waddodi, y mwyaf yn
gyntaf, i ffurfio’r haenau a elwir yn dyrbiditau, sydd mor gyffredin yn
y Canolbarth ac a welir yn arbennig o dda yn y clogwyni yn Aberystwyth,
a phob cyfres o dywod-silt-llaid yn cynrychioli un tirlithriad isforol.
Yn rhan ddeheuol y
Canolbarth, ceir dyddodyn aur-arsenig cysylltiedig â thyrbidit sy’n anarferol,
os nad yn unigryw. Cafodd hwn ei fwyngloddio yn Ogofau ger Pumpsaint,
gan y Rhufeiniaid, yr oedd ganddynt waith enfawr yno, a chan gwmnïau mwyngloddio
mwy diweddar. Mae’r mwyn yn cynnwys pyrit ac arsenopyrit y ceir gronynnau
aur hynod o fân ynddynt. Gweithiodd y Rhufeiniaid ar y rhan o’r dyddodyn
a oedd yn agos i’r wyneb, lle roedd y sylffidau wedi eu hocsideiddio,
a oedd yn gwneud yr aur yn haws ei gael. Erbyn hyn, mae’r safle, a elwir
hefyd yn Dolau Cothi, yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn
agored i’r cyhoedd.
BYWYD Y CYFNOD
PALAEOSOIG ISAF
Yn haenau uchaf moroedd dyfnach Basn Cymru roedd organebau planctonig
cyntefig yn byw, fel y graptolitau sydd bellach yn ddarfodedig, ac sydd
i’w gweld yn aml fel ffosilau yn sialau’r Canolbarth a’r Gogledd. Tua’r
Gororau, roedd y môr yn fwy bas, a gallai bywyd mwy amrywiol ffynnu. Yn
y cyfnod Silwraidd canol, roedd moroedd bas a chynnes yn caniatáu i greigresi
cwrel ffynnu. O amgylch y creigresi, roedd gwelyau’r moroedd bas yn llawn
bywyd. Ceir digonedd o olion ffosil o’r gymuned hon a fu’n byw ar wely’r
môr - cregyn o wahanol fathau, a’r tribolitau rhyfedd, cramenogion tebyg
ar yr wyneb i wrachod lludw mawr - yn ardal y Gororau.
Erbyn diwedd y cyfnod
Silwraidd roedd y moroedd yn cilio ac amodau aberol ac arfordirol yn datblygu
hyd Gororau Cymru. Yn yr amgylchedd hwn, roedd newydd-ddyfodiaid, yn cynnwys
y pysgod a’r planhigion tir cyntefig cyntaf, yn byw. Ym morlynnoedd llanw’r
ardal hon trigai’r ewrypteridau neu’r sgorpionau môr, hynafiaid cyntefig
sgorpionau tir heddiw - ond yn dri metr o hyd weithiau!
Y CYFNODAU SILWRAIDD
HWYR-DEFONAIDD CYNNAR: YR OROGENESIS ACADAIDD
410-390 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Erbyn dechrau’r cyfnod
Defonaidd, roedd Basn Cymru wedi peidio â bod. Roedd yr eangdiroedd yr
oedd Cefnfor Iapetws yn eu gwahanu wedi gwrthdaro â’i gilydd, a pharodd
hynny wasgu gweddillion Basn Cymru yn gadwyn newydd o fynyddoedd - mynyddoedd
Caledonaidd Cymru. Roedd hon yn broses araf - cofiwch fod mynyddoedd Himalaya
yn dal i godi 1-2 cm y flwyddyn - ond yr oedd grymoedd tetonaidd nerthol
iawn ar waith. Fel yr oedd gwaddodion morol Basn Cymru yn cael eu hanffurfio,
roedd pob gronyn o waddod yn cael ei gywasgu dan wasgedd aruthrol. Dan
yr amodau hyn, daeth y mwynau clai a gyfrannai at y gwaddodion mwy lleidiog
yn hydawdd ac roedd yn hawdd iddynt ailgrisialu, ac alinio ar ongl sgwâr
i gyfeiriad y gwasgedd mwyaf. Ac felly datblygodd y creigiau raen - holltedd.
