Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Oriel Esblygiad
Cymru

Cyflwyniad

Yr arddangosfa

Cyfansoddion

Yr arddangosfa

Hanes yr arddangosfa
Bu daeareg yn rhan bwysig o’r arddangosiadau yng Nghaerdydd er pan agorodd yr Amgueddfa Genedlaethol yn 1907. Mae’r rhain wedi canolbwyntio erioed ar hanes daearegol Cymru a’i berthynas â gweddill y byd. Pan fu ailadeiladu helaeth ar yr Amgueddfa yn gynnar yn y 1990au, defnyddiwyd y cyfle i ddylunio ac adeiladu arddangosfa Esblygiad Cymru gan ymgorffori’r casys arddangos a’r effeithiau clyweledol diweddaraf. Agorwyd yr arddangosfa gyfoes hon gan Ei Mawrhydi’r Frenhines.

Yr arddangosfa
Mae eich taith trwy amser yn cychwyn â fideo trawiadol y Glec Fawr sydd â’i garped a’i waliau ei hun o ‘sêr yn disgleirio’. Ar ôl gwylio geni’n planed dewch allan i’r byd cyntefig, bron 4,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl, i weld ein creigiau a’n gwibfeini hynaf, a hyd yn oed ddarn o graig o’r lleuad. Yma mae mwynau, creigiau a ffosilau sy’n dangos amrywiaeth bywyd yn y cefnforoedd a orchuddiai Gymru yn ystod y cyfnod Palaeosoig cynnar. Gerllaw mae diorama o Riffiau Cwrel Silwraidd yn dod â’r cyfnod nesaf yn fyw. Trwy gydol y cyfnod Palaeosoig cynnar roedd cyfnodau o weithgarwch folcanig ffyrnig yn yr ardal. Yn y cyfnod Ordofigaidd arweiniodd hyn, ynghyd â gweithgarwch hydrothermol, at ffurfio llawer gwythïen fetelog o aur, arian, plwm a chopr. Roedd rhagor o weithgarwch folcanig, a bortreëdir yn fyw iawn mewn sioe fideo o losgfynydd, yn rhagargoel o symudiadau enfawr yng nghramen y ddaear a gododd Gymru uwchben lefel y môr.

Dechreuodd y cyfnod Palaeosoig hwyr â’r môr yn cilio gan adael llawer o Brydain dan orchudd o afonydd a deltâu. Mae’r dyddodion o Hen Dywodfaen Coch a ddeilliodd o hyn yn cynnwys tystiolaeth o blanhigion tir cynnar a pherthnasau dwr croyw i bysgod ysgyfeiniog a allai oroesi trwy anadlu trwy eu hysgyfaint cyntefig. Yna cododd y tymheredd ac arweiniodd yr amodau morol trofannol at galchfaen Carbonifferaidd â’i amrywiaeth o gwrel, crinoidau, braciopodau a chregyn deuglawr. Yn y moroedd hyn roedd perthnasau pell i’r ystifflogod modern yn nofio.

Codwyd y tir i’r wyneb unwaith eto, ond y tro hwn roedd yr amodau gwlyb trofannol yn berffaith ar gyfer twf cnwpfwsoglau a marchrawn enfawr. Tyfent mewn gwernydd anferthol a orchuddiai filoedd o gilometrau sgwâr. Ar lifgloddiau’r deltâu tyfai rhedyn a had-redyn a ffurfiodd hynafiaid y conwydd fforestydd ar y tir sychach o gwmpas. Y mawn a grynhodd yn y gwernydd hyn a ffurfiodd yr haenau glo a wnaeth Gymru yn ardal gynhyrchu glo bwysicaf y byd ar un adeg. Mae ffosilau, glo a fideo o ffurfiannau glo yn ategu’r diorama o wern neu gors lo o’r fath. Diflannodd yr holl gors-fforestydd toreithiog hyn ar ddiwedd y cyfnod Carbonifferaidd gan adael llawer llai o fflora yn yr amodau sychach yn y cyfnod Permiaidd a ddilynodd.

