|
Amrywiaeth
Y Byd Naturiol
Cyfansoddion cemegol
anorganig sy’n digwydd yn naturiol ac a gydgrynhodd i ffurfio creigiau
yw mwynau. Mae dros 3,500 o wahanol fwynau a phob un â chyfansoddiad arbennig
a threfniant mewnol sefydlog o atomau. Mae’r trefniant mewnol yn creu
wynebau crisial ac iddynt gyfeiriad rheolaidd ac yn rhoi amrywiaeth helaeth
o ffurfiau. Os oes digon o le, gall mwynau dyfu i roi crisialau mawr cyfarwydd
eu ffurf a all fod yn hardd iawn.
Yn yr oriel hon mae
arddangosfa drawiadol o fwynau o bob rhan o’r byd, yn cynnwys llawer o’r
oddeutu 400 o fwynau gwahanol y cafwyd hyd iddynt yng Nghymru. Mae prif
ran yr arddangosfa wedi ei threfnu fel bod y lliwiau’n cydweddu’n hardd.
Mae lliw mwyn yn dibynnu ar faint o olau a gaiff ei amsugno a’i adlewyrchu.
Mae’r amsugnad hwn yn ymwneud yn bennaf â’r elfennau cemegol sydd i’w
cael yn y mwyn a hefyd ar drefniant yr atomau. Mae lliwiau rhai mwynau’n
amrywio oherwydd i wahanol elfennau fynd i mewn i’r crisialau tra roeddent
yn tyfu. Mae detholiad o grisialau ffl?orsbar o wahanol liwiau yn enghreifftiau
trawiadol o’r ffenomen hon.
|