Oherwydd natur fflochennog mwynau clai, fel mica, datblygodd y creigiau
a wnaed ohonynt holltedd arbennig o gryf, hydreiddiol, cyflin, a’i gwnâi’n
hawdd eu hollti yn ddalennau tenau. Ac felly y gosodwyd sylfeini diwydiant
llechi Cymru.
Mae Cymru yn enwog
am ei llechi, un cynnyrch mwynol sy’n dal i gael ei fwyngloddio o ddifrif
heddiw. Llechi oedd sylfaen economaidd llawer o bentrefi a threfi mwyaf
y Gogledd: mae llefydd fel Corris, Blaenau Ffestiniog, Llanberis a Bethesda
wedi datblygu i raddau helaeth oherwydd y canlyniad hwn i waith tectoneg.
Mae llechi Cymru yn amrywio o le i le, o ran oed ac ymddangosiad. Daw’r
llechi to gorau - y llechi porffor a gwyrdd nodedig - o greigiau Cambriaidd
rhwng Llanberis (cartref Amgueddfa Lechi Cymru) a Bethesda ac maent yn
gynnyrch gwasgeddau tectonig ac amodau metamorffig cryfach na’r llechi
a geir yn y creigiau Silwraidd ac Ordofigaidd uchaf yn ardal Corris (cartref
labrinth y Brenin Arthur). Roedd rhai o’r chwareli mwyaf ymhlith llechi
Ordofigaidd ardal Ffestiniog, lle mae Ceudyllau Llechwedd yn agored i’r
cyhoedd a lle gallwch ddechrau sylweddoli maint y gwaith a wnaed gan ddynion
a merched y dyddiau a fu.
Mae Maes Mwynau Canolbarth
Cymru yn cynnwys ardal eang o wythiennau mwynau o fewn tyrbiditau Ordofigaidd
a Silwraidd. Dangoswyd bod y mwneiddio wedi digwydd mewn sawl cyfnod,
gan ddechrau yn y cyfnod Defonaidd a pharhau trwy’r cyfnod Carbonifferaidd
i mewn i’r Permo-Triasig. Roedd y gwythiennau cynnar yn arbennig o bwysig
fel ffynhonnell arian yn ystod y Rhyfel Cartref, pan oedd mwyngloddiau
fel Darren, Cwmsymlog a Goginan yn eu hanterth. Roedd gwythiennau diweddarach
yn cynnwys llai o arian, ond llawer o blwm a sinc, ac mae enghraifft ardderchog
i’w gweld dan ddaear yn Amgueddfa fwyngloddio Llywernog. Mae mwynau eraill
sydd i’w cael yn y Canolbarth yn cynnwys sylffidau cobalt a nicel ac aur
prin. Cyrhaeddodd mwyngloddio yn y Canolbarth ei anterth yn y 1850au ac
roedd wedi dod i ben erbyn yr Ail Ryfel Byd.
AFONYDD DEFONAIDD
A GWERNYDD CARBONIFFERAIDD
390-290 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Erbyn canol y cyfnod
Defonaidd, roedd Basn Cymru wedi mynd yn rhan o gadwyn o fynyddoedd. Roedd
yr hinsawdd yn grinsych, a byddai’r glaw achlysurol yn erydu’r mynyddoedd
ac yn creu gwaddodion newydd wrth wneud hynny. Cludai afonydd ddeunydd
ymaith tua Chanolbarth Lloegr a De Cymru, gan ddyddodi tywod dros y gwastatir.
Maes o law, caledodd y tywod hwn a chreu’r hyn a elwir heddiw yn Hen Dywodfaen
Goch. Yr haenau hyn sy’n creu lliw coch nodweddiadol priddoedd rhannau
o Dde a Dwyrain Cymru.