Y cam nesaf ar y daith yw’r un ar draws y rhaniad rhwng y cyfnodau Palaeosoig a Mesosoig pan ysgubodd trychineb fawr dros y ddaear a difa dros 90% o’i rhywogaethau byw. Roedd Cymru yn dir isel, anial ac yn dueddol o ddioddef llifogydd chwyrn a stormydd enbyd. Nawr mae’r ymlusgiaid enfawr a ddaeth i dra-arglwyddiaethu ar y rhan fwyaf o’r byd yn eich wynebu. Mae sgerbydau a modelau o rai o’r dinosoriaid hyn yno ynghyd ag olion y mathau newydd o gonwydd, coed gwallt y forwyn, sycadau, sycadeiodau a rhedyn a dyfai ar wyneb y ddaear. Roedd yr uwch gyfandir, a alwn yn Pangea, bellach yn dechrau ymddatod yn wahanol dirfasau - y rhain fyddai’n ffurfio cyfandiroedd y byd heddiw. Felly mae eich llwybr yn awr yn ‘disgyn’ i mewn i’r môr Jwrasig bas a chynnes a orchuddiai’r rhan fwyaf o Gymru a llawer o Brydain. Mae ffosilau a delweddau yn dangos y bywyd yn y moroedd hyn yn fyw iawn. Ymhlith y ffosilau mwyaf cyffredin a geir yng nghreigiau’r cyfnod hwn y mae perthnasau’r octopysau, yr ystifflogod a’r môr-gyllyll. Roedd yno ymlusgiaid y môr hefyd fel Ichthyosoriaid, Pleisosuriaid, Pliosoriaid a’r Mosasoriaid enfawr a oedd hyd at 10 metr o hyd. Ar wely’r môr roedd llawer o folysgiaid cragennog, perthnasau pell cocos, wystrys, gwichiaid a moch môr heddiw.

Mae’r cam drosodd i’r cyfnod Cenosoig a ddaeth wedyn yn mynd â chi dros y ffin a elwir yn ffin K/T pan gredir i asteroid enfawr daro’r ddaear a difa’r dinosoriaid. Ychydig iawn o ddyddodi Cenosoig a fu yng Nghymru ac felly does gennym fawr o dystiolaeth uniongyrchol o’r newidiadau enfawr a ddigwyddodd o gwmpas y byd. Roedd heidiau o bysgod modern yr olwg yn nofio mewn llynnoedd ac afonydd, ac adar a chrocodilod yn byw ar ymylon y dwr. Ar y tir, tro’r mamaliaid oedd hi a’u newid esblygol chwim o greaduriaid bychain tebyg i lyg i gewri newydd y cyfnod. Yma gallwch edrych ar y ffordd yr esblygodd ceffylau heddiw o hynafiaid o faint cathod a oedd yn byw oddeutu 55 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd planhigion hefyd yn newid a daeth y planhigion blodeuog i dra-arglwyddiaethu ar lawer o lystyfiant y byd. Yn wir, erbyn 1.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd patrymau llystyfiant modern wedi gwreiddio’n gadarn. Ffurfiwyd prif nodweddion tirwedd fodern Cymru ac mewn mannau eraill roedd bodau dynol cynnar yn esblygu.

Rydych bellach yn agosáu at ein dyddiau ni pan gamwch i mewn i gyfres o ogofâu, i Oes yr Iâ i wynebu mamothiaid ar grwydr. Mae fideo’n egluro pam y bu newidiadau eithafol yn yr hinsawdd a’r rhesymau am y rhewlifiannau, cyn ichi fynd heibio i olion trawiadol yr anifeiliaid a oedd yn byw ar y twndra. Gwelwch yma sgerbwd carw mawr, ‘Cawrgarw Iwerddon’, gyda’i reiddiau yn rhychwantu 4m, olion mamoth a model o rinoseros gwlanog. Roedd y llenni iâ a oedd yn mynd ac yn dod yn cerfio’r cymoedd ffurf ‘U’ a geir yn ucheldiroedd Cymru. Roedd yr iâ yn andwyol i’r rhan fwyaf o lystyfiant. Oherwydd yr oerfel dim ond y gwytnaf o blanhigion bach a oroesodd, sef y planhigion arctig/alpaidd sydd gennym heddiw. Collwyd llawer rhywogaeth o Brydain na ddaeth byth yn ôl.

Ag Oes yr Iâ drosodd o’r diwedd - hyd y gwyddom - daeth y fforestydd yn ôl i Gymru. Ond yna, â’r afonydd iâ yn meirioli, boddwyd llawer iawn o’r tiroedd arfordirol isel. Gellir gweld tystiolaeth o goedwigoedd boddedig ar hyd llawer rhan o arfordir Cymru, yn enwedig pan fydd llanw mawr yn chwipio’r traethau ac yn dadorchuddio boncyffion coed derw a phin a fu ynghladd mewn priddoedd mawn ffosiledig.

Gwelwyd y newidiadau olaf yn nhirwedd Cymru pan gliriwyd y fforestydd, proses a ddechreuwyd 10,000 o flynyddoedd yn ôl gan wladychwyr y cyfnod Mesolithig. Yn ddiweddarach, 4,500 o flynyddoedd yn ôl, daeth y bobl a fwyngloddiodd gopr Cymru a’i gymysgu â thun o Gernyw i wneud yr aloi efydd. Dyma’r metel pwysicaf am bron 2,000 o flynyddoedd nes i haearn ymddangos.


Cyfansoddion >>