![]() |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Y Mynydd Gwefru
|
Adeiladu Adeiladu’r Prif
Ogofâu a’r Twneli Yr ogofâu a’u prif ddimensiynau
Defnyddiwyd adeiladwaith concrit a dur wedi ei atgyfnerthu ar gyfer y gwahanol loriau ac ystafelloedd. Ond roedd rhaid gwneud astudiaethau cyfrifiadur i asesu diriant ac amleddau naturiol yr adeiladwaith i sicrhau y byddai’r adeiladwaith o goncrit wedi ei atgyfnerthu a oedd yn cynnal pob tyrbin-pwmp/modur-generadur yn gweithredu heb ddirgrynu. Mae adeiladwaith yr holl dwneli yn debyg a chânt eu cynnal i gyd â bolltau craig i weddu i adeiladwaith y graig dan sylw. Rhoddwyd haen o goncrit chwistrell, wedi ei atgyfnerthu mewn mannau â rhwyllwaith o ddur, ar y rhan fwyaf o’r toeau a’r waliau. Mae’r twneli yn debyg hefyd eu trychiad, gyda gwaelod gwastad a tho ar ffurf hanner cylch. Y mwyaf ohonynt yw twnnel ar gyfer dod â’r offer i mewn (8.0m o led, 7m o uchder a 711m o hyd) a luniwyd ar gyfer y darn mwyaf oll, sef y newidydd generadur-modur 400/18kV. Y twnnel hwn hefyd yw’r prif lwybr ar gyfer cerbydau, personél a pheiriannau i mewn i bob rhan o’r system ogofâu. Mae’r twneli gwresogi ac awyru yn gyswllt rhwng y prif siafft (simnai) awyru, sy’n 255m o uchder ac yn 5.0m o ddiamedr, a’r siafftiau awyru bychain sy’n gwasanaethu’r prif ogofâu. Mae’r twneli hefyd yn arwain at ran o’r peiriannau offerynnu craig yn y brif ogof. Mae twnnel y ceblau yn cario dau gebl 400 kV y brif orsaf rhwng ardal y brif ogof a’r wyneb. Ceir cyfleusterau goleuo parhaol a brys yn y rhan fwyaf o dwneli.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|