Mae’r cyfnod Defonaidd
wedi ei alw yn “oes y pysgod". Dyma pryd y bu’r cam mawr ymlaen mewn esblygiad
a roddodd fod i’r creaduriaid hyn yn eu holl amrywiaeth - pysgod esgyrnog,
siarcod, pysgod ysgyfeiniog - mewn moroedd, llynnoedd ac afonydd ym mhob
cwr o’r byd. Ac o’r pysgod ysgyfeiniog yr esblygodd yr amffibiaid cyntaf
i ymlusgo i’r tir, lle’r oedd planhigion eisoes wedi hen ymsefydlu.
Ar ddechrau’r cyfnod
Carbonifferaidd, daeth moroedd cynnes a bas i rannau o ogledd-ddwyrain
a de Cymru, ac unwaith eto ffynnai creigresi cwrel gan osod y calchfeini
y ffurfiwyd ogofâu Cymru ohonynt yn ddiweddarach.
Ond erbyn y cyfnod
Carbonifferaidd Uchaf, ac yn arbennig yn y De, deltâu a gwernydd arfordirol
helaeth oedd y rhan fwyaf o’r tirwedd. Roedd y rhain yn ddryswch o gnwpfwsoglau
o faint coed, ac ar lifgloddiau uwch yr afonydd tyfai planhigion eraill.
Crynhodd deunydd mawnog trwchus yn y gwernydd hyn, a than wasgeddau a
thymereddau uwch wrth iddynt gael eu claddu’n ddyfnach o hyd, yn araf
fe’u trawsnewidiwyd yn haenau glo. Yn ne Cymru, mae Canolfan Dreftadaeth
y Rhondda a’r Pwll Mawr yn llefydd i fynd i gael gwybod popeth a fynnwch
am lo ac am gloddio glo. Gwyddom am rai sbesimenau mwyn trawiadol hefyd
o geudodau mwyn haearnfeini o’r maes glo.
Mae creigiau Carbonifferaidd
diweddarach yn y De yn cynnwys tywodfeini a ddyddodwyd gan afonydd a darnau
o lo ynddynt. Mae’r rhain yn dangos bod yr haenau a ddyddodwyd yn y gwernydd
glo erbyn y cyfnod hwnnw wedi eu codi i fyny ac eisoes yn cael eu herydu.
Mae hyn yn dystiolaeth i gamau cyntaf y cyfnod nesaf o greu mynyddoedd
- yr orogenesis Farisgaidd.
Yn y cyfnod hwn, roedd
yr eangdiroedd sydd erbyn hyn yn Affrica, De America, India ac Awstralia
yn un uwchgyfandir. Erbyn tua 290 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd yr
ehangdir enfawr hwn, a elwir bellach yn Dir Gondwana, wedi gwrthdaro â
Gogledd America, Ewrop ac Asia i ffurfio un uwchgyfandir - Pangaea.
ANIFEILIAID DARFODEDIG
PERMAIDD, ANIALDIROEDD TRIASIG A MOROEDD JWRASIG
290-190 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Byr fy hoedl Pangaea.
Dim ond 50 miliwn o flynyddoedd a aeth heibio cyn i’r uwchgyfandir hollti
eto. Symudodd y drylliau yn raddol (a bu ambell wrthdrawiad arall) nes
creu’r map cyfarwydd o’r byd a welwn ni heddiw.
Cafodd ffurfio Pangaea
effaith mawr ar fywyd y byd, yn cynnwys Cymru. Bryd hynny, roedd Prydain
yn agos i’r Cyhydedd, ac Affrica a De America yn llawer nes i Begwn y
De. Roedd capanau iâ eang dros y tiroedd deheuol hyn, a chan fod cymaint
o ddwr wedi ei droi yn iâ, gostynodd lefelau’r moroedd, a newidiwyd eu
helltni. Cafodd y newidiadau amgylcheddol mawr hyn effaith fawr ar y tir
lle mae’r Deyrnas Unedig bellach, gan gynnwys Cymru, a throdd yn anialwch
lle’r oedd twyni tywod helaeth a lagwnau heli yma ac acw lle’r oedd rhannau
o foroedd blaenorol wedi eu hynysu wrth i lefelau’r moroedd ddisgyn dros
y byd. Mae’r damcaniaethau’n newid o flwyddyn i flwyddyn ynghylch y rhesymau
am ddiflaniad rhywogaethau yn y cyfnod hwn; mae ardrawiad asteroid a gweithgarwch
folcanig enfawr wedi eu beio yn eu tro am droi’r sefyllfa hon a oedd eisoes
yn fregus yn argyfwng lle bu agos iawn i fywyd ei hun ddiflannu. Hyd y
gwyddom, dyma’r agosaf y bu bywyd ar y Ddaear i ddiffodd am byth.
Ychydig y tu allan
i’r Gymru fodern, datblygodd basnau gwaddod mawr - ardaloedd o ymsuddiant
a gwaddodi. Roedd un ym Môr Iwerddon, ac un arall yn ardal swydd Gaer.
Erbyn dechrau’r cyfnod Jwrasig, roedd y tir yn ymsuddo’n helaeth ac, unwaith
eto, daeth y môr i mewn, gan foddi’r cyfan ond yr ardaloedd mynyddig.
Ceir tystiolaeth glir o’r trawsnewid o amgylchiadau anialdir y cyfnod
Triasig i foroedd y cyfnod Jwrasig Isaf mewn creigiau a ddaeth i’r golwg
ar hyd arfordir y De rhwng Penarth a Thrwyn Larnog, ger Caerdydd. Ac fel
y digwyddodd yn hen Fasn Cymru yn y cyfnod Ordofigaidd a Silwraidd, crynhodd
trwch ar ôl trwch o waddodion morol mawr dros yr ychydig filiwn o flynyddoedd
nesaf. Mae tuedd i amser daearegol, fel hanes, ei ailadrodd ei hun.
Ffurfiwyd rhai dyddodion
mwyn pwysig yn y cyfnod hwn, wrth i raddiannau gwres uchel a grëwyd yn
ystod ymsuddiant basnau gynhyrchu heli metelog. Symudodd y dyfroedd hyn
i fyny ac ar draws i mewn i ardaloedd o greigiau hyn. Roedd cyfresi calchfaen
y Cyfnod Carbonifferaidd Isaf yn fannau arbennig o ffafriol ar gyfer mwneiddio,
ac felly ffurfiwyd meysydd mwyn plwm-sinc-fflworit-baryt Cymru, sy’n debyg
i rai’r Pennines, sef ardal Helygain-Mwynglawdd gogledd-ddwyrain Cymru
a rhan Gymreig maes mwynau de Cymru a’r Mendips. Credir i ddyddodion copr
unigryw y Gogarth ger Llandudno gael eu ffurfio bryd hynny hefyd, ac maent
wedi eu cloddio ers yr Oes Efydd. Mae mwynau haearn, fel y rhai a gloddiwyd
tan yn weddol ddiweddar yn Llanhari, yn y De, hefyd yn rhan o’r digwyddiad
mwneiddio mawr hwn.
ESBLYGIAD CYMRU
YN Y CYFNOD JWRASIG-CAINOSOIG HWYR
190-1.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Credir bod y moroedd
ar adegau yn gorchuddio tirwedd isel Cymru’r cyfnod Jwrasig-Cretasig yn
llwyr. Ond erbyn dechrau’r cyfnod Caenosoig, 65 miliwn o flynyddoedd yn
ôl, roedd y môr yn bendant ar drai. Ond beth wyddom ni am y dinosoriaid?
A fuont yn byw yma erioed?
Buont yn sicr, oherwydd
cafwyd hyd i olion traed ffosiledig mewn creigiau Mesosoig ym Mro Morgannwg.
Ond erbyn dechrau’r cyfnod Caenosoig, roedd y dinosoriaid, ynghyd â llawer
ffurf arall ar fywyd, wedi eu dinistrio’n llwyr mewn ail ddifodiant cyffredinol,
y rhoddir y bai amdano ar hyn o bryd ar newid hinsawdd a ysgogwyd gan
ardrawiad asteroid yn yr ardal lle mae Gwlff México heddiw. Yn dilyn yr
argyfwng hwn - beth bynnag a’i hachosodd - grwp bychan o anifeiliaid a
oedd tan hynny yn israddol ac a fu’n cuddio yn y cefndir ers 140 miliwn
o flynyddoedd a etifeddodd y Ddaear, a hynny’n llythrennol. Y mamaliaid
oedd y rhain.
Gydol y cyfnod Caenosoig,
roedd hinsawdd Cymru yn gynnes o gymharu â heddiw. Am gyfnodau maith roedd
yn isdrofannol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd dyddodion mwyn Cymru a gynhwysai
sylffid eu hindreulio’n ddwfn ac yn aml ffurfiai mwynau newydd, lliwgar
yn aml, fel malachit a phyromorffit. Mae’n debyg i’r mwynau manganîs ocsid,
a gloddiwyd ym mynyddoedd Arennig ac mewn ardaloedd yn y Canolbarth, gael
eu ffurfio yn y cyfnod hwn.
Ac yn y tirwedd hwn
trigai hynafiaid yr eliffantod, yr hipos, y ceirw, y gwartheg sy’n gyfarwydd
i ni heddiw, a llawer ffurf arall a fyddai’n lled-gyfarwydd. Ond dim ond
1.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd yr hinsawdd newid, arwydd bod
Oes yr Iâ ar ddechrau.
RHEWLIFIANT Y CYFNOD
PLEISTOSEN
1.6 miliwn-10000 o flynyddoedd yn ôl
Yn ystod y cyfnod
Pleistosen, creodd sawl cyfnod oer, pob un yn para filoedd o flynyddoedd,
gapanau iâ dros fynyddoedd Cymru. Rhwng y cyfnodau hyn bu cyfnodau a oedd
bron cyn gynhesed â heddiw, neu’n gynhesach. Yn ystod y cyfnodau cynhesach
hyn roedd llewod, hipos, eirth ac anifeiliaid egsotig eraill yn byw yn
neheudir Prydain. Yn y cyfnodau oerach trôi’r tiroedd hyn yn dwndra.
Mae iâ rhewlifol yn
erydydd arbennig o nerthol a rhewlifiannau’r cyfnod Pleistosen fu’n gyfrifol
am roi’r ffurf derfynol a welwn ni heddiw ar dirwedd Cymru.
Rhwygodd yr Iâ y creigiau
briwsionllyd a oedd wedi hindreulio, a thynnu llawer o ddyddodion mwyn
oddi ar y rhannau uchaf a oedd wedi ocsideiddio. Yna bu afonydd o ddyfroedd
tawdd yn ailweithio’r deunydd, gan olchi ymaith y tywod ysgafnach a gadael
y deunydd trymach ar ôl, gan gynnwys gronynnau aur yn y Gogledd. Y broses
hon a greodd aur banc tywod afon Mawddach ac afonydd eraill yn y Gogledd,
lle cafwyd rhai cnepynnau sylweddol yn y gorffennol. Heddiw, maent yn
hynod o brin oherwydd y chwilota a fu ynghynt!
Cyn, yn ystod ac ar
ôl Oes yr Iâ, aeth ardaloedd calchfaen Cymru - yn y Gogledd-ddwyrain a’r
De yn bennaf - trwy fath arbennig o broses ddaearegol sy’n arbennig i
galchfaen. Gall dwr glaw doddi calchfaen, gan mai calsiwm carbonad yw
yn bennaf. Mae’n broses hynod araf yn nhermau dynolryw, ond dros gyfnodau
cymharol fyr yn ddaearegol - degau o filoedd o flynyddoedd - mae’n syndod
faint o doddi all ddigwydd. Mae’r dwr glaw yn treiddio dan ddaear, i lawr
planau ffawt a thoriadau breg; weithiau mae’n gweithio ei ffordd i lawr;
dro arall, pan ddaw i fan lle mae gwrthgyferbyniad daearegol nodedig,
fel llain galchfaen enfawr a gwely siâl anhreiddiadwy dani, mae’n mynd
ar draws. Y naill ffordd neu’r llall, systemau o ogofâu yw’r canlyniad.
Mae gan Gymru sawl system o’r fath, fel y rhai yn ardaloedd Helygain a
Mwynglawdd yn y Gogledd-ddwyrain, ac yn Nan yr Ogof yn y De, lle mae ogofa
yn arbennig o boblogaidd ac ogofâu arddangos yn agored i’r cyhoedd. Yma
cewch weld y ffurfiannau cerrig dylif hardd - llenni tonnog o stalagtitau
a stalagmitau, a ffurfiwyd wrth i’r un dyfroedd ag a doddodd y calchfaen
yn y lle cyntaf ailddyddodi’r calsiwm carbonad ar ffurf aragonit. Mae’r
rhain yn gynnyrch miloedd o flynyddoedd o weithgarwch cemegol araf - rhywbeth
i fyfyrio yn ei gylch wrth ichi sefyll o’u blaenau.
Y CYFNOD HOLOSEN
10000 o flynyddoedd yn ôl i’r presennol
Wrth i’r hinsawdd
gynhesu ac i’r llystyfiant gynyddu, lledodd ton ar ôl ton o bobl ar draws
Prydain - a darganfyddiad mwynau metel yn aml yn eu denu. Y mewnlifiad
hwn o bobl a nodweddai ddatblygiad Cymru o’r cyfnod Palaeolithig, neu
Hen Oes y Cerrig, hyd heddiw, ac fe’i hadlewyrchir yn amrywiaeth cyfoethog
diwylliant Cymru. Tystiolaeth o’r cyfnod hwn, a drosglwyddwyd trwy’r traddodiad
llafar ac a gofnodwyd wedyn yn ysgrifenedig, yw’r hyn a alwn yn hanes.
Mae hanes felly yn cynrychioli tua 0.0002173% o amser daearegol.
Mae’n anodd gwybod
pryd y daeth y glowyr cyntaf i Gymru. Gwyddom fod yr iâ wedi mynd i bob
pwrpas erbyn 10,000 o flynyddoedd yn ôl ac roedd gwladychu wedi hen ddechrau.
Ymddengys fod creigiau a mwynau wedi swyno pobl erioed, a phrin y gellir
credu na fyddai’r trigolion cynnar hyn wedi sylwi ar ambell garreg anarferol
neu liwgar ar eu teithiau. Ond mae ein dulliau gwyddonol modern wedi dangos
bod diwydiant mwyngloddio pur brysur i’w gael mewn rhannau o Gymru erbyn
ychydig dan 4000 o flynyddoedd yn ôl. Pobl yr Oes Efydd oedd y mwyngloddwyr
cynnar hyn, pobl a oedd wedi mudo’n araf i’r gogledd a’r gorllewin trwy
Ewrop, gan chwilota am fwynau wrth fynd - ac am ddau fetel yn arbennig,
sef tun a chopr. Ychydig o dun a geir yng Nghymru, ond mae copr yn stori
wahanol. Bu’r bobl hyn yn cloddio am gopr mewn nifer o lefydd yng Nghymru,
o’r Gogarth yn y Gogledd i Gwmystwyth yn y Canolbarth. Yn ôl yr arwyddion
a adawyd, lle bynnag yr oedd mwneiddiad copr o bwys, rhoesant gynnig arni.
Mwyngloddiwyd trwy falurio’r graig â thân, ac yna ei thorri a’i thynnu
allan â morthwylion trwm o gerrig a phicasau o ddarnau o gorn carw. Mae
olion offer o’r fath a’r siercol a adawyd gan y tanau wedi caniatáu i’n
haneswyr ddarganfod pa mor hen oedd y mwyngloddiau cynnar hyn - trwy gyfrwng
dyddio Carbon 14. Mae’r canlyniadau yn hynod gyson ar draws Cymru ac yn
awgrymu dyfodiad pobl a ddeallai, i raddau digonol, ddaeareg, chwilota
am fwynau, mwyngloddio a meteleg, bron 2000 o flynyddoedd cyn i’r Rhufeiniaid
gyrraedd.
Hanes mwyngloddio
Cymru a’r chwilio am ei gwahanol fwynau gwerthfawr yw’r allwedd i ‘Cymru
Dan y Ddaear’, fel y gwelwch wrth ichi bori yn nhudalennau’r wefan hon.
Mwynhewch yr ymweliad!
<<
Cysylltiadau
|