![]() |
|
|||
|
Y Mynydd Gwefru
|
Cyflwyniad
Yn y Ganolfan, mae’r adeiladau aml-lawr yn cynnwys amrywiaeth difyr iawn o arddangosiadau rhyngweithiol, modelau a gwrthrychau. Yma gwelwch hanes a datblygiad trydan-dwr a sut y caiff pwer ei fwydo i mewn i’r Grid Cenedlaethol. Mae arddangosfa o wyddor naturiol yn cyflwyno hanes naturiol Eryri ac yn egluro’n fras sut y ffurfiodd Oes yr Iâ y tirwedd yn fryniau a dyffrynnoedd, sef y rhai sydd yma heddiw. Ar ôl sioe sain a llun, mae’r daith dan ddaear yn mynd â chi ar fws o’r Mynydd Gwefru i ganol pwerdy Dinorwig. Ar ôl gyrru trwy’r labyrinth o dwneli byddwch yn dod allan mewn sawl lle i weld y generaduron a darganfod sut y gallant newid o ddim cynnyrch i bwer llawn mewn eiliadau. Mae’r system storfa bwmp sy’n cynhyrchu trydan yn Ninorwig yn dibynnu ar gwymp dwr i droi’r twrbinau. Mewn geiriau syml, mae dwr dan wasgedd uchel yn mynd i mewn i’r system o ffynhonnell uchel (Marchlyn Mawr), yn troi’r twrbinau ac yn mynd allan dan wasgedd isel i’r gronfa gadw (Llyn Peris). Mae’r holl system eneradu wedi ei chladdu yn nyfnderoedd mynydd Elidir mewn ogof ddigon mawr i gynnwys Eglwys Gadeiriol St Paul. Tyllwyd neu ffrwydrwyd dros 16 cilometr o dwneli i galon y mynydd a thyllwyd rhagor o dwneli i Marchlyn Mawr a Llyn Peris. Er mwyn cynnwys yr holl ddwr sydd ei angen i weithio’r twrbinau roedd rhaid gwneud y ddau lyn yn fwy. Codwyd argae ym Marchlyn Mawr, gwaith a gymerodd bedair blynedd, fel y gallai’r llyn gynnwys hyd at 7 miliwn metr ciwbig (1,540 miliwn o alwyni) o ddwr. Pan fydd y system yn gweithio’n llawn bydd lefel y dwr yn codi ac yn disgyn 34 metr bob dydd. Roedd angen gwneud Llyn Peris yn fwy hefyd ond gwnaed hyn yn bennaf trwy symud peth wmbredd o wastraff chwareli llechi o’r llyn yn hytrach na thrwy godi argaeau yn nau ben y llyn. Trowyd cwrs Nant Peris a arferai lifo i mewn i’r llyn fel ei bod yn llifo o’i gwmpas ac i mewn i Lyn Padarn islaw. Pan agorir y falfiau i’r dwr ddisgyn o Farchlyn Mawr mae ymchwydd aruthrol yn y gwasgedd. I wrthweithio hyn adeiladwyd siafft arall i bwll ymchwydd yn uchel ar y mynydd.
Pan fydd Dinorwig ar waith mae cymaint o ddwr yn mynd trwy’r twneli ag y mae Llundain yn ei ddefnyddio mewn diwrnod cyfan. Pan nad oes angen y pwer ychwanegol gellir gwrthdroi’r twrbinau ac yna bydd dwr yn cael ei bwmpio yn ôl i fyny i Farchlyn Mawr lle bydd yn barod i’w ddefnyddio eto pan fydd angen. |
|||
|