Yn ôl i'r hafan
Cymru Dan y Ddaear
Hafan Mapiau Cysylltiadau View this page in English
   

Oriel Esblygiad
Cymru

Cyflwyniad

Yr arddangosfa

Cyfansoddion

Cyflwyniad

Os ydych wir eisiau gwybod am ddaeareg Cymru, y lle i ddechrau yw Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. O flaen eich llygaid mae arddangosfa ddwyieithog fendigedig, yn llawn creigiau, mwynau a ffosilau a’r cyfan yn dod yn fyw trwy arddangosiadau clyweledol trawiadol, fideos, dioramâu a chyfoeth o wybodaeth hawdd ei threulio. Bydd eich ymweliad yn mynd â chi ar daith ryfeddol 4,600 miliwn o flynyddoedd y darn bychan o gramen y Ddaear yr ydym ni yng Nghymru heddiw yn byw arno. Beth bynnag eich diddordeb chi mewn daeareg cewch ddigon i edrych arno yma cyn ymweld â’r safleoedd eraill ar ein Llwybr Trwy Amser.

Yn yr oriel gyfagos, Amrywiaeth y Byd Naturiol mae casgliad gwych o fwynau wedi eu labelu’n llawn a’u gosod allan â’u lliwiau’n cydweddu’n drawiadol. Dyma’r union ymweliad i gyd-fynd â’ch ymweliadau â’r mwyngloddiau metelog ar y llwybr.


Yr arddangosfa